Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones: Cefn llwyfan nos Fercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 10:21, Dydd Iau, 9 Awst 2012

'Dwi bob amser yn mwynhau bod gefn llwyfan nos Fercher - a doedd neithiwr ddim gwahanol.

Ceri Wyn enillodd Wobr Richard Burton, ac roedd 'na hen ddathlu gefn llwyfan wedyn gyda'i rhieni a'i ffrindiau. Mae Ceri yn actores ddawnus iawn - newydd raddio o Goleg Academi Mountview yn Llundain, ac roedd ennill y wobr hon yn goron ar y cyfan iddi.

Fe gafodd Elgan LlÅ·r Thomas ddiwrnod ffantastig ddoe - gan ennill yr unawd Gymraeg a'r unawd operatig. Wedyn neithiwr, fe enillodd yr unawd o sioe gerdd. Roedd o eisoes wedi ennill yr unawd o sioe gerdd dan 19 oed. Hon oedd ei flwyddyn olaf o dan 25 oed, ac mi ddywedodd o gefn llwyfan bod rhaid iddo rwan ystyried canu llai o ganeuon sioe gerdd - er mwyn canolbwyntio ar fod yn ganwr opera proffesiynol.

Llongyfarchiadau mawr i Steffan Harri am ennill Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts neithiwr. Fe swynodd o'r gynulleidfa gyda'i berfformiad o Tu Hwnt i Sbri - allan o sioe gerdd weddol newydd sef Ö÷²¥´óÐã Made Fusion, Kooman a Diamond. Yn y gân roedd o'n erfyn am sylw Claire ac yn sicr fe hawliodd o sylw pawb yn y Pafiliwn neithiwr.

Roedd 'na ddawnsio ar y llwyfan neithiwr hefyd wrth i ddawnswyr Penrhyd, Talog a Bro Taf gystadlu yn y parti dawns dan 25 oed ac un o gyfeilyddion ffyddlonaf Dawnswyr Penrhyd ydy'r ffidlwr, Eifion Price. Roedd o wedi cael diwrnod prysur iawn ddoe - gan ei fod o hefyd yn aelod o gwmni drama'r Gwter Fawr ac mi roedden nhw yn perfformio drama Mel Williams, Claddu'r Ceiliog, yn Theatr y Maes amser cinio.

Fe benderfynodd y beirniaid rannu Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts rhwng dwy, sef Menna Cazel Davies ac Elin Pritchard. Mae Menna newydd raddio ac ar ei ffordd i astudio cwrs meistr yn yr Almaen. Mae hi hefyd yn hoff iawn o weu, ac wedi addo gweu sgarff i mi! Hogan o Rhyl ydy Elin yn wreiddiol, ond ar hyn o bryd yn byw yn Surbiton yn Surrey. Mae hi wrthi'n perfformio hefo Cwmni Opera yr Alban ac yn mynd i astudio yng Nghanolfan Opera Genedlaethol Llundain ym mis Medi.

Yn naturiol roedd y ddwy wedi gwirioni'n lân gefn llwyfan ac yn falch iawn o'r hwb ariannol.

Y côr olaf ar y llwyfan neithiwr oedd Côr Meibion Glantaf - criw o ddisgyblion a chyn ddisgyblion Ysgol Glantaf; a chwarae teg iddyn nhw, fe dalon nhw deyrnged i'w hyfforddwraig Delyth Medi am geisio cael trefn gerddorol arnyn nhw. Doedd hynny ddim yn hawdd chwaith gan fod nifer ohonyn nhw wedi bod ar wyliau yn Ibiza a Zante ar ôl gwneud eu Lefel A, a beryg nad oedd 'na fawr o ymarfer canu wedi bod yn y fan honno!

Nôl i gefn llwyfan rŵan am ddiwrnod prysur arall ...

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.