主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bethan Mair

Adnabod Awdur:
Golygydd siaradus, cyfeillgar a brwd

sy'n chwilio am holl gerddi serch Cymru

Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
Holi Bethan Mair Matthews, cyd-awdur sydd newydd ei chyhoeddi.


• Enw:

Bethan Mair, golygydd Hoff Gerddi Cymru.

• Beth yw eich gwaith?

Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion gyda Gwasg Gomer yn Llandysul

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Darlithydd

• O ble鹿r ydych chi鹿n dod?

Pontarddulais, ger Abertawe

• Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?

Yn y Bont o hyd

• Pa lyfrau ydych wedi eu cyhoeddi?

Fi yw golygydd Hoff Gerddi Cymru, a chyd-awdur Sut i Drefnu Priodas (Gomer).
Rwyf hefyd yn awdur Y Da Cyfoes, cyfrol fach yn trafod barddoniaeth Gymraeg rhwng 1945 ac 1952 (Barddas 1996) a sawl erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg.
Mae dwy gyfres o lyfrau i blant bach a addaswyd i鹿r Gymraeg gen i ar fin ymddangos hefyd, sef Cyfres Pi-po a Chyfres Anifeiliaid Bach Gwyllt.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Yn Gymraeg, T. H. Parry Williams. Yn Saesneg, Annie Proulx. Rwyf hefyd yn hoff o Milan Kundera ac Umberto Eco, ond yn eu darllen mewn cyfieithiad. Mwynheais lyfrau Helen Fielding am Bridget Jones hefyd!

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Wedi darllen llawer o lyfrau cofiadwy iawn, mae'n rhy anodd dewis un.

• Pwy yw eich hoff fardd?

T. Glynne Davies

• Pa un yw eich hoff gerdd?

CwmNant yr Eira gan Iorwerth Peate

• Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym mha ffordd?

The Shipping News gan Annie Proulx, am ei fod mor wirioneddol ardderchog. Dyma sut ddylai nofel fod!

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Hoff iawn o'r ffilmiau Singin in the Rain ac LA Confidential. Llawer yn rhy hoff o'r teledu, yn enwedig Eastenders, 主播大秀 Front in the Garden, Vicar of Dibley a This Life.
Mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd!

• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?

Ni leddir iaith na chenedl fyth ond gan ei phobl ei hun - D. J. Williams

• Pa gyngor fyddech chi鹿n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?

Darllennwch gymaint ag y gallwch, o bob math o lyfrau, ond yn enwedig y math o lyfr yr hoffech chi ei ysgrifennu. Byddwch yn hunan-feirniadol, ond peidiwch 芒 bod ofn mentro.
Cymerwch gyngor gan gyhoeddwr.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Reidio beic! Wedi methu'n l芒n 芒 dysgu.

• Pa dri gair sy鈥檔 ei disgrifio chi orau?
Cyfeillgar
Siaradus
Brwd.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

Methu 芒 dewis, sori.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Darganfod America. Mae鹿r syniad o fentro i鹿r anwybod yn fy nghyffroi ac yn codi ofn arnaf, ond meddyliwch am fenter y rhai hynny a aeth ati i hwylio i鹿r Gorllewin heb ddim syniad o鹿r hyn oedd o鹿u blaenau. Anhygoel!

• Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Awdur Y Mabinogi. Buaswn yn gofyn Pwy ydych chi?

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

O Hwlffordd i Dyddewi, yn enwedig dod i olwg y m么r yn Newgale. Mae'r ardal honno o Sir Benfro, Pebidiog neu Dewisland, yn hudolus - fy hoff fan.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Rwy'n ceisio colli pwysau ar hyn o bryd felly ddylwn i ddim meddwl am fwyd, ond rwy'n hoff iawn o lasagne, salad gwyrdd a bara garlleg.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cyfeilio i g么r Lleisiau Lliw ym Mhontarddulais, a chanu'r organ yn y capel; gofalu am fy nai bach, Cai; darllen cylchgronau glossy; cefnogi rygbi yn ystod y gaeaf.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Wrthi'n casglu enwebiadau ar gyfer Hoff Gerddi Serch Cymru, dilyniant i Hoff Gerddi Cymru.

Mae croeso i ddarllenwyr Cymru鹿r Byd ddanfon enwebiadau ar gyfer eu hoff gerddi plant ataf - bethan@gomer.co.uk.

Gweithio ar lyfrau pobl eraill fydda i fel arfer, serch hynny!





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy