Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Yr iasau
yn y geiriau

Y cyntefig a'r cyfoes yng nghyfrol ddiweddaraf prifardd dwbwl

Dydd Iau, Ionawr 11, 2001

Y Cyntefig Cyfoes gan Donald Evans.
Cyhoeddiadau Barddas. £6.95.


Adolygiad gan Aneirin Karadog - a chyfle i chwithau ddweud eich barn

Yn un o’r ychydig brifeirdd a lwyddodd i gipio’r gadair ²¹â€™r goron yr un flwyddyn a gwneud hynny ddwywaith, nid bardd cyffredin mo Donald Evans.

Dyma un o feirdd y genedl ond hefyd yn fardd gwlad hynod fedrus.

Plethu'r lleol a'r cenedlaethol -
y cyntefig a'r cyfoes

Yn Y Cyntefig Cyfoes ceir plethiad cywrain o’r ddau fath o ganu; cerddi’r bardd gwlad a cherddi gan fardd sydd o bwys cenedlaethol.

Rhaid dweud ei bod yn drueni iddo beidio â chynnwys cymaint â hynny o gerddi a luniwyd ganddo ar gyfer pobl a phethau lleol. Cerddi sydd efallai’n 'amherthnasol' i ni, weithiau, ond sydd eto’n hyfryd i’w darllen a’u gwerthfawrogi.

Ynghyd â’r plethiad o ganu gwledig a chanu cenedlaethol mae plethiad amlwg arall o’r cyntefig ²¹â€™r cyfoes ynghyd â nifer o bethau y soniaf amdanynt yn nes ymlaen.

Er enghraifft, mae’r gynghanedd, sydd yn grefft digon cyntefig erbyn heddiw, yn chwarae rhan amlwg yn y gyfrol hon gyd²¹â€™r bardd yn anadlu odlau a churiadau harmonïaidd ar brydiau.

Ceir toreth o gywyddau ac englynion yma ynghyd â cherddi ar fesurau arbrofol sydd, fwy na heb, yn cynnwys cynghanedd.

Rhannu'n ddwy ran

Yn fras, rhannwyd y gyfrol yn ddwy rhan.

• Yn gyntaf, nifer o gerddi a gyhoeddwyd gan y bardd yn ei gyfrolau blaenorol, y perlau, fel petai, o blith cerddi a luniodd yn ystod y dadeni cynganeddol rhwng 1976 a 1996.

Yn y rhan hon, mae natur ac amaethyddiaeth yn themâu aml iawn gyd²¹â€™r bardd yn cael ei hudo gan wrthrychau fel y llwynog ²¹â€™r elfennau sy’n effeithio ar natur.

Dyma englyn Cesair ac Eirlysiau:

Finioced eu caledwch – yn curo
Yn nwrn cawr tywyllwch :
Mae brad eu trawiad a’u trwch
Yn forthwyl ar brydferthwch.

Geiriau yn creu iasau

Ymdrinir â nifer o bynciau eraill yn y rhan gyntaf hon hefyd gyd²¹â€™r cerddi sy’n dod o’i gyfrol flaenorol, Iasau, yn rhai hynod o drawiadol ac, fel mae ei theitl yn awgrymu, â ias yn rhedeg drwy’r cerddi.

Mae’r gerdd, Bedd Plentyn, yn arswydo gyda’i disgrifiadau sy’n ymylu ar fod yn gignoeth ar brydiau wrth sôn am ail agor bedd plentyn er mwyn claddu’r fam ynddo gyda’i phlentyn:

A’i ail-weld ar wely ing:
ei geg yn gyfog o waed
²¹â€™r liwcimia’n ei fwyta’n fyw.


Cerdd drawiadol arall i mi’n bersonol yw’r cywydd, Marwolaeth y Cymro Olaf.

Cerdd sy’n rhybudd fod brwydr yr iaith ymhell o fod ar ben.

Cerdd drist sy’n peri i’r stumog gorddi ar brydiau.

Nid yn unig am mai’r Gymraeg yw’r iaith dan sylw ond oherwydd bod marwolaeth unrhyw iaith yn ddigwyddiad, neu’n broses ingol a thrist.

Ynghyd ag effaith y gynghanedd, dyma gerdd ddwys dros ben sy’n siwr o afael ymhob un sy’n ei darllen.

