Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iolo ap Dafydd yn crwydro'r Maes dydd Iau Awst 9

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

IoloapDafydd IoloapDafydd | 19:31, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Dwi wedi penderfynu nad ydy Olympiad Llundain yn ddim i'w gymharu â marathon y Steddfod. Mi allai athletwyr yn ne Lloegr ddysgu llawer o allu perfformwyr a chystadleuwyr Eisteddfod Bro Morgannwg.

Mi ges i brofiad newydd neithiwr yn gwylio campweithia unawdwyr y Sioe Gerdd dros 19 oed, Gwobr Goffa Richard Burton a Towyn Roberts. Sôn am dechneg. Tonyddiaeth a llefaru llawn angerdd. Dyma sy'n digwydd ichi pan 'da chi yn aros yn y Steddfod am sawl diwrnod, ond ma' gwrando ar feirniadaethau a'r arbenigwyr sy'n cael eu holi yn help hefyd.

Ynghanol y perfformwyr yma, mae to nesaf a chenhedlaeth broffesiynol newydd Cymru. Nifer eisoes yn byw a gweithio ymhell o Landŵ, ac o Gymru, yn gwneud eu marc. Cymerwch y tenor Elgan Llyr Thomas - mae e wedi ennill pedair cystadleuaeth hyd yn hyn, ac wedi denu mwy o edmygwyr a chefnogwyr.

Yn ystod darllediad prynhawn heddiw ar S4C, mi wnaeth Elgan gymaint o argraff wrth gystadlu am wobr ac Ysgoloriaeth Osborne Roberts fel bod dagrau yn llygaid y beirniad a'r tiwtor canu Leah Marian Jones a oedd yn cadw cwmni i'r cantor mwyn Rhys Meirion ar y soffa wrth fy ochr. Doedd fawr o bwynt holi pwy roddodd y perfformiad mwyaf cyflawn na phwy oedd y mwyaf angerddol na chwaith y mwyaf meistrolgar yn dechnegol ... ia, y boi Thomas yna oedd o ac mi fyddwch chi'n clywed a gweld llawer mwy o'r llanc o Landudno.

A sôn am Rhys Meirion, gall o ddim colli cyfle y dyddiau yma i gyfeirio at ei ymdrech o ag eraill i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mi wisgodd grys i'n hatgoffa ni o'i daith gerdded ar ôl y Steddfod. Fedra i ddim cymeryd rhan gan y byddai ar fy ngwyliau, ond mi fydd llawer yn cyd-gerdded ac yn bwysicach yn codi arian ar gyfer achos teilwng.

Mi gawson ni hwyl hefyd yn atgoffa'n hunain o pan fu'r ddau ohonom un haf gwlyb (arall) ym 1987 yn labro a gweithio gyda chwmni codi pebyll ar y Maes cyn ac ar ôl Eisteddfod Porthmadog - yn agos iawn i gartref Rhys ar y pryd.

Siwr gen i fod cenhedlaethau o Gymry wedi slafio ar faes y Steddfod er mwyn clirio dyledion coleg ac mae'n hwyl hel atgofion. Y diweddar Barry Sawyer oedd y fforman. Dyn caled, ond teg yn ôl Rhys, ac allai ond cytuno. Mi fu'n gyfrifol i gael sawl Stedddfod yn barod yng ngwyneb trafferthion mawr ar adegau. Mi weithiais i gyda 'nghefnder Sion yn Steddfod stormus a mwdlyd Abergwaun hefyd - ond stori arall ydy honno!

Mae'r haul o'r diwedd wedi cyrraedd Bro Morgannwg a mwd eleni yn sychu'n lyfli. Felly, mae'r cwrw a'r hufen iâ yn gwerthu'n dda a gobeithio hefyd y bydd y cryno ddisgiau a'r llyfrau, y cardiau a'r crysau-t yn gwneud yr un modd. Wedi'r cyfan mae pawb yn chwilio am elw, ond hyd yma elw gorau'r wythnos imi ydy treulio cymaint o amser yn siarad am bopeth dan haul - i gyd yn y Gymraeg.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.