主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Annes Glynn Adnabod Awdur:
Annes Glynn -
Awdur Nofel
Mis Mawrth!

Cofio Cyn Oeri'r Gwaed yn cynhesu'r gwythiennau
Holi Annes Glynn awdur Nofel y Mis a fydd yn cael ei chyhoeddi Mawrth 1, Diwrnod y Llyfr

• Enw?

Annes Glynn

• Beth yw eich gwaith?

Swyddog Cysylltiadau Corfforaethol Cynorthwyol, Ysbyty Gwynedd, Bangor

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Gohebydd gyda Phapurau'r Herald a'r Cymro; Swyddog Cyhoeddusrwydd i gwmn茂au teledu annibynnol; Swyddog Cyfathrebu, Coleg Menai, Bangor.

• O ble rydych chi'n dod?

Brynsiencyn, Ynys M么n.

• Lle rydych chi'n byw yn awr?

Rhiwlas, Bangor.

• Pam sgrifennu llyfr?

Am fod yr awydd yno erioed ac am fy mod i wedi cael cyfle i wireddu'r freuddwyd wedi ennill ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr?

Nofel gyfoes yw Dilyn 'Sgwarnog am ohebydd ar bapur newydd lleol.
Mae'n derbyn galwad ff么n un prynhawn diflas ganol gaeaf yn addo "uffar o stori!" A dyna ddechrau taith sy'n ei harwain ar hyd sawl trywydd amrywiol wrth iddi drio dod o hyd i'r gwir.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Ar hyn o bryd, Margaret Forster

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Os oes rhaid dewis un, yna Cyn Oeri'r Gwaed, Islwyn Ffowc Elis amdani. Mi wnes i ei hastudio ar gyfer lefel 'O' a wna'i byth anghofio'r wefr o glywed darnau yn cael eu darllen yn uchel yn y dosbarth a gwirioni ar wrando ar farddoniaeth rhythmig y brawddegau.

• Pwy yw eich hoff fardd?

T H Parry -Williams

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Sut ar y ddaear mae dewis?... Mae Bro, THP-W yn dal i fy nghyffwrdd. Felly hefyd y soned Ailafael ac, wrth i'r hen flynyddoedd 'crablyd canol oed' nesau, byddaf yn cael blas ar ddarllen Sialens a'r cwpled clo:
'Nid ildiaf ronyn: dof yn ieuanc rydd,
Mi wn, o'r sgarmes fawr, pan dd锚l ei dydd.
'
Ia wir!

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Witness; y gyfres Inspector Morse

• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?

Deuparth gwaith yw ei ddechrau

• Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n bwriadu bod yn awdur?
Sgwennwch am yr hyn sy'n gyfarwydd i chi ac yn rhan o'ch profiad. Daliwch ati hyd yn oed pan fo'r 'Awen' ym modiau eich traed! Credwch ynoch eich hun a byddwch yn barod i chwysu a magu croen fel eliffant!

• Pa ddawn hoffech ei chael?

Y ddawn i greu cynganeddion sy'n codi gwallt y pen ac yn rhoi ias i lawr meingefn.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio orau?

Gofynnwch i fy nheulu a fy ffrindiau!

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Fy mam - am ddal ati.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Glanio ar y lleuad

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

O Faes Meddygon i gyfeiriad Deiniolen - am fod 'hagrwch serchog' Eryri yn mynd 芒 fy ngwynt i yma.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd

Pryd Eidalaidd yng nghwmni ffrindiau da, a digon o Chianti i'w olchi i lawr!

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Darllen, canu mewn c么r lleol, crwydro cefn gwlad, gwneud dim oll ar 么l bod yn rhedeg fel peth gwyllt drwy'r wythnos!

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Yn fy mhen!
Cael yr amser a'r egni i'w roi ar bapur yw'r gamp...


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy