主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Huw Jones

Adnabod Awdur:
Huw Jones


Awdur Cydymaith Byd Amaeth casgliad geiriadurol o eiriau a dywediadau amaethyddol

Dydd Iau, Mai 24, 2001
Enw:
Huw Jones

• Beth yw eich gwaith?
Gweinidog wedi ymddeol

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweini ffarmwrs neu weithio fel gwas fferm am chwe blynedd o 14 I 20 oed.

• O ble鹿鈥檙 ydych chi鹿n dod?
O Lanfechell yng Ngogledd M么n.

Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar y cyfan, do, yn enwedig cyfnod Bangor. Bu鈥檔 ddeng mlynedd o gwrs - dwy yng Ngholeg Clwyd yn gwneud y matriculation; chwech yn gwneud dwy radd ym Mangor, un yn Aberystwyth.

• Beth wnaeth ichi fynd ati i gywain geiriadur?

Cael gwahoddiad gan Wasg Carreg Gwalch yn 1994 I ymgymryd 芒鈥檙 dasg o wneud casgliad o dermau, ymadroddion ac yn y blaen amaethyddol.

Roedd gen i sgwrs neu ddarlith i鈥檙 cyfeiriad hwnnw. Ar sail hynny y daeth y gwahoddiad.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Nedw, Tegla.

• A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?

Bum yn ei ddarllen, ymhlith degau lawer o lyfrau, at bwrpas y Cydymaith a dyfynnu ohono; e.e. dan y gair breichiau (trol)

• Pwy yw eich hoff awdur?
Islwyn Ffowc Elis

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Ac Onide gan J. R. Jones - llyfr ysgytwol ei gynnwys a鈥檌 weledigaeth.

• Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry ond yn gwirioni鈥檔 achlysurol ar Gwenallt, T. Gwynn Jones, Waldo a T. H. Parry-Williams

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Eifionydd, R. Williams Parry.

• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel.

Ystrad Fflur, T. Gwynn Jones.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
A Touch of Frost;
鈥橳was Alright on the Night


• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
A nertho farn wrth a fu,
Ef a erys yfory

- T. Gwynn Jones

Pa gyngor fyddech chi鹿n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Os medrwch chi, peidiwch.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn artist. Dawn i dynnu llun

Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Byr (o gorff)
Aflonydd (o feddwl)
Penderfynol (o ewyllys)

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Tuedd i adael popeth tan y munud olaf

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Yn y sefyllfa Gymreig, Gwynfor Evans - wedi cenhadu鈥檔 ddiflino dros ei wlad a hynny er gwaethaf llawer o siomedigaethau heb suro na chwerwi.

Yn y sefyllfa ehangach, Nelson Mandela - chwarter canrif yng ngharchar, dod allan mewn ysbryd o gymod a datgymalu apartheid.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Bod yn yr Old Bailey yn Llundain yn gwrando ar Saunders Lewis yn traddodi ei ddatganiad ac ar DJ Williams heb Saesneg(!) wedi鈥檙 T芒n yn Llyn

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Bob Owen Croesor. "Fasach chi鈥檔 lecio i mi鈥檆h siafio chi Bob Owen?"

Dyna鈥檔 union a wnes ddau Sul cyn ei farw yn 1962. Yno鈥檔 pregethu ac yntau鈥檔 ei wely鈥檔 llegach iawn. Cefais gopi o Cerdd Dafod, John Morris-Jones am wneud.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
I fyny Dyffryn Conwy ar fore Sul ym mis Mai. Mae gogoniant natur yn cynyddu bob cam o Lan Conwy nes cyrraedd uchafbwynt ym Metws y Coed

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio Sul. Biff, pwdin Efrog a鈥檙 llysiau arferol, wedyn pwdin reis a darn o deisen yn ei lygaid.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen tipyn, cerdded tipyn, garddio tipyn.

Pa un yw eich hoff liw?
Fel gweinidog, porffor.
Fel Cymro, gwyrdd.

• Pa liw yw eich byd?
Amryliw.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, pedwaredd gyfrol (a鈥檙 olaf) o鈥檙 Cydymaith Byd Amaeth.

• Beth fyddai鈥檙 paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

Rhy brysur yn cywiro proflenni!

Cydymaith Byd Amaeth







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy