Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - Dydd Mawrth Awst 7

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 18:03, Dydd Mawrth, 7 Awst 2012

Celyn Llwyd oedd un o'r cystadleuwyr cyntaf welais i bore ma, yn canu alaw werin am 'y baw a'r llaca', ac mae hi wedi bod yng nghanol y baw, yn gwersylla yn y maes pebyll! Ac er gwaethaf cawod oer bore 'ma doedd hi ddim gwaeth, a llongyfarchiadau mawr iddi ar ennill y wobr gyntaf.

Roedd Joseff Glyn Clwyd Owen nôl ar y llwyfan heddiw - a fo enillodd gystadleuaeth y monolog dan 16 oed, gan gyflwyno gwaith ei dad. Mi gafodd o gyntaf ddoe hefyd - felly mae hi wedi bod yn Steddfod dda iawn iddo hyd yma - a bellach mae o'n troi ei orwelion am Maes B. Braf iawn!

Un o'r rhai ar y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth y ddawns arbenigol oedd Ioan Wyn Williams. Roedd gan Ioan wisg aur lachar iawn amdano heddiw. Mae o'n gwneud pob math o ddawnsio - jazz, ballet, hip hop, a ddiwedd yr wythnos fe fydd o nôl yma yn clocsio!

Un gafodd lwyddiant mawr heddiw ydy Steffan Rhys Hughes, gan ennill tair gwobr gyntaf. 'Da ni wedi hen arfer sgwrsio gefn llwyfan ac mae bob amser yn braf cael gair hefo fo, ond rargol, mae o'n ymddangos yn dalach bob blwyddyn!

Rhwng deuddeg a dau p'nawn ma - roedd cefn llwyfan yn llawn wrth i bedwar côr pensiynwyr ymgynnull. Mae 'na edrych ymlaen mawr at y gystadleuaeth hon yn flynyddol, ac fe gawson ni ganu bendigedig eto heddiw. Côr y Mochyn Du dan arweiniad Sioned James enillodd y wobr gyntaf a dw i'n siwr y bydd na dipyn o barti yn nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd heno. Roedd hi'n ddiwrnod mawr i Eirlys Britton heddiw - wrth iddi hi dderbyn Medal Syr TH Parry-Williams am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd ac ym myd y ddawns werin, ac yn naturiol roedd hi dan deimlad ar y llwyfan. Ond mi roeddwn i yn y cefn yng nghanol dawnswyr Nantgarw a Bro Taf a phob un ohonyn nhw wedi gwirioni ei gweld hi yn serenu ar ganol y llwyfan. Llongyfarchiadau i griw Nantgarw am ennill y wobr gyntaf am y cyflwyniad ar lafar, dawns a chân hefyd.

Cystadlu ar yr Unawd Cerdd Dant dan 21 oedd Mirain Fflur heddiw, ac mae'n syndod ei bod hi ar y llwyfan o gwbl, gan ei bod hi'n meddwl mai fory oedd y gystadleuaeth ar y llwyfan! Diolch i aelod o'r teulu am fynd i chwilio amdani - cyn iddi gyrraedd y bar! Dwy sydd wedi hen arfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ydy Ceri Wyn ac Elen Gwenllian, ac unwaith eto roedd y ddwy yn cystadlu ar y ddeialog. Mae pawb a'i ddull arbennig o ymarfer ymlaen llaw, ac o gofio bod Ceri yn byw yn Llundain a bod Elen yng Nghaerdydd - yr unig ffordd y gallen nhw ymarfer oedd dros y ffôn! Wela i chi fory!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.