Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Torchi llewis

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:32, Dydd Gwener, 4 Tachwedd 2011

Trafferthion efo crysau Olympaidd; Shane yn chwilio am ei grys rhyngwladol olaf a Gerallt yn tynnu crys y Meuryn.

Dim ond tri o'r pethau oedd pobl yn siarad amdanyn nhw yn ystod yr wythnos. DDDd - ein Detholiad Diweddaraf o Ddyfyniadau . . .

  • Dwi wrth fy modd fod pobl ledled Cymru wedi ymaddasu cystal i'r tâl am fag - John Griffiths AC, Gweinidog Amgylchedd Cymru yn ymfalchïo bod 90% o ostyngiad yn y defnydd o fagiau un tro.
  • English Diet - ffordd iachach y Saeson o fwyta a allai arbed mwy na mil o fywydau'r flwyddyn pe byddai'r Cymry a'r Albanwyr yn ei mabwysiadu yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Rhydychen.
  • Cymru, y lle peryclaf i weithio ynddo yn y Deyrnas Unedig - pennawd yn y 'Western Mail' ddoe. Ymddengys bod mwy o ddamweiniau gwaith yng Nghymru.
  • Wrth gwrs roedd y dyn yn dod o MI6 yn doedd - Mair Russell Jones a gadwodd am dros 70 mlynedd y gyfrinach iddi gael ei dewis i weithio yng nghanolfan datrys codau Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
  • Yr wyf wedi ei gwneud yn glir; rhaid i wasanaethau iechyd fod yn ddiogel, yn gynaliadwy a darparu gofal o'r safon uchaf - Lesley Griffiths AC y Gweinidog Iechyd yn y Cynulliad.
  • Dwi jest isio i rywun siarad Cymraeg efo fi pan fyddai'n giami - Bethan gwanas yn canu clodydd nyrsus yn atodiad 'Yr Herald Cymraeg' yn y 'Daily Post' ddydd Mercher. "Beth bynnag fo eu hiaith mae pob nyrs angen ei chanmol a'u talu yn dda am waith na allwn i ei wneud am bensiwn," meddai.
  • 36 - nifer y cardiau credyd oedd gan ferch ifanc a drodd at wasanaeth Cyngor ar Bopeth yn Wrecsam am gyngor ynglÅ·n â dyled o £28,000.

  • Prin iawn yw'r tirluniau Cymreig sy'n dangos melinau gwynt ar y gorwel - Wyn Melville Jones sydd wedi creu llun o Fynydd Gorddu ger Aberystwyth er cof am yr arloeswr ynni gwynt, y Dr Dafydd Huws.
  • Rwy'n credu fy mod i'n sicr o sgwennu llyfr arall achos fe fwynheais y peth - pe bai ond am gael bod adref. Gallwch eistedd gartref a gweithio yn eich pyjamas. Mae yna lawer i'w ddweud am y peth - Rob Brydon sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, 'Small Man i a Book'.
  • 267 - Nifer y cwynion a dderbyniodd y Ö÷²¥´óÐã yn dilyn dawns Robbie Savage ar 'Strictly Come Dancing'.
  • Yr ydw i wedi gwisgo mwy yn dod allan o'r gawod nag oeddwn i'n ei wisgo i lansio'r sioe - Alex Jones, un arall o ddawnswyr Cymru ar 'Strictly'.
  • Roedd siopau dillad a thrin gwallt yn anarferol o brysur pan oedd Dechrau Canu yn ymweld ag ardal - pennawd erthygl yn yn sôn am ddathliadau hanner can mlynedd 'Dechrau Canu Dechrau Canmol'.
  • Y mae yna'n parhau deimlad cryf o gwmpas - bydded yn gywir neu beidio - fod cymdeithas gyfan yn talu am gamgymeriadau ac anghyfrifoldeb bancwyr - Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn ymateb i brotestiadau y tu allan i Eglwys Sant Paul yn Llundain.
  • Mae'n beth da i'w henaid os cânt gip weithiau o'u cydwladwyr sydd ddim ar werth ond yn dweud, 'Dydy ni ddim yn mynd i'ch llyfu. Yr ydym yn mynd i'ch herio - Elaine Morgan yn ymateb i brotest Sant Paul yn y 'Western Mail'.
  • Cyllyll, bwled dyrnau haearn a nwy CS - rhai o'r pethau a gymrodd swyddogion diogelwch oddi ar ymwelwyr â'r Cynulliad yng Nghaerdydd.
  • O... dyma ni'n mynd nawr - Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC (dan ei gwynt).
  • Mae addysg mor bwysig i mi ond yn y cyfamser mae gen i gyfrifoldeb i gynrychioli Cymru - Miss Wales, Sara Manchipp o Borth Talbot, testun rhaglen ar Tachwedd 10.
  • Mae yna lot o reolau - Iwan o o fand Cowboi Rhos Botwnnog sy'n derbyn gwersi Cerdd Dant ar Radio Cymru.
  • Diwrnod hanesyddol pwysig . . . Dyma ddechrau cyfnod newydd i'n hawduron - dyfyniad yn 'Y Cymro' o ddyddiadur y diweddar Alun R Edwards, Llyfrgellydd Sir Aberteifi ar y pryd, ddiwrnod sefydlu Cyngor Llyfrau Cymru hanner can mlynedd yn ôl, Tachwedd 6, 1961.
  • Mae'r ymgyrchoedd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth - Bethan Herbert o'r Lleng Brenhinol Prydeinig yn trafod darpariaeth ddigidol Sul y Cofio.
  • Dwi wedi gwneud 32 o flynyddoedd fel Meuryn ac efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rywun arall - Gerallt Lloyd Owen yn ymddeol o'r Talwrn.


  • Rwyf yn aml wedi meddwl mai rhyw fath o gefnogwr pêl-droed ymhell cyn ei amser oedd y bardd Cwsg, Ellis Wynne - Glyn Griffiths yn trafod arian pêl-droed yn 'Y Cymro'.
  • Rhaid inni flaenoriaethu a dyw'r Olympics ddim yn bwysig ym myd pêl-droed - Gary Speed a fydd yn cael gair gydag Aaron Ramsey a Gareth Bale am iddyn nhw wisgo crys tîm pêl-droed Olympaidd Prydeinig yn groes i ddymuniad Cymdeithas Pêl-droed Cymru. "Mae'n anffodus iddyn nhw gael eu defnyddio fel hyn . . . mae yna lawer o bropaganda yn mynd ymlaen," meddai yn y 'Western Mail'.
  • Mae criced yn gêm wefreiddiol a rhaid inni adfer hyder y cyhoedd ynddi. Mae'n bwysig ein bod yn ceisio gadael y gêm mewn cyflwr gwell na'r un wnaethom ni ei ddarganfod - Robert Croft yn dilyn "diwrnod du" carcharu tri chricedwr o Bacistan am dwyllo.
  • Does dim rhaid i fywyd stopio - Mark Colbourne y seicliwr paralympaidd sy'n gwella yn dilyn damwain erchyll.
  • Fe'i gollyngais yn reddfol. Fe dd'wedo nhw ei bod yn gerdyn goch a phan edrychais ar y llyfr rheolau allwn i ddim cwyno mewn gwirionedd - Sam Warburton yn cydnabod iddo gael ei haeddiant gan Alain Rolland.
  • Os caf fy newis yr wyf eisiau chwarae - Shane Williams am y gêm yn erbyn Awstralia fis Rhagfyr. Ei gêm ryngwladol olaf.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.