主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Llestri Lowri

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Gwyn Griffiths | 11:21, Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2011

Bu Nantgarw yn ysbrydoliaeth i mi- y lle, y traddodiad, yr holl hanes, ac yn fwy na dim y llestri a gynhyrchwyd yma, meddai Lowri Davies. Bydd arddangosfa o鈥檌 gwaith yn agor yn Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw, nos Wener, Rhagfyr 9.

Er iddi dreulio pedair blynedd gyntaf ei bywyd i fyny鈥檙 rhiw yn Nhonteg, yn Aberystwyth y cafodd ei magu a chael ei haddysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penweddig.

Cerddai o gwmpas Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw, y lle y bu William Billingsley a Thomas Pardoe yn cynhyrchu鈥檙 porslen bydenwog yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn syllu ar y addurniadau bach ar y llestri a鈥檜 cop茂o mewn llyfr sgetsio.

鈥淢ae blodau鈥檔 bwysig fel addurniadau porslen Cymreig, yn enwedig gwaith Nantgarw,鈥 meddai.Hyd yn oed cyn agoriad swyddogol ei harddangosfa safai gweithiau Lowri ochr yn ochr barchus gyda鈥檙 casgliad bychan o gynnyrch amhrisiadwy Nantgarw sydd yn yr amgueddfa.

Mae i鈥檙 adeilad a鈥檙 safle, lle unwaith y llithrai鈥檙 badau heibio ar eu ffordd rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd, bwys Ewropeaidd, oherwydd mae olion yr hen gelfyddyd yma o hyd.

Mae鈥檙 hen odynnau yn y cefn, mae yma grochenydd, Sally Stubbins, yn gweithio ac yn hyfforddi dosbarthiadau - a saif yr hen d欧 yn gadarn rhwng y man lle bu unwaith y gamlas 芒鈥檌 thrafnidiaeth hamddenol a rhuthr gwyllt presennol yr A470.

鈥淩ydw i wedi bod yn astudio ac arsylwi patrymau Cymreig eraill,鈥 meddai, 鈥減orslen Abertawe, Llanelli, Bwcle, Ewenni 鈥 a rwy iwedi bod yn ymwybodol o draddodiadau Cymreig eraill.Yr oedd tacsidermydd adnabyddus - Hutchings - yn Aberystwyth yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau鈥檙 ugeinfed ganrif.

鈥淵n Ysgol Gynradd Aberystwyth yr oedd nifer o anifeiliaid wedi eu stwffio mewn blychau gwydr.Welwn i ddim byd rhyfedd yn y peth, roedden nhw i鈥檞 gweld yn Amgueddfa Aberystwyth, hefyd, ac yn gyffredin yn nhai pobol yr ardal.

鈥淔elly rwy iwedi bod yn astudio鈥檙 rhain a鈥檜 cop茂o ffel ffynhonnell arall i addurn fy ngweithiau.鈥

Ffynhonnell arall i鈥檞 haddurniadau yw鈥檙 straeon ias ac ysbryd a glywodd ar aelwyd ei nain yn ardal Machynlleth 鈥 fel honno am yr ysbryd drwg a garcharwyd mewn tebot.

Mae addurniadau ei llestri ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn draddodiadol Gymreig ond o syllu鈥檔 fanwl arnyn nhw fe welir nad ydyn nhw鈥檔 mor draddodiadol a hynny.

Ar debot fe geir llun yr ysbryd a garcharwyd mewn tebot.Mae ganddi ddawn i gynhyrchu lluniau bach gosgeiddig wedi ei datblygu o鈥檙 syniadau a鈥檙 arddull a w锚l ar lestri Nantgarw.

鈥淵n blentyn byddai fy nhad yn fy annog i wneud lluniau bach, bach, gyda phen ac inc.鈥

O Ysgol Penweddig aeth Lowri i Goleg Sir G芒r i wneud cwrs sylfaen mewn celf.Oddi yno aeth i Goleg CelfCaerdydd (UWIC) gan raddio mewn Cerameg yn 2001.鈥橰oedd ganddi ewythr yn byw yn Nhon-teg a chafodd rwydd hynt ar 么l graddio i ddefnyddio鈥檌 garej fel stiwdio.

鈥淵na es i Brifysgol Swydd Stafford 鈥 i ganol gwlad y crochenwaith 鈥 i wneud gradd uwch mewn cynllunio cerameg.Roeddwn i am ddysgu sgiliau diwydiannol o gynhyrchu porslen ac efelychu鈥檙 technegau hynny.Treuliais gyfnod yn Stiwdio Gynllunio Wedgewood a chael y cyfle i archwilio鈥檜 archifau.鈥Roedd hynny yn 2007-2009.

Mae鈥檔 defnyddio鈥檙 clai china cain o Stoke-on-Trent yn stiwdio 鈥淔ireworks鈥, Glanyrafon, Caerdydd, gan addurno鈥檌 llestri, y tu mewn ac allan, gyda鈥檙 lluniau bychain a ysbrydolwyd gan addurniadau llestri Nantgarw, yr adar a鈥檙 anifeiliaid mewn blychau gwydr a welodd yn Aberystwyth a straeon ei phlentyndod.

Treuliodd amser yn astudio鈥檙 casgliadau llestri sydd mewn amgueddfeydd ac orielau fel y 鈥淰ictoria & Albert鈥 yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a Glyn y Weddw.

Cafodd gomisiwn eleni i ddarparu arddangosfa o鈥檌 gwaith ar gyfer Oriel Gelf Rhuthun fel rhan o gynllun Collect.Aed a鈥檙 arddangosfa honno wedyn i orielau eraill, yn eu plith Oriel Saatchi yn Llundain.听听

Arddangoswyd ei gwaith mewn amryw wledydd tramor gan gynnwys Arddangosfa SOFA (Sculpture Objects & Functional Art) yn Chicago

Mae ei gwaith yn adlewyrchu traddodiadau cyffyrddus yr hen gartrefi Cymreig, a wedi ei hysbrydoli gan y mathau o lestri y byddai pobol yn eu casglu 鈥檚lawer dydd 鈥 ond gan fynd gamre ymhellach.

Dan yr wyneb fel welir 么l archwilio鈥檙 hen ddelweddau, yr herio a鈥檙 addasu, weithiau鈥檔 chwareus dro arall yn anghysurus a chynhyrfus.Mae鈥檔 ymestyn yr hen themau ond gan gynnal manylder cain a鈥檙 mwynder sy鈥檔 nodwedd mor hanfodol o鈥檌 gwaith.

Arddangosir ei gwaith o Ragfyr 9, 2011, tan Fawrth 10, 2012.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.