主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Syched a ffrwd

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 11:23, Dydd Gwener, 30 Mawrth 2012

Hyd yn oed yn ystod wythnos o giwio a sychedu am betrol fu dim pall ar y ffrwd geiriau. A dyma ddetholiad o ambell i beth a ddywedwyd.

Y detholiad olaf gen i ar gyfer y blog hwn gan mai heddiw yw diwrnod olaf fy nhymorpresennol gyda 主播大秀 Cymru. Ac mewn sefyllfa felly dim ond un peth sydd i鈥檞 ddweud. Ie, fy nyfyniad personol i鈥檙 wythnos hon ydi, 鈥淔farwel鈥 鈥 ond dyma beth oedd gan bobol eraill i鈥檞 ddweud:

  • Ha Bach Dewi 鈥 Enw Twm Morys yn 鈥榊 Cymro鈥 ar y tywydd braf presennol sy鈥檔 cyfateb i Haf Bach Mihangel ddiwedd y flwyddyn.

  • Mae yna bobl wedi bod yn prynu mewn panig drwy鈥檙 dydd 鈥 gweithiwr mewn gorsaf betrol Shell yn siarad 芒鈥檙 鈥楧aily Post鈥 ddydd Mawrth.

  • Diolch byth am Facebook a Twitter, yn 么l fel mae prisiau petrol yn mynd efallai na fyddwn ni鈥檔 gweld ein gilydd byth eto 鈥 CyfranwrTwitter yn cael ei ddyfynnu yn y 鈥楧aily Post鈥.

  • Mae鈥檙 Gymraeg yma o hyd; dylid ymfalch茂o yn fawr yn hynny a鈥檙 twf y mae鈥檔 ei brofi . . . ond nid oes lle i laesu dwylo; mae her enfawr o hyd i sicrhau lle canolog iddi ym mywyd y genedl 鈥 Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, bwrdd sy鈥檔 cael ei ddiddymu鈥檔 swyddogol yfory.

  • Gyrrwch y gair ffantastig ar ffo o dir yr iaith Gymraeg 鈥 Dilys Rees, Solihull, yn galw am Gymraeg bur ar y teledu mewn lythyr yn 鈥榊 Cymro鈥 heddiw.

  • Gair newydd i mi. Brecinio. Ond mae i鈥檞 gael yn Ninbych y Sadwrn hwn rhwng 10. 30 ac 1.00 [i] godi arian at yr Eisteddfod 鈥 Madog Mwyn yn 鈥榊 Cymro鈥 wedi gwirioni efo 鈥榖runch鈥 steddfodol Cymraeg.

  • Yn fy marn i does dim dewis arall ond dedfryd o garchar ar unwaith. Pan ddisgynnodd Muamba, nid y byd p锚l-droed yn unig oedd yn gwedd茂o drosto; roedd pawb yn gwedd茂o am ei fywyd 鈥 Y Barnwr John Charles yn dedfrydu myfyriwr 21 oed i 56 diwrnod o garchar am gyhoeddi sylwadau ffiaidd ar Twitter./newyddion/17517990

  • Mae Cymru yn hen wlad ond yn ddemocratiaeth ifanc 鈥 Carwyn Jones AC y Prif Weinidog yn ystod trafodaeth ar gael trefn gyfreithiol ar wah芒n i Gymru. /newyddion/17516410

  • Mae rhai yn meddwl, oherwydd y gall mwyafrif pobl Blaenau Ffestiniog [er enghraifft] siarad Cymraeg a鈥檜 bod yn gwybod amy traddodiad a鈥檙 diwylliant Cymraeg y byddan nhw yn wahanol i bobl yng Nghwm Rhondda lle siaredir Saesneg yn bennaf. Ond dydy nhw ddim yn wahanol ac felly, pa bynnag iaith ydych chi鈥檔 ei siarad, yr ydychym ymwneud ag un achos cyffredin 鈥 Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn y 鈥榃ales on Sunday鈥.

  • Mae 'na broblem wrth gymryd yn ganiataol mai rhywun arall sy'n datrys problemau 鈥 Archesgob Caergaint, Rowan Williams yn trafod gor ddibyniaeth pobl ar wasanaethau lles.听听 /newyddion/17513797

  • Yno, eisteddai dyn bron i 52 oed yn edrych ddeng mlynedd yn hynach wedi ei wisgo mewn minc du a cholur trwm [ar ei wyneb ] dan helmed o wallt du bitssy鈥檔 moeli鈥檔 ysol acyn adrodd yn fawreddog farddoniaeth syrffedus 鈥 Disgrifiad yr actor Frank Langella, yn ei hunangofiant,o Richard Burton a ddisgrifiodd fel 鈥渃rashing bore鈥.

