Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - Dydd Sadwrn 4 Awst

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 19:03, Dydd Sadwrn, 4 Awst 2012

Wel dyma ni unwaith eto!

Mae'n anodd credu bod deuddeg mis wedi mynd ers Eisteddfod Wrecsam, a gan nad oeddwn i yn gweithio yn Eisteddfod yr Urdd eleni, roedd hi'n braf iawn cyrraedd y maes bore 'ma a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd!

Yng nghefn y llwyfan fydda i unwaith eto eleni a chyn belled ag ydw i yn y cwestiwn - fanno 'di'r lle i fod - ynghanol y cystadleuwyr, hyfforddwyr a'r cefnogwyr.

Sioe deuluol
Diwrnod y bandiau pres a'r corau ydy dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod a'r band cyntaf welais i ar y llwyfan oedd Band Crwbin. Julian Jones sy'n arwain y band, ac mae ei ddau fab yn aelodau - Trystan yn chwarae'r trombôn a Meredydd ar yr offerynnau pres.

Nia Lloyd Jones gefn llwyfan gyda Jonathan Thomas

Ìý

Aelod arall o'r band, ac un o'r unawdwyr heddiw, oedd Jonathan Thomas. Mae o wrth ei fodd yn perfformio hefo nhw - ac wedi cael tatŵ o'r 'treble clef' ar ei law fel prawf o hynny. Tybed fydd y 'base clef' yn ymddangos cyn hir - ac yn lle?!

Y corau
Roedd na gystadleuaeth dda ymysg y corau cymysg heddiw - gyda chwe côr ar y llwyfan.

Côr Godre'r Garth oedd yn agor y gystadleuaeth - ac mae hi'n mynd i fod yn wythnos brysur iawn i'w arweinydd nhw - sef Eilir Owen Griffiths - gan ei fod o hefyd yn arwain Côr CF1.

Diolch o galon i Robat Arwyn am sgwrsio hefo fi - er ei fod o dan deimlad mawr ar ôl arwain Côr Rhuthun heddiw.

Côr sydd yn mynd o nerth i nerth ydy Côr Bro Meirion - dan arweiniad y milfeddyg - Iwan Wyn Parry, ac fe gawson nhw glamp o gymeradwyaeth gan y gynulleidfa heddiw.

Côr Llanddarog oedd y côr i'w guro - gan eu bod nhw yn mynd am yr 'hatrick' eleni. Doedd un o'r altos ddim yno heddiw - sef Ceri Rees - gan ei bod hi newydd roi genedigaeth i Cai - felly llongyfarchiadau mawr iddi hi , a phwy â ŵyr - ella bydd Cai yn canu hefo'r côr rhyw ddiwrnod.

Gemau Olympaidd
Tasech chi'n cael dewis dod i'r Eisteddfod neu fynd i'r Gemau Olympaidd - lle fyddech chi'n mynd?

Nia Lloyd Jones gefn llwyfan gyda Rhian Jones

Ìý

Wel dyna benbleth Rhian Jones - aelod o Gôr Caerdydd. Mae hi wedi llwyddo i gyfuno'r ddau ddigwyddiad - drwy wirfoddoli yn y Gemau - yn Greenwich, a chanu hefo'r côr hefyd! Ac ar ôl y canlyniad heno - fe fydd hi'n dychwelyd i Lundain. Mae Côr Crymych a'r Cylch - fel Côr Rhuthun wedi cael dillad newydd, a smart iawn oedden nhw hefyd. Mae'n debyg bod 'na ddwy feistres y gwisgoedd yn gyfrifol am y gwaith o ddewis a dethol gwisg addas a diolch byth roedd pawb yn gytûn hefo'r dewis terfynol. Ambell i gynnig Mae hi bob amser yn braf gweld wynebau cyfarwydd o un flwyddyn i'r llall - ac un o'r rhai hynny oedd Eifion o Fand Drenewydd. Nid yn unig roedd o'n falch o ngweld i - ond fe ges i gynnig ymaelodi hefo'r band hefyd! Gyda llaw mae Band Drenewydd yn chwilio am aelodau newydd, felly os oes gennych chi ddiddordeb, mi gewch chi groeso mawr yno. Mae 'na sawl offeryn wrth gwrs mewn band pres, ond mae'n gwbl amlwg i mi mai'r corned ydy'r offeryn mwyaf poblogaidd ac oherwydd hynny - weithiau mai na brinder ymhlith adrannau eraill y band. Diolch felly am offerynwyr dawnus fel Nadine - o Fand Llwydcoed ym Merthyr - sy'n chwarae'r corned, corn tenor a'r corn ffliwgal! A dyna ni - y diwrnod cynta wedi dod i ben. Dw i am fynd adra rwan i socian fy nhraed!!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.