主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyfres y Cymoedd

Adnabod Awdur:
Hywel Teifi Edwards


Awdur Merthyr a Thaf
Dydd Iau, Awst 2, 2001
Enw: Hywel Teifi Edwards - hanesydd eisteddfodol ac awdur y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cymoedd - Merthyr a Th芒f - a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Bu鈥檔 ateb cwestiynau ar Raglen Nia Roberts, ar Radio Cymru.



Ble gawsoch chi鈥檆h geni a phryd?
Yn Llanddewi Aberarth ar Hydref 15, 1934.

P鈥檜n oedd atgof melysaf eich plentyndod?
Y bore hwnnw pan aethon ni i Aberystwyth mewn tacsi i gwrdd 芒 nhad oedd yn dod gartre o鈥檙 Almaen lle鈥檙 oedd e wedi bod yn garcharor rhyfel. Roeddwn i rywle tua 6 neu 7 oed. Roedd 鈥檔had wedi bod yn garcharor rhyfel ers 1941 am ddwy flynedd a hanner. Roedden nhw鈥檔 cyfnewid carcharorion a fe gath e ddod adre cyn y diwedd. Ar y m么r oedd e, a dyn o Aberaeron oedd capten y llong gafodd ei suddo gan yr Almaenwyr a roedd nifer o bobol o鈥檙 ardal arni hefyd.

Roedd e鈥檔 un o鈥檙 rhai gafodd eu cyfnewid cyn diwedd y rhyfel oherwydd cyflwr ei iechyd e.

Oes hob茂au gennych chi?
Tr茂o heneiddio yn rasol - celwydd yw hwnna!

Mae gen i ddiddordeb ym mhob math o chwaraeon - gwylio nhw ar y teledu fydda i nawr. P锚l-droed - socer - wrth gwrs. Socer oedd y g锚m yn Sir Aberteifi. Fe dd锚s i ymddiddori mewn rygbi ar 么l mynd i fyw yn y de, ond socer oedd y ng锚m i.

Ac Arsenal oedd y nh卯m i. Roedd yna bedwar o Gymry yn whare i Arsenal pan o鈥檔 i鈥檔 yr ysgol. A Wally Barnes oedd y capten - Cocni rhonc ond bod e wedi cael ei eni yn Aberhonddu pan oedd ei dad yno yn y fyddin.

Rwy鈥檔 cefnogi Arsenal o hyd ac yn llawenhau fod Patrick Vieira yn mynd i aros yno. Dwi erioed wedi bod yn Highbury - dwi eisie cadw鈥檙 rhith, mae鈥檔 debyg.

Buaswn i wedi dwli bod yn John Charles - y rhyfedda ohonyn nhw i gyd. Rhyw Fendigeidfran o wariwr socer. Roedd ei gampe fe鈥檔 rhyfeddol.

O鈥檔 i鈥檔 dwli ar griced a thenis hefyd. Rwy鈥檔 cofio Lew Hoad a Ken Rosewall yn dod o Awstralia i whare yn Wimbledon am y tro cyntaf. O鈥檔 i鈥檔 addoli Hoad.

Dyw tenis ddim beth oedd e. Mae鈥檙 g锚m wedi mynd yn llawer mwy boring - roedd llawer mwy o artistiaid yn y g锚m ers talwm. Roedd y g锚m gymaint 芒 hynny鈥檔 fwy araf a hyfrytach i鈥檞 gwylio. Doedd y racets ddim beth ydyn nhw nawr - ddim mor hi-tech - a roeddech chi鈥檔 cael mwy o shots hyd yn oed yn g锚m y dynion. Roedd hi鈥檔 llawer mwy sgilgar.

Er bod McEnroe a