主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Cymeriadau Ll欧n - pobl Ioan Roberts

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Gwyn Griffiths | 12:10, Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2011

Cwyno wnawn ni fod cymeriadau yn darfod ond dydy nhw ddim, oherwydd mae rhai eraill yn dod yn eu lle, nid i lenwi eu sgidiau ond i greu eu sgidiau unigryw eu hunain.

Ond fel y dywed Ioan Roberts, golygydd Cymeriadau Ll欧n, mae鈥檙 arferion a鈥檙 amgylchiadau a鈥檙 galwedigaethau a luniodd y cymeriadau a bortreadir yn y gyfrol wedi diflannu a hynny鈥檔 rhoi gwerth iddi i鈥檙 hanesydd lleol a chymdeithasol a deunydd darllen difyr, diddorol, i鈥檙 rhai hynny ohonom sydd ddim yn poeni am bethau o鈥檙 fath.

  • Cymeriadau Ll欧n. Golygydd Ioan Roberts. Cyfres Cym锚rs Cymru. Gwasg Gwynedd. 拢5.95

Idris Evans 鈥 Tarw Nefyn 鈥 yw鈥檙 unig gymeriad y teimlwn fy mod i鈥檔 gwybod rhywfaint amdano diolch i seiad nos Fawrth, flynyddoedd go lew yn 么l, yng nghwmni golygydd y gyfrol ac un arall oedd wedi chwarae gyda鈥檙 Tarw, Orig Williams a Robin Ken i d卯m Dyffryn Nantlle.

Rheini oedd y dyddiau da pan fyddai鈥檙 miloedd yn heidio i wylio gemau Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog 鈥 llond wyth bws yn mynd bob Nadolig i wylio Pwllheli鈥檔 chwarae Caernarfon.

Bellach mae鈥檙 Tarw dros ei bedwar ugain ac yn chwarae bowls. 鈥淕锚m bach dda 鈥 jyst bo fi ddim yn cael taclo!鈥

Wedyn, dyna bortread y Parch Meirion Lloyd Davies o鈥檙 Parchedig Morgan Griffith.Diddorol fuasai olrhain faint o w欧r yr Efengyl fu yn y sgw芒r bocsio cyn troi tua鈥檙 pulpud.Dynion fel 鈥淒an bach o Bontypridd鈥 a Morgan Jones, Hendy-gwyn-ar-D芒f, 鈥mountain fighters鈥 hyd yn oed!

Yn llinach y rheini y daw Morgan Griffith 鈥 pencampwr bocsio yn y coleg a鈥檌 fam, hefyd, yn dipyn o ddynes yn magu tri o weinidogion a dal i regi fel tincar!

Mae鈥檔 amlwg i Morgan ddysgu rhywfaint wrthi.Er yn gapten Clwb Golff Pwllheli, gwrthwynebodd benderfyniad y clwb i ganiat谩u chwarae ar y Sul.

Pregethodd yn erbyn y penderfyniad mewn cyfarfod awyr agored ar y Maes ym Mhwllheli ar y prynhawn Sadwrn cynt.鈥淎 gobeithio bydd hi鈥檔 glawio ar y diawlad fory,鈥 taranodd.

Mae yma amryw o ysgrifau portread ardderchog, fel un Gwyneth Owen am ei thad, John Rowlands, gyrrwr lori laeth ac englynwr.Dyna鈥檙 dyddiau pan fyddai llawer ohonom yn manteisio ar y lori laeth am lift i rywle neu鈥檌 gilydd ar fore Sadwrn.

A beth am yr englyn hwn o鈥檌 eiddo i Fwthyn Nain?

Bwthyn heb fawr o bethau 鈥 a fu鈥檔 Nef
I Nain gynt a minnau,
A brwyn o gors y bryniau
Yno鈥檔 do i ni ein dau.

Cymeriadau lliwgar fel y Si么n Bodantur ddyfeisgar a鈥檌 chwaer awengar Ann o L欧n.Eisteddfotwyr dawnus, wedyn, fel y canwr gwerin, Harri L么n, a gyflwynir mewn campwaith o ysgrif gan Eleri Llewelyn Morris, a鈥檙 adroddwraig, Neli鈥檙 Hendra, un o sawl portread graenus gan Ioan Roberts ei hun.

鈥淒wi wedi ennill amball dro am mai fi oeddwn i, ac wedi colli am yr un rheswm dro arall.Mympwy beirniad ydi hwn i gyd,鈥 meddai Neli, a hithau wedi beirniadu bum gwaith yn y Genedlaethol.

Hoffais yn fawr y portread o Dafydd Parry yr Ocsiwn茂ar, cowlaid o straeon da.Oes yna arwerthwyr sy鈥檔 bwrw drwyddi鈥檔 ddwyieithog y dyddiau hyn?Cofiaf rai鈥檔 gwneud yn mart Tregaron slawer dydd.

Un dda yw鈥檙 stori am angladd hen lanc o ffermwr cefnog heb unrhyw berthnasau agos ond nifer o rai pell 鈥 gobeithiol.Wedi鈥檙 angladd cyhoeddodd Parry o ddrws o festri 鈥 鈥淧awb sy鈥檔 perthyn i鈥檙 Band of Hope, dewch yma ar eich union鈥.

Cyfrol i ysgafnhau鈥檙 cyfnod wedi鈥檙 Nadolig 鈥 a nid jyst ar gyfer pobol Ll欧n!听听听听听听听

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.