Neb ar ôl mewn hiraeth brau.
Hiraeth am un o’i geiriau


Mae’r gwrthgyferbyniadau hyn yn amlwg gydol y gyfrol - yn y rhan gyntaf ac yn yr ail.

Enghraifft bellach o’r gwrthgyferbynnu hwn yw cerddi fel Y Tip Sbwriel a Crwt o Fecanic sydd wedi eu gosod nesaf at englynion am y dderwen, Coed Mawrth a Glaw’r Gwanwyn.

Yr Ail Adran

Cynnwys yr ail adran yw "cerddi cenedlgarol newydd…²¹â€™r cerddi hynny’n dathlu adfywiad yr ymwybod Cymreig…ar gychwyn y trydydd mileniwm" a defnyddio geiriau’r bardd.

Mae’r naws a grëir gan y bardd yn y cerddi hyn yn ymddangos yn llai personol - ond nid yn amhersonol - gyda nifer o’r cerddi yn cyfeirio at bethau sy’n ein diffinio ni heddiw fel cenedl ac at adeiladau fel Stadiwm y Mileniwm.

Yn wir, mae’r cywydd i’r Stadiwm, Stadiwm 2000, yn grefftus ac yn llawn disgrifiadau a chymhariaethau sy’n gosod y stadiwm ochr yn ochr â phrif adeiladau’r byd ar hyd yr oesoedd:

A tho fel to’r Pantheon
yn coroni egni hon


Nodiadau gan y bardd

Cyn ymhelaethu ar berlau’r rhan hon o’r gyfrol, mae’n werth nodi i’r bardd gynnwys sylwadau ar ambell i gerdd ar ddiwedd y gyfrol ac ambell i beth sy’n ymddangos ynddynt gan ein galluogi i uniaethu’n fwy â’r hyn y mae’r bardd yn ceisio ei ddweud.

Wrth gwrs, nid oes angen yr un sylw na nodyn gyda cherddi fel ei deyrnged i Rhydwen Williams a’i gywydd i Owain Glyndwr.

Dewisodd osod yr englynion gyda'i gilydd ar yr un dudalen a than y teitl syml, Englynion - ar wahan i un englyn, Amgueddfa Lofaol, sydd i’w weld wedi dianc drwy’r rhwyd neu wedi ei esgusodi.

Mae’r ateb pam yn y llinell wych sy’n ei gloi:

Llewych glân yw llwch y glo – wyneb oer
yr hen bwll yn groeso;
yn awr o hyd llenwir o
â thawelwch morthwylio.


Hanes a gwreiddiau

Mae’n amlwg fod cofio hanes a gwreiddiau yn bwysig er mwyn y dyfodol yn nhyb y bardd ac er mwyn ffyniant a pharhad yr iaith.

Fel y mae teitl yn ei awgrymu, mae’r cyntefig ²¹â€™r cyfoes yn cael eu plethu gan grefftwr sy’n deall ei grefft gyd²¹â€™r gorau ohonynt.

Amlygir hyn yn y cywydd, Hi yr iaith yn syrffio’r we, lle cyfeirir at gymeriadau fel Epona, duwies y ceffylau, a Lleu, duw goleuni mewn mytholeg Geltaidd.

Ar ddiwedd yr ail ran hon o’r gyfrol ceir Lliw awen y bardd lleol - teitl a roddwyd gan y bardd ar isadran o fewn yr ail ran sy’n cynnwys dwy gerdd yn unig.

Mae’n drueni na chynhwyswyd mwy o gerddi yn yr adran hon er mai canu gwledig a geir yma.

Er nad oeddwn i fel darllenydd yn rhan o’r digwyddiadau a ysgogodd y cerddi hyn, nac yn gyfarwydd ²¹â€™r bobl y cyfeirir atyn nhw, gallaf werthfawrogi camp y bardd yn enwedig o ran y gynghanedd.

Nid yn unig y mae yma gerddi sydd o bwys cenedlaethol â lleol ond maen nhw’n gerddi y dylai pawb sy’n dysgu’r cynganeddion neu sy’n barddoni o gwbl eu darllen - pe na byddai ond er mwyn mwynhau’r iasau sy’n rhedeg drwy eiriau’r gyfrol ar brydiau.

Ydych chi wedi darllen y llyfr hwn?
Beth yw eich barn amdano
Anfonwch i ddweud wrthym trwy glicio Yma

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy