主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol

Adnabod Awdur:
Mair Evans


Awdur Pwy sy'n Cofio Siôn? Nofel ar gyfer dysgwyr am ferch ifanc yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd i ganwr pop enwog.

Dydd Iau, Mai 10, 2001
Enw:
Dr Mair Evans

• Beth yw eich gwaith?

Rwy'n bennaeth Adran y Gymraeg yng ngholeg Gorseinon ger Abertawe. Rwy'n dysgu myfyrwyr 16-18 oed ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Bues i'n athrawes ysgol uwchradd ac yn diwtor ar gyrsiau Wlpan.

• O ble鈥檙 ydych chi鹿n dod?

O Lansamlet, ger Abertawe.

• Lle鈥檙 ydych chi鹿n byw yn awr?

Yn Llansamlet.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn fawr iawn.
Ces i'r dechrau gorau posibl yn ysgol L么n Las, wedyn Ysgol Gyfun Ystalyfera a ches i amser mor wych yng ngholeg y brifysgol Llanbedr Pont Steffan arhosais i yno am dair blynedd arall ar ol graddio i wneud traethawd ymchwil PhD dan ofal y Dr. Islwyn Ffowc Elis.

• Pam sgrifennu llyfrau?
Pam anadlu?

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Cyfres Narnia gan C.S. Lewis

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf, nawr ac yn y man.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Irvine Welsh, Robin Llywelyn, Douglas Coupland, Mihangel Morgan ...

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Ar ol darllen Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames pan o'n i yn fy arddegau, penderfynais i mod i eisiau ysgrifennu yn Gymraeg.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Yn Gymraeg, W.J. Gruffydd.
Yn Saesneg, Coleridge.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Y Tlawd Hwn gan W.J. Gruffydd.

• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ga i ddewis darn o ryddiaith?
Mae'r geiriau hyn yn dod o lyfr bywgraffiadol Edmund Gosse, Father and Son -
"As respectfully as he could, without parade or remonstrance, he took the human being's privilege to fashion his inner life for himself"

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Excalibur, John Boorman.
Teledu: The Prisoner (achos mae'n fwy perthnasol nawr na phan gafodd ei ffilmio!)


• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Carpe diem - mae'n hanfodol i wneud y gorau o bob munud o bob dydd!


• Pa gyngor fyddech chi鹿n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Ysgrifennwch!
Mae meddwl am ysgrifennu, siarad am ysgrifennu, a mynd ar gyrsiau ysgrifennu yn gallu helpu, ond peidwch a gwneud y pethau hyn YN LLE ysgrifennu!
Mae nofel yn cael ei hysgrifennu un gair ar y tro - ysgrifennwch y gair cyntaf heddiw!

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Hoffwn i allu canu.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Gofynnais i fy ffrindiau, a dywedon nhw:
Creadigol
Cynnes
Dirgelwch

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Nac oes, dim. Does neb yn berffaith - ond dyna'r hyn sy'n ein gwneud ni i gyd yn unigryw.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Fy ffrind, Christine Jones, am ymdopi mor llwyddiannus gyda swydd llawn amser, ysgrifennu a golygu llyfrau, a bod yn fam i ddau o blant.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Mudiad y suffragettes ar droad yr 20fed ganrif.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Anne Frank - er mwyn iddi wybod ei bod hi wedi cael ei dymuniad o fod yn awdur, a gwybod ei bod hi wedi gwneud gwahaniaeth i'r byd.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y cylch o gwmpas penrhyn Dingle yng ngorllewin Iwerddon - os ych chi'n lwcus i gael diwrnod braf!. Mae naws cyfriniol iawn yno, ac ych chi'n gallu clywed y Wyddelig yn cael ei siarad yn naturiol.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta gyda saws pesto. Gwin coch. Unrhywbeth gyda siocled ynddo fe!

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen yn bennaf. Rwy hefyd yn hoffi brodio, a dysgu crefftau newydd fel paentio ar wydr, paentio gyda chwyr poeth, ac addurno cerameg.

• Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

• Pa liw yw eich byd?
Melyn - lliw blodau'r haul!

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae BOB AMSER llyfr gyda fi ar y gweill!

• Beth fyddai'r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Rwy'n gweithio ar hynny!






Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy