Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - dydd Gwener Awst 10

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 18:44, Dydd Gwener, 10 Awst 2012

Urddo Carwyn, Iwan a John
Dechrau'r dydd hefo'r Prif Weinidog bore 'ma - wrth i Carwyn Jones baratoi i fynd at y Maen Llog i gael ei urddo. Roedd o'n ymhyfrydu yn yr anrhydedd a gan nad oes 'na wisg goch yn yr Orsedd - roedd yn rhaid iddo fodloni ar wisgo gwisg las heddiw.

Un arall oedd yn cael ei urddo oedd Iwan Roberts - neu Iwan Gwynedd - fel y'i gelwir yn yr Orsedd. Mae o wedi gwisgo kit glas gydag ambell i dim pêl-droed yn ystod ei yrfa, felly roedd o'n ddigon bodlon ei fyd. Roedd John Hartson yn cael ei urddo hefyd, ac mae'n debyg nad oedd o'n or awyddus i wisgo'r lliw glas - gan mai dyna liw kit pêl-droed Rangers, ac wrth gwrs fe fu John yn chwarae i Celtic!

Y cerdd dantwyr yn cofio'u taid
Un o'r cystadlaethau gorau yn yr Eisteddfodd yr wythnos yma oedd yr un i'r triawdau neu bedwarawdau Cerdd Dant. Lois, Annest, Enlli ac Alaw enillodd heddiw, ac mi roedden nhw yn cystadlu dan amgylchiadau digon anodd. Mae Lois ac Annest yn chwiroydd ac yn gyfnitherod cyntaf i Enlli ac Alaw - sydd hefyd yn chwiorydd. Dyma chi genhedlaeth iau teulu Hendre Cennin, a fis yn ôl fe fu farw taid y genod, ac fe benderfynon nhw gystadlu - er cof amdano. Yn naturiol ddigon roedd 'na ddagrau gefn llwyfan ar ôl i'r teulu glywed y canlyniad.



Ffarmwrs Aberhosan yn cyrraedd y brig
Mae hi wedi bod yn ddiwrnod mawr i bentref bach Aberhosan heddiw - wrth i ddau ffermwr o'r pentref gystadlu ar y llwyfan. Erfyl Tomos Jones enillodd yr unawd bariton, ac yntau yn cystadlu am y tro cyntaf, felly mae o'n mynd i fod yn cystadlu am y Rhuban Glas yfory, ac efallai y bydd o yn efelychu camp ei frawd - enillydd Rhuban Glas 2008 - sef Meirion Wynn Jones.

Y ffarmwr arall oedd Meilir Wyn Jones, ac ar un llaw mae'n beth da nad ydy o wedi mynd drwodd i'r gystadleuaeth fory - gan ei fod o yn was priodas i un o'i ffrindiau yfory ... yn Llanelwedd!

Priodasau lodesi Bro Ddyfi
I aros ym Mro Ddyfi - mae'n gyfnod priodasau ar barti Lodesi Dyfi - mae Elinor newydd briodi ac fe fydd Lowri yn priodi dydd Sadwrn nesa! Mae'r gweddill i gyd wedi gadael eu gwÅ·r adref yn y gwair!

Sôn am y Rhuban Glas - llongyfarchiadau mawr i Nest Jenkins ar ennill y Rhuban Glas Offerynnol, a dymuniadau gorau iddi yn yr Ŵyl Delyn yn Bangkok.

Diolch am yr het!
Roedd hi'n boeth iawn gefn llwyfan heddiw - a diolch i Dan Puw am gael menthyg yr het wellt. Roedd Dan ar y llwyfan yn arwain parti alaw werin Meibion Llywarch - a ngwaith i yn ystod y pum munud hwnnw oedd gwarchod yr het!


Sôn am Feibion Llywarch - r'on i wedi sylwi ar yr hogyn ifanc yma gefn llwyfan - yn gwylio'r sgrin tra roedd y parti ar y llwyfan. Ar ôl dechrau sgwrsio - dyma ddallt mai Llywarch oedd ei enw - a'i fod o wedi cael ei enwi ar ôl y parti!

Dw i'n gweithio'n hwyr heno - felly gewch chi hanes cystadlu'r nos gen i fore Sadwrn.

Mwy am Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, clipiau, canlyniadau, newyddion ac i wylio'r Pafiliwn yn fyw ewch i'n gwefan bbc.co.uk/eisteddfod

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.