Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hoff
gerddi'r
Cymry


Gerallt Lloyd Owen ydi bardd mwyaf poblogaidd Cymru. Dyma farn y bobl.

Y mae tair o’i gerddi ef ar restr o ugain o gerddi mwyaf poblogaidd Cymru. Yn wir, ef biau’r ddwy gerdd gyntaf gyntaf yn y gyfrol newydd Hoff Gerddi Cymru a fydd yn cael ei chyhoeddi Ddiwrnod y Llyfr yr wythnos nesaf.

Bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Gomer ac yn cynnwys y cant o gerddi a ddewiswyd yn rhai mwyaf poblogaidd y genedl.

Golygydd y gyfrol yw Bethan Mair Matthews. Dewiswyd y cerddi trwy bleidlais ac mewn cydweithrediad gyda Radio Cymru meddai..

Dywedodd mai un o’r pethau a’i synnodd ynglyn â’r dewis terfynol oedd cymaint o gerddi diweddar a ddewiswyd .

"Yr oeddwn i’n synnu oherwydd nad oeddwn wedi meddwl i rai ohonyn nhw fod wedi cael digon o amser i ddod yn ffefrynnau," meddai.

Ond doedd cael cadarnhad o boblogrwydd rhai cerddi ddim yn syndod o gwbwl a dywed i’r dewis terfynol apelio ati hi yn bersonol.

Ychwanegodd iddi ddod yn amlwg i lawer o’r cerddi apelio ar lefel bersonol ac y mae eraill yn adlewyrchiad o’r cerddi a ddysgwyd gan bobl pan yn blant yn yr ysgol ac wedi aros yn eu cof.

Dyma’r rhestr gyflawn o’r cant o gerddi a fydd yn y gyfrol:

1. Fy Ngwlad - Gerallt Lloyd Owen

2. Etifeddiaeth - Gerallt Lloyd Owen

3. Hon - T.H. Parry-Williams

4. Cofio - Waldo Williams

5. Dychwelyd - T.H. Parry-Williams

6. Nadolig - D.J. Thomas

7. Rhos Helyg - B.T. Hopkins

8. Clychau’r Gog - R. Williams Parry

9. Y Tlawd Hwn - W.J. Gruffydd

10. Nant y Mynydd - Ceiriog

11. Gail Fu Farw - Nesta Wyn Jones

12. Y Llwynog - R. Williams Parry

13. Rhyfel - Hedd Wyn

14. Aberdaron - Cynan

15. Y Gwr Sydd Ar y Gorwel - Gerallt Lloyd Owen

16. Y Pabi Coch - I.D. Hooson

17. Rhydcymerau - Gwenallt

18. Mewn Dau Gae - Waldo Williams

19. Yn Nheyrnas Diniweidrwydd - Rhydwen Williams

20. Far Rockaway - Iwan Llwyd

21. Melin Trefin - Crwys

22. Ty’r Ysgol - T.H. Parry-Williams

23. Pechod - Gwenallt

24. Y Cudyll Coch - I.D. Hooson

25. Cyngor - T.H. Parry-Williams

26. Y Sipsi - Crwys

27. Sir Gaerfyrddin - Gwenallt

28. Plentyn ar Siglen - Alan Llwyd

29. Cwyn y Gwynt - John Morris-Jones

30. Ar Ben y Lôn - Sarnicol

31. Hiraeth am Ffaldybrenin - Wil Ifan

32. Atgo’ - Hedd Wyn

33. Cilmeri - Gerallt Lloyd Owen

34. Aros a Myned (O Alun Mabon) - Ceiriog

35. O Fab y Dyn - George Rees

36. Nant yr Eira - Iorwerth Peate

37. Y Border Bach - Crwys

38. Adref - R. Williams Parry

39. Broseliawnd - T. Gwynn Jones

40. Mae Hiraeth yn y Môr - R. Williams Parry

41. D.I.Y. - Grahame Davies

42. Dydd Iau Mawr - Dic Jones (allan o Porth yr Aber)

43. Ar Gyfeiliorn - Gwenallt

44. Moelni - T.H. Parry Williams

45. Cân yr Arad Goch (O Alun Mabon) - Ceiriog

46. Er Cof Am Kelly - Menna Elfyn

47. Pwllderi - Dewi Emrys

48. Ystrad Fflur - T. Gwynn Jones

49. Seimon Fab Jona - I.D. Hooson

51. Rho im yr Hedd - Elfed

51 Gwawr Wedi Hirnos - J. Vernon Lewis

52. Y Tangnefeddwyr - Waldo Williams

53. Y Ceiliog Ffesant - R. Williams Parry

54. Yr Heniaith - Waldo Williams

55. Gwenoliaid - T. Gwynn Jones

56. Y Gweddill - J.M. Edwards

57. Yr Ieuainc wrth yr Hen - W.J. Gruffydd

58. Croesi Traeth - Gwyn Thomas

59. Gwladus Rhys - W. J. Gruffydd

60. Eifionydd - R. Williams Parry

61. Mair Fadlen - Saunders Lewis

62. Llynnoedd - J.R. Jones

63. Ymadawiad Arthur - T. Gwynn Jones (Detholiad)

64. Côr Meibion - Gwyn Thomas

65. Teifi - Cynan

66. Preseli - Waldo Williams

67. Gweddi Dros y Pethau Hyn - Aled Lewis Evans

68. Over The Llestri - Aled Lewis Evans

69. Pa Beth yw Dyn? - Waldo Williams

70. yr Asyn - J. Eirian Davies

71. Cynefin - T.H. Parry-Williams

72. Y Meirwon - Gwenallt

73. Y Gwyddel Gwyn a Du - Twm Morys

74. Mintys Poethion - Menna Elfyn

75. Ar Ymweliad - Alun Llywelyn Williams

76. Hedd Wyn - R. Williams Parry

77. Parc yr Arfau - Dic Jones

78. Glannau - John Roderick Rees

79. Englynion i Lys Ifor Hael - Ieuan Brydydd Hir

80. Cwm Alltcafan - T. Llew Jones

81. Brawddegau Wrth Gofio Hiraethog - T. Glynne Davies

82. Y Canol Distaw Llonydd - Steve Eaves

83. Ras - T. Rowland Hughes

84. Glas - Bryan Martin Davies

85. Pam Fod Eira’n Wyn - Dafydd Iwan

86. Y gegin Gynt yn yr Amgueddfa Werin - Iorwerth C. Peate

87. Y Gymraeg - W. Rhys Nicholas

88. Dysgub y Dail - Crwys

89. Pont Menai - Dewi Wyn o Eifion

90. Iawn, gei di ofyn cwestiwn personol - Iwan Llwyd

91. Llongau Madog - Ceiriog

92. Detholiad o Min y Môr - R. J. Rowlands (Meuryn)

93. Detholiad o Awdl y Cynhaeaf - Dic Jones

94. Drama’r Geni - Gwyn Thomas

95. Crafangau - T. Glynne Davies

96. Y Sipsiwn - Eifion Wyn

97. Ffenestri - W.J. Gruffydd

98. Nid Llwynog oedd yr Haul’ gan Myrddin ap Dafydd / Geraint Lovegreen

99. Cwm Pennant - Eifion Wyn

100. Colli Iaith - Harri Webb

Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy