主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Saunders: llwyddiant ta methiant

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 09:51, Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011

Ai llwyddiant ynteu methiant oedd Saunders Lewis? Dyna鈥檙 cwestiwn sy鈥檔 cael ei ofyn gan Gwynn ap Gwilym mewn cyfrol ddwyieithog newydd gan Barddas.

  • Stori Saunders Lewis 鈥 Bardd y Chwyldro yng Nghymru / The Story of Saunders Lewis, The Poet of the Welsh Revolution gan Gwynn ap Gwilym. Barddas. 拢7.95.

Dyma鈥檙 drydedd gyfrol ddwyieithog o鈥檌 bath i鈥檞 cyhoeddi gan Barddas yn ddiweddar. Cafwyd yn barod 鈥榮tori鈥 Hedd Wyn a Waldo Williams gan Alan Llwyd. Yn anffodus dyw鈥檙 llyfrau ddim yn unffurf o ran diwyg i鈥檞 rhoi gyda鈥檌 gilydd ar silff.聽

听听听
Cyflwyniadau dadansoddol ydyn nhw ac mae Gwynn ap Gwilym yn olrhain pob agwedd o yrfa a gwaith Saunders Lewis o鈥檌 eni yn Wallasey, swydd Gaer, Hydref 15, 1893, hyd ei farw Medi 1, 1984 gan ddod i鈥檙 casgliad nad gwleidydd ydoedd yn bennaf 鈥渙nd bardd, nofelydd, dramodydd a beirniad llenyddol鈥.


Sawl pwnc trafod

Mae鈥檔 codi sawl pwnc trafod ac yn cau pen mwdwl ei astudiaeth gyda chwestiwn - a atebwyd gan Saunders Lewis ei hun - yngl欧n 芒 llwyddiant neu aflwyddiant ei fywyd gwleidyddol.
Mae鈥檔 ei ddyfynnu yn dweud yn 1961 iddo fethu 鈥測n llwyr鈥 yn ei genhadaeth.
鈥淵r oedd gen i awydd, nid awydd bychan, awydd mawr iawn i newid hanes Cymru. I newid holl gwrs Cymru a gwneud Cymru Gymraeg yn rhywbeth byw, cryf, nerthol, yn perthyn i鈥檙 byd modern,鈥 meddai yr adeg honno.
鈥淎c mi fethais yn llwyr. Fe鈥檓 gwrthodwyd i gan bawb. Fe鈥檓 gwrthodwyd i ym mhob etholiad y ceisiais i fod yn ymgeisydd ynddo, mae pob un o鈥檓 syniadau . . . mae nhw i gyd wedi鈥檜 bwrw heibio.鈥
Fel yr eglura Gwynn ap Gwilym s么n yr oedd am ei yrfa fel gwleidydd gan ychwanegu mai y 鈥榤ethiant鈥 hwnnw 鈥渁鈥檌 gyrrodd i draethu ei weledigaeth drwy ysgrifennu hanes llenyddiaeth Cymru a llunio dramau鈥 ac mewn llenyddiaeth y cafodd ei 鈥渓wyddiant digamsyniol鈥.
Mae鈥檔 mynd i鈥檙 afael wedyn a鈥檙 cwestiwn pa mor agos at y gwir oedd ymdeimlad Saunders Lewis o fethiant fel gwleidydd hefyd.
Dyfynna gofiannydd Saunders Lewis, Robin Chapman, yn dweud bod 鈥溍磍 ei law ar Gymru o hyd鈥 ac na ellir 聽鈥渃yfathrebu yn ystyrlon yn y Gymru gyfoes hebddo鈥.
Meddai Gwynn ap Gwilym: 鈥淚鈥檙 graddau hynny, bu ei ddylanwad yn aruthrol.鈥


Ei gymwynas fawr

Ychwanega mai ei gymwynas fawr oedd 鈥渄ysgu i鈥檙 Cymru weld gwerth yn eu treftadaeth genedlaethol鈥 yn dilyn sigo hunanhyder y genedl am ganrif a mwy ers Brad y Llyfrau Gleision yn 1847.
鈥淐enhadaeth ei fywyd,鈥 meddai, 鈥 fu ceisio dangos i鈥檙 Cymry fod yr ymdrech i ddiogelu鈥檙 Gymraeg a鈥檌 threftadaeth yn ymdrech i ddiogelu rhywbeth o wir bwys.
A dywed y byddai鈥檔 anodd iawn dadlau 鈥渋ddo fethu yn llwyr鈥 gan nad 鈥測r un lle o gwbl yw Cymru Refferendwm lwyddiannus 2011 a Chymru Penyberth 1936. Gall Cymru 2011 edrych ymlaen o leiaf at ryw fath o ddyfodol cenedlaethol,鈥 meddai.
Ond er y llygedyn hwnnw o obaith mae gair o rybudd hefyd gan Gwynn ap Gwilym pan ddywed 鈥渇od safon diwylliant y werin Gymraeg yn is nag y bu, efallai, ers cyn y Diwygiad Methodistaidd, a pholis茂au cyhoeddus ym meysydd llenyddiaeth a darlledu yn yr iaith yn dyrchafu鈥檙 poblogaidd a鈥檙 gwacsaw ar draul noddi dim sydd o werth.鈥
Am Saunders Lewis ei hun mae鈥檔 cloi gyda sylw un arall o鈥檌 gofianwyr, D Tecwyn Lloyd, a ddywedodd yn 1975; 鈥淔ydd dim byd yng Nghymru yr un fath eto.鈥
鈥淧rin iawn, yn hanes unrhyw genedl, yw鈥檙 eneidiau y gellir dweud hynny amdanynt,鈥 meddai Gwynn ap Gwilym.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.