主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mei Mac Adnabod Awdur:
Hen
foi
iawn

. . . y mae Muhammed Ali, Dafydd ap Gwilym ac R. S. Thomas yn arwyr iddo!

Dydd Iau, Mawrth 1, 2001
Holi Meirion Macintyre Huws Bardd Plant newydd Cymru


• Beth yw eich gwaith?

Dylunydd Graffeg a Chartwnydd - ond mae barddoni, trafod barddoniaeth a phethau yn ymwneud 芒 barddoniaeth yn gyffredinol yn dod ag incwm gwerth ei gael hefyd.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Mae gen i radd Dosbarth 1af gydag Anrhydedd mewn Peirianneg Sifil - wir yr!
Bum yn gweithio am 15 mlynedd, fel peiriannydd gyda'r Bwrdd Dwr cyn gadael i sefydlu fy nghwmni dylunio fy hun.
Y swydd gyntaf i mi ei chael erioed oedd Dyn Gwerthu Corona (diod ysgafn llawn siwgwr a gwynt!)
Am gyfnod bum yn glanhau tanciau mewn gwaith trin carthion. Treuliais chwe mis fel labrwr yn gosod pibelli dwr.
Bum hefyd yn ddyn Stop and Go - job anniddorol iawn.

• O ble'r ydych chi'n dod?

Caernarfon - y dref ddifyraf yn y byd.

• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

Llanwnda, pedair milltir o Gaernarfon, y dref ddifyraf yn y byd.

• Pam barddoni?

Hynny neu daflu fy hun i'r m么r.
Mater o raid yw barddoni i mi - fel anadlu.
Wrth sgwennu byddai'n dianc i fyd arall, lle nad yw dim ond y gerdd dan sylw yn bwysig ac mae hynny'n brofiad gwerth chweil. Mae bod yn greadigol, wrth sgwennu ac yn fy ngwaith yn rhoi pleser mawr i mi.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Twm Miall am ei gyfrolau Cyw Haul a Ciw D么l.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Oes, "The Greatest" gan Muhammed Ali. Hunagofiant y paffiwr ac un o'r dynion dewraf a fu. Mae ei safiadau dros ei gred a thros ei hil wedi fy ysbrydoli sawl gwaith.

• Pwy yw eich hoff fardd?

Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg ac RS Thomas yn Saesneg.

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Cywydd Diolch am Win Coch gan Ieuan Du'r Bilwg (tua 1470)

• Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?

Roddy Doyle y Gwyddel.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Hoff ffilm: The Good, The Bad and The Ugly.
Prin y byddai'n edrych ar y teledu.

• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?

Am fywyd: "Un ias fer rhwng dwy nos faith"

• Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd?
Mae hyd cae rhwng eisiau bod yn fardd a bod yn fardd. Mae'r gallu gan rai, ond i eraill mae'n waith caled iawn.
Y cyngor gorau fyddai i beidio 芒 bod ag ofn neb wrth sgwennu a pheidio 芒 rhoi gormod o sylw i unrhyw hen gi bach fydd yn cyfarth a chwyno bob hyn a hyn.
Hefyd, mae'n bwysig i fardd ddarganfod ei lais ei hun yn hytrach na dynwared lleisiau beirdd eraill.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Chwarae offeryn cerdd - yn dda - yr organ geg yn ddelfrydol.

• Pa dri gair sy'n ei disgrifio chi orau?

hen foi iawn!

.• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Cerdded ar y lleuad.
Er mwyn cael prawf personol fod y peth yn bosib gan fy mod yn amau yn gryf mai twyll oedd y cyfan.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

Owain Glyndwr.
"Deffra".

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

Ar hyd y Foryd o Bont yr Aber yng Nghaernarfon heibio Porth Lleidiog ac ymlaen at geg yr Afon Gwyrfai.
Mae'r l么n yn dilyn Afon Menai ac mae'r golygfeydd o Eryri a'r afon yn odidog a gyda'r harddaf yn unman - yn fy marn i.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Dwy dafell o dost gyda chig moch ac wy, a sglefran o sos coch rhyngddynt.
Pand o de, un siwgwr.
Kit Kat yn bwdin a hyn oll yng Nghaffi'r Cei, Caernarfon ar fore Sadwrn oer.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Pysgota am frithyll, gyda phlu, yn llynnoedd Eryri.
Pysgota nos am wyniadau (sewin) yn Afon Llyfni.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Oes, diolch.

• Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni fel Bardd Plant Cymru?
Cael plant i fod yn gyfforddus yng ngwmni barddoniaeth boed hynny'n ei ddarllen neu ei ysgrifennu.

• Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi eu cyfansoddi?
Heb ateb!



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy