Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bardd
a'i feiau

A sut y cuddiodd y wasg Gymraeg hwy rhag y werin!

Dydd Iau, Ionawr 18, 2001
Llyfr newydd - Owen Gethin Jones - Ei Fywyd a’i Feiau gan Vivian Parry Williams. Gwasg Carreg Gwalch. £6.

Gan amlaf, y duedd gyda bywgraffiadau a chofiannau Cymraeg yw canmol - a chanmol mwy.

Yr oedd yn annisgwtl, felly, gweld y geiriau "ei fywyd a’i feiau" yn nheitl llyfr am fardd o’r ganrif ddiwethaf.

Cuddio'r beiau rhag y werin

Ac yng nghyfrol Vivian Parry Williams, Owen Gethin Jones - Ei Fywyd a’i Feiau tanlinellir y gwahaniaeth rhwng y ffordd Gymraeg a’r ffordd Saesneg o drafod cymeriad person.

Fel pawb ohonom, doedd Owen Gethin Jones ddim heb ei feiau - yr hyn sy’n ddiddorol yw i’r beiau hynny gael eu cuddio rhag y werin gan wasg Gymraeg y dydd tra bo’r wasg Saesneg wedi ei ddinoethi gerbron y bobol.

Hyd yn oed heb ei feiau yr oedd Owen Gethin Jones yn berson diddorol ar sawl cyfrif.

Yn gymysgedd annisgwyl o fardd, hanesydd lleol, adeiladydd, gwladgarwr, Tori a chyfalafwr - heb sôn am fod yn dipyn o ferchetwr hefyd.

Y pechod hwnnw achosodd i'w enw gael ei lusgo drwy lys barn.

Protest yn erbyn yr Orsedd

Er mai ychydig o wybodaeth sydd ar gael amdano bu Vivian Parry Williams yn dyrchwr mor ddyfal a chydwybodol fel y cawn ddarlun crwn a chyflawn o gymeriad digon cymhleth a oedd yn gyfoeswr ac yn gyfaill i feirdd fel Trebor Mai a Gwilym Cowlyd.

Yn cael ei adnabod wrth ei enw barddol, Gethin, nid yn unig enillodd sylw yn genedlaethol ddiwedd y ganrif ddiwethaf ond yr oedd yn un o’r rhai a drefnodd gyda Threbor Mai a Gwilym Cowlyd arddewst enwog Llyn Geirionnydd yn 1863 yn wrthwynebiad i Seisnigrwydd Gorsedd Beirdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Sbardunodd yr arweddst hon gymaint o ddiddordeb yr anfonodd yr Illustrated London News ohebydd ac arlunydd yno!

Dyffryn Conwy oedd ei gynefin ac ardal Penmacho a Llanrwst yn benodol lle daeth yn adeiladydd o bwys. Y mae Vivian Parry Williams yn tynnu cymhariaeth ddiddorol rhyngddo a David Davies Llandinam.

Y mae pont reilffordd a gododd ei gwmni rhwng Betws-y-coed a Dolwyddelan yn dal i ddwyn ei enw, Pont Gethin.

Bardd medrus

Dywedwyd amdano fel bardd:

"Yr oedd yn fedrus iawn yn y mesurau caethion . . . medrai ganu yn rhwydd a didrafferth ar y mesurau gorchestol . . . a gwnai englyn unodl union mor rwydd a siarad neu anadlu."

Yr oedd hefyd yn hynafiaethwr gwybodus am ei fro ac yn gwmni difyr.

"Nid wyf yn gwybod i mi adnabod neb erioed â’i gwmni yn fwy difyrus ac adeiladol," meddai un o’i gyfoeswyr.

Gwneud ei hun yn amhoblogaidd

Ond y mae Vivian Parry Williams yn dangos gwedd arall i’w gymeriad:

"Gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd ymysg y werin bobl oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol" ac yntau yn Dori digon penboeth mewn cyfnod pan oedd rhyddfrydiaeth radicalaidd ar gynnydd.

Ac mewn oes pan oedd bri ar ddirwest canfu Vivian Parry Williams ei fod yn llymeitiwr ar y slei.

Ac er sawl gorchestwaith fel adeiladydd bu ei enw yn ei fro "yn faw" yn y cyswllt hwnnw hefyd oherwydd anghydweld ynglyn â llwybr rheilffordd a adeiladwyd ganddo i’r N.W.R.

Tipyn o dderyn

Hari DduDaeth anfri pellach yn sgil y ffaith ei fod yn "tipyn o dderyn" ac yn un am y merched fel y dengys ei gysylltiad ag achos llys erchyll Hari Ddu a gyhuddwyd o lofruddiaeth.

Mae'r achos hwn yn ddadlennol nid yn unig yng nghyswllt cymeriad Gethin ei hun ond yn ddadlennol o safbwynt tueddiadau rhagrithiol y wasg Gymraeg o'i chymharu â’r wasg Saesneg - gyda’r naill yn osgoi crybwyll ei enw mewn perthynas â’r achos ond y llall yn dyfynnu cyfeiriadau a wnaed ato yn y llys.

Y mae hon yn un o benodau difyrraf y llyfr gyda’r awdur yn cynnig y sylw hwn:

". . . ni feiddiai yr un gohebydd o’r wythnosolion Cymraeg ei enwi fel un a oedd yn gysylltiedig a sgandal o’r fath. Yn sicr, roedd rhai o’r gohebwyr hynny yn gyfeillion agos iddo, ac roeddynt wedi canu ei glodydd mewn sawl colofn . . .

"Mewn cyfnod pan oedd mwyafrif llethol o drigolion llawer o bentrefi a threfi Cymru yn uniaith Gymraeg dim ond lleiafrif bychan . . . a ddarllenai …
(y) papurau newyddion a argraffwyd yn yr iaith fain."

Pwnc astudiaeth bellach - y wasg ragrithiol Gymraeg - yn y fan yna.

Am y rhestr ddiweddaraf o lyfrau newydd cliciwch Yma.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy