主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Juan a cherddi eraill

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 11:45, Dydd Llun, 26 Mawrth 2012

Pwy allai wrthsefyll temtasiwn casgliad bach o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Mhatagonia听ychydig 听yn 么l.

Gyda theitl fel 听Juan y Gwanaco a Cherddi Eraill doedd yna ddim dewis ond prynu.

Ac mi gefais innau fodd i fyw o syrthio i demtasiwn 鈥 a chyfaddef wrth gwrs fod gen i ddiddordeb personol mewn unrhyw beth o鈥檙 Wladfa ym Mhatagonia.

Ta beth cyfrol ydi hon, wedi ei golygu gan Esyllt Nest Roberts de Lewis, o gerddi i blant Patagonia ac wedi ei cyhoeddi gan Orsedd y Wladfa.

Mae yna gerddi gan rai o Batagoniafel Osian Hughes, Mary green, Irma Hughes de Jones, Arel Hughes de Sarda ac athrawon o Gymru听a beirddamlwg o Gymru听 ei hun gan gynnwys Iwan Llwyd , Mererid Hopwood, Gwion Hallam, Gwyneth Glyn a Grahame Davies.

Mae nodyn bywgraffyddol byr am y cyfranwyr i gyd - 23 ohnyn nhw 鈥 ar ddiwedd y gyfrol.

鈥淢ae鈥檙 cyfan ohonynt bron wedi eu cyfansoddi鈥檔 arbennig ar gyfer y gyfrol hon,鈥 meddai Esyllt Nest Roberts de Lewis am y cerddi.

Daw hi gyda llaw o Bencaenewydd, Pen Ll欧n, ond yn byw gyda鈥檌 theulu yn y Gaiman er 2004. Hi yw golygydd Y Drafod ac enillodd Gadair Eisteddfod y Wladfa 2010.

Clare Whitehouse sydd biau鈥檙 gerdd yn nheitl y gyfrol am Juan y Gwanaco, hi yn dod o Abermorddu ger Wrecsam ac yn athrawes Gymraeg yn Esquel a Threvelin fel rhan o鈥檙 cynllun iaith.

Cyfrol fach delynegaidd, hyfryd, Gwladfaol ei naws a'i blas ac ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.