  • Mewn cymanfa blant yr oeddem yn canu鈥檙 emyn sy鈥檔 s么n am fore oes. Gan gyffelybu oes i ddiwrnod dywedais eu bod nhw ym more鈥檜 hoes. 鈥淧a adeg o鈥檙 dydd yw hi arna i?鈥 gofynnais a dyma fachgen yn codi鈥檌 law ac yn dweud, 鈥淭ua amser swper鈥 鈥 Rhys Jonesmewn dyfyniad yn 鈥榊 Goleuad鈥 o鈥檌 hunangofiant, 鈥楩el Hyn yr Oedd Hi鈥.

  • Mae鈥檔 mynd i fod yn anodd i mi ddod o hyd i ferch arall a chael perthynas 鈥 Gavin Henson yn y 鈥榃ales on Sunday鈥 yn wynebu bywyd wedi Charlotte Churcha鈥檙 rhaglen deledu 鈥楾he Batchelor鈥.

  • Mae nawdd a chefnogaeth gan gwmn茂au a sefydliadau lleol yn rhan annatod o lwyddiant Eisteddfod yr Urdd 鈥 Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn croesawu nawdd gan gwmni Magnox./newyddion/17516406

  • Rhaid i ni fod yn barod i addasu neu far war ein traed 鈥 Gwyn 鈥楧enzil鈥 Elfyn yn cefnogi defnyddio technoleg fodern i eangu ap锚l Cristnogaeth. Yr oedd yn cael ei holi yn y cylchgrawn 鈥楥ristion鈥, rhifyn Mawrth / Ebrill 2012.

  • Y wers bwysicaf i鈥檞 dysgu yw pa mor hawdd yw hi i鈥檙 rhai sy鈥檔 herio鈥檙 drefn droi yn rhai sy鈥檔 fodlon cynnal y drefn, a gwneud hynny鈥檔 ddi-drafferth iawn 鈥 Lyn Lewis Dafis yn 鈥楥ristion鈥, rhifyn Mawrth / Ebrill 2012.

  • Mae gan Gristnogion lwybr syml ac effeithiol i ddangos eu gwrthwynebiad i fasnachu ar y Sul, sef peidio siopa eu hunain 鈥 Y Parchedig John Pritchardgolygydd 鈥榊 Pedair Tudaen Gydenwadol鈥 yn ypapurau enwadol.

  • Fe allai hyn fod yn beth da i鈥檙 economi. Yr hyn y mae pobl yn ei anghofio ywfod noethlymunwyr (naturists), fel ymwelwyr eraill, yn dod gydag arian yn eu pocedi i鈥檞 gwario mewn siopau lleol, lleoedd bwyta a meysydd parcio ger y traethau 鈥 Andrew Welch, cyfarwyddwr masnachol 鈥楤ritish Naturism鈥 yn sgily s么n am neilltuo rhan o draeth Niwbwrch , Ynys M么n, ar gyfer noethion.

  • Yr oeddwn i bron yn llefain yr oeddwn i mor hapus 鈥 Shannon Underhilly disgynnodd parot coll y teulu yn annisgwyl ar ei hysgwydd yn iard yrysgol yn Llangewydd.

  • Mae ganddo gariad a dydw i ddim yn barod. Dydw i ddim yn barod am ddim o hynna eto. Yr ydw i鈥檔 mynd i ganolbwyntio ar y dawnsio 鈥 Katherine Jenkins yn gwadu ei bod yn mynd Mark Ballas ei phartner dawns ar y gyfres Americanaidd, 鈥楧ancing With the Stars鈥.

  • Adam, Leanne a baw ci . . . 鈥 pennawd erthygl gan Gwilym Owen yn 鈥楪olwg鈥 ddoe.

  • Mae llyfrau yn rhoi rhwydd hynt i blant fod yn anturiaethwyr bach, er mwyn darganfod eu hunain a鈥檙 byd 鈥 Jacqueline Wilson, awdures fydd yn cymryd rhan yn yr 诺yl lenyddiaeth gyntaf i blant yng Nghaerdydd fis Mawrth 2013.

  • Yr wyf yn cael yr ymdeimlad o fwy o homoffobia yn yr eglwys nag a deimlais ers amser maith 鈥 Y Parchedig Andrew Morton o Langybi, Sir Fynwy,sy鈥檔 gadael yr eglwys wladol oherwydd anghydweld yngl欧n 芒 phriodasau hoyw.

  • Rydym wedi bod yn monitro'r dirywiad ac yn annog pobl i helpu drudwyod 鈥 Ian Johnstone, Uwch Wyddonydd Cadwraeth yr RSPB, yn gofidio am leihad yn nifer drudwyod.听听 /newyddion/17548640

  • Mi allai ddod yn well ar wneud popeth 鈥 George North, ddydd Iau yn y 鈥榃estern Mail鈥 a ddywedodd ei bod yn codi ofn arnoch dychmygu sut un fydd o ymhen pum mlynedd ac yntau ond yn 19 oed yn awr.

  • Does gennym ni ddim ofn neb 鈥 Adrain Cieslewitz yn mynegi ei obaith yngl欧n 芒 gobeithion t卯m p锚l-droed Wrecsam.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.