主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Ffuglen sy'n
teimlo fel y gwir

Adolygiad o'r nofel a ddaeth yn ail yng Ngystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni

Dydd Iau, Ionawr 4, 2001
Adolygiad Aneirin Karadog o Yr Ias yng Ngruddiau鈥檙 Rhosyn gan Gwyn Llewelyn, Gwasg Carreg Gwalch.

Wrth ddechrau darllen y nofel afaelgar hon o eiddo Gwyn Llewelyn, nid oedd yn syndod imi fod y digwyddiadau ynddi鈥檔 cael eu lleoli led-led y byd.

O F么n i Seland Newydd ac o Awstralia i ddeheudir cyfandir Affrica.

Dylanwad cyfres deledu

Mae dyn yn cofio, wrth gwrs, i鈥檙 awdur fod yn gyflwynydd nifer o raglenni teledu fel Y Dydd, Heddiw, Newyddion Saith, Hel Straeon ac yn fwyaf arbennig yn y cyswllt hwn, Gwyn ei Fyd.

Mae鈥檔 amlwg o鈥檙 nofel hon i'r cyfleoedd a鈥檙 profiadau a gafodd yn y gyfres honno ddylanwadu arno鈥檔 aruthrol.

Mae dawn yr ymchwilydd yn amlwg iawn. Serch hynny, heb fynd i swnio鈥檔 rhyfygus nac yn haerllug, efallai fod tuedd i ddawn yr ymchwilydd lesteirio dawn yr awdur creadigol mewn mannau.

Ond mae鈥檔 braf gweld nad yw鈥檙 awdur yn ceisio ysgrifennu am bynciau a llefydd na wyr ddim amdanynt.

Diffyg bychan yw hwn mewn nofel mor uchelgeisiol 芒 chrefftus a hon gyda nifer o haenau yn ymblethu鈥檔 gelfydd drwyddi.

Yn gyntaf, ceir hanes Alun Edward Lloyd, cymeriad (wedi ei greu) o F么n sydd yn symud i Dde鈥檙 Affrig tuag adeg y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn gwneud ei ffortiwn yn y mwyngloddiau aur.

Yn cydredeg 芒鈥檙 stori hon, ceir hanes person arall sydd 芒鈥檌 wreiddiau yn Ynys M么n ond sydd bellach yn gweithio yn Awstralia, Mike Dawson.

Cynnal safon uchel

Mae鈥檙 modd y saern茂wyd y nofel hon yn wych - y cynnwys mor ddiddorol 芒鈥檙 mynegiant yn raenus - ac mae鈥檔 glod i鈥檙 awdur iddo lwyddo i gynnal y safon uchel gydol y nofel.

Nid yw鈥檔 anodd dilyn rhediad y stori ac mae鈥檙 dechneg o gyfosod dwy olgyfa hollol wahanol megis erchylltra鈥檙 ffosydd a moethusrwydd y bywyd bras yn Awstralia yn gwrthgyferbynnu鈥檔 wych.

Nid yn unig y ceir dwy stori yn cydredeg 芒鈥檌 gilydd yn Yr ias yng Ngruddiau鈥檙 Rhosyn ond eir hefyd arddull gyffredinol aml-haenog sy鈥檔 effeithiol iawn.

Mae鈥檙 nofel yn frith o lythyrau gan berthnasau鈥檙 prif gymeriadau a chan y prif gymeriadau eu hunain ynghyd ag ambell un oddi wrth y fyddin a sefydliadau tebyg.

Hyd yn oed o gip-ddarllen y nofel, mae鈥檙 ansawdd o ran yr ochr weledol yn ganmoladwy.

Mae'r nofel yn cychwyn gydag englyn o eiddo Ieuan Wyn ac yn cynnwys toriadau o鈥檙 Daily Post ymhlith pethau eraill, gan gyfrannu鈥檔 helaeth at y nofel fel cyfanwaith.

Dwy olygfa erotig

Yn annisgwyl, o bosib, ceir dwy olygfa lled-erotig ym mhenodau cyntaf y nofel.

Mae鈥檙 awdur ar ei orau yma yn disgrifio鈥檙 sefyllfaoedd hyn mewn dull hynod o deimladwy a chryno heb adael i鈥檙 deunydd fynd yn ddichwaeth nac yn ffiaidd.

"Clywodd ei hanadl yn cyflymu. Yn gyflym, rhag cyrraedd penllanw cyn pryd, diosgodd Mike ei ddillad i gyd."

Heb ddatgelu gormod am y plot, sydd yn llawn gwreiddioldeb, gellir dweud mai cyfreithiwr yw Mike Dawson yn Awstralia ac mai鈥檙 prif ddigwyddiad o bosib yw canfod ei ddarganfyddiad o hen gist yn Seland Newydd.

Mae鈥檙 gist hon a鈥檌 chynnwys (na fyddai'n deg imi ei ddatgelu yma) yn dyddio鈥檔 么l i gyfnod Alun Edward Lloyd a鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf a hi yw鈥檙 prif gysylltiad rhwng y ddau brif gymeriad.

Ffuglen sy'n teimlo fel y gwir

Er mai ffuglen yw鈥檙 stori hon, ymddengys yn real iawn oherwydd i鈥檙 awdur ddefnyddio鈥檙 ffynonellau ffeithiol o鈥檙 papurau newydd ac ati mewn modd mor effeithiol.

Gyda hyn, gallwn ninnau uniaethu鈥檔 fwy 芒鈥檙 cymeriadau yn y nofel, hyd yn oed gydag Alun Edward Lloyd, sydd braidd yn rhagrithiol.

Daeth y nofel hon yn ail gyda chlod uchel iddi yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Llanelli eleni ac rwy鈥檔 falch i Gwyn Llewelyn gael y cyfle i鈥檞 chyhoeddi gan wireddu argymelliad beirniaid y gystadleuaeth.

Mae鈥檙 ffaith i gystal nofel 芒 hon ddod yn ail mewn cystadleuaeth lenyddol yn brawf o bwysigrwydd a safon gynyddol uchel Cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy