Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

'T' am Tymhorau (a TÅ· bach ... a Traffig)

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 12:18, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2012

"Plis ewch â'r plant i'r tŷ bach cyn mynd i gefn y pafiliwn!"

Dyna'r rhybudd ar y darn o bapur ddaeth o'r practis ola yn yr ysgol feithrin cyn Y DIWRNOD MAWR. Gyda 300 o blant rhwng 2 a 4 oed ar lwyfan prifwyl yr Urdd ar gyfer y sioe feithrin, y cyflwyniad sydd heb os yn haeddu'r wobr gyntaf am y ciwt-ffactor, roedd y rhybudd yn cynrychioli'r potential oedd 'na am anhrefn llwyr ar y llwyfan fore Llun.

Ond, ychydig a wyddem, wrth gychwyn o'r tÅ· mewn da bryd fore Llun, mai hynny fyddai'r lleiaf o'n pryderon y bore hwnnw.

Roedd popeth yn mynd yn iawn, nes cyrraedd Llanwnda, yna, bang! Traffig solet.

Ar ôl awr o fod heb symud ryw lawer, ac amser y perfformiad yn agosáu, dechreuodd y panic. Yn raddol, roedd drysau'r ceir yn agor a mam neu dad yn dod allan i redeg i faes y frwydr gyda'u gwynt yn eu dwrn a'u plentyn yn eu breichiau.

Ac yn sydyn, ro'n i'n ymuno â nhw. Fel ryw ras gyfnewid wallgo efo plant bach; rhieni yn brasgamu o bob cyfeiriad tuag at y maes. I ffwrdd â fi, yn symud yn gyflymach nag mae neb wedi fy ngweld yn ei wneud ers sawl blwyddyn, â merch fach binc yn giglo'n gynhyrfus wrth inni garlamu tuag at y terfyn - y babell ymgynnull, jyst mewn pryd.

Oes, rhaid imi ddatgan diddordeb personol eleni: wedi 20 mlynedd a mwy heb fod ar gyfyl llwyfan unrhyw eisteddfod, dwi'n cymryd y cam cyntaf at fod yn un o'r miloedd o rieni mewn welis sy'n llusgo i Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn.

Wnes i erioed feddwl y buaswn i fyth nôl fan hyn: yn rhuthro i'r maes, yn mynd dros y geiriau, yn brwsio gwallt munud ola'. Ond mae CD y Brodyr Gregory wedi bod ar lŵp yn y car (ac yn ein pennau) ers wythnosau a fy merch fach yn cynrychioli yr Haf yn sioe y Tywydd a'r Tymhorau ar ddiwrnod cynta'r ŵyl.

Mae'n ddiwedd cyfnod, yn ddechrau cyfnod, yn ystrydeb ddosbarth canol, yn gylch bywyd yn troi.

Ac wrth inni gymryd ein seddau yn y Pafiliwn, yn llawn balchder (ac ychydig allan o wynt) mae'n fy nharo mai dyma fy lle bellach.

Ar y llwyfan mae fy nheirblwydd fach a'i chyfoedion yn sgleinio fel sylltau ac yn sbloets o liw dan y llifoleuadau. Amrywiol yw eu hymroddiad i'r perfformiad: rhai yn bloeddio canu, rhai ar streic canu, y mwyafrif yn edrych yn syn ar y môr o wynebau yn eu gwylio, neu, fel fy etifeddes i a'i ffrindiau, yn rhedeg o gwmpas yn y cefn lle doedd neb yn gallu eu gweld nhw. Ac yn cael modd i fyw.

Mae'r gymhariaeth efo'r profiad o fod yn rhiant yn reit amlwg yr wythnos hon.

Blantos, eich sioe chi ydy hon - ewch amdani!

[Rhaid nodi, fod traffig Eisteddfod yr Urdd erbyn bore 'ma i'w weld yn llifo'n rhwydd a chyflym at faes Glynllifon!]

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.