主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y ddraig addfwynaf!

Portread o Elen Roger Jones gan Harri Parri

Dydd Iau, Hydref 7, 2000

Fel 鈥淪herman tanc mewn sgert鈥 y disgrifwyd yr actores Elen Roger Jones ar sail ei hymddangosiadau mewn gwahanol ddramau a ffilmiau.

Yn wir, yr oedd ganddi gryn enw am actio draig o ddynes.

Oherwydd hynny yr oedd yn destun syndod i bron bawb a鈥檌 cyfarfyddai ei bod yn go iawn yn wraig mor hynaws, addfwyn a chlen.

Yr oedd yn wraig o egwyddorion cadarn a phendant hefyd.

Daw鈥檙 ochr hon i鈥檞 chymeriad yn amlwg mewn portread ohoni sydd newydd ei gyhoeddi gan Harri Parri.

Ni fydd neb a oedd yn adnabod yr athrawes ac actores weithgar hon yn anghytuno ag ef pan ddywed mai yr allwedd i鈥檞 holl egni a gweithgarwch oedd ei chred grefyddol.

鈥淩oedd ei chrefydd yn rhywbeth y daliodd afael tyn arno o ddyddiau plentyndod hyd y diwedd, serch pob newid a fu,鈥 meddai.

鈥淎r wah芒n i鈥檞 dawn ar lwyfan, ei hargyhoeddiadau Cristnogol a鈥檌 s锚l dros grefydd oedd y pethau a adawodd yr argraff ddyfnaf ar lawer o鈥檌 chyd-actorion,鈥 ychwanega.

Mae tinc o edmygedd yn ei lais pan ychwanega nad oedd yn orthrymus ynglyn 芒鈥檌 chred nac yn anoddefgar at rai a gredai鈥檔 wahanol.

Ond nid oedd ei goddefgarwch, meddai, yn gysystyr a dweud ei bod yn fodlon 鈥済werthu鈥檌 genedigaeth fraint i neb.鈥

鈥淚ldio modfedd y byddai hi, ar y mwyaf, a chadw llathen,鈥 meddai gan ychwanegu fod hynny ynr un mor wir am ei hymtaeb i newidiadau ym myd drama.

Mewn proffesiwn lle鈥檙 oedd hynny鈥檔 beth anghyffredin iawn yr oedd hi鈥檔 llwyrymwrthodwraig - byth yn cyffwrdd diod feddwol.

Gallai hynny greu sefyllfa ddigon digri weithiau ac adroddir hanesyn am ddigwyddiad yn dilyn ffilmio cyfres o鈥檙 enw Fallen Hero ym Manceinion gyda Granada.

Ar 么l cael sawl glasied o sudd oren mewn dathliad i foddi鈥檙 cynhyrchiad trodd at Nesta Haries a sibrwd wrthi, 鈥淲yddoch chi be鈥, 鈥榙w i鈥檔 teimlo鈥檔 annifyr, Nesta bach. Ddylwn i dalu am rownd deudwch?鈥

鈥淗eb ddirnad maint eu syched, na phris y farchnad, fe aeth Elen Roger i鈥檞 phwrs a thynnu allan bunt! Mae Nesta Harries yn dal i chwerthin wrth gofio fel y bu i Neli鈥檚 Round, chwedl y Saeson, gostio pymtheg arall iddi. Ond os mai pysgodyn allan o ddwr oedd hi yn y bar, yn 么l Nesta Harries roedd pobl Manceinion 鈥榳edi mopio hefo hi鈥 a hithau鈥檔 ffefryn y cynhyrchydd a鈥檙 cast.鈥

Mae Harri Parri yn hael ei ganmoliaeth hefyd o鈥檌 gwr, Gwilym, mab i weinidog, bancer o ran galwedigaeth ac un a fu鈥檔 gefnogol iawn i holl weithgarwch ei wraig.

鈥淵 gwir amdani oedd, ni fyddai hi ddim wedi cyflawni hanner y gwaith, oni bai fod gwilym yn fodlon cadw gwyl bentan pan oedd ei briod ar gerdded,鈥 meddai..

Yn ddiddorol iawn yr oedd ei brawd yn un gwahanol iawn o ran ei ymddygiad. Ond eto er cymaint y gwahaniaeth, doedd neb yn fwy o edmygydd o Hugh Griffith na鈥檌 chwaer ac ar fwrdd yn ei chartref hi ym M么n yr oedd yr Oscar a enillodd y brawd am ei berfformiad yn Ben Hur gydag Elen Roger Jones yn cael boddhad mawr yn ei ddangos i ymwelwyr.

鈥淲elsoch chi Oscar erioed?鈥 oedd ei chwestiwn gyda gw锚n i mi wrth imi adael yr unig dro y bum yno a phwyso arnaf i godi鈥檙 ddelw.

Mae pennod helaeth am Hugh Griffith y brawd lliwgar yn llyfr Harri Parri ac y mae i鈥檞 weld mewn sawl un o鈥檙 nifer o luniau a gyhoeddir.

Ond mae o, wrth gwrs, yn destun llyfr ynddo鈥檌 hun yn hytrach na bod yn droednodyn mewn cyfrol am ei chwaer.

Mae鈥檙 gyfrol yn olrhain troeon yr yrfa o鈥檙 cychwyn cyntaf un ond weithiau mae rhywun yn ofni bod gormod o gerrig m芒n wedi eu hel gyda chyfeiriadau weithiau nad ydynt yn ychwanegu ond at y swmp yn hytrach nag at y sylwedd.

Dydi dweud rhywbeth fel, 鈥淢ae gen i go鈥 am fynd i weld y cwmni hwnnw鈥檔 perfformio . . .ond fedrai ddim cofio mwy na hynny am y ddrama na鈥檙 perfformiad,鈥 o fawr werth i ddarllenydd ond y mae amryw ohonynt megis un yn dyfynnu o lythyr gan rywun sy鈥檔 dweud nad yw鈥檔 ei chofio!

Ond mae鈥檔 bortread sydd wedi ei lunio gyda chyfuniad o gymymdeimlad ac edmygedd ac anodd anghydweld a brawddeg olaf y llyfr: 鈥淕wyleidd-dra fel y dur oedd un Elen Roger, ac anaml y gwelwyd ei dewrach.鈥

Elen Roger - Portread gan Harri Parri.
Gwasg Pantycelyn. 拢8.95
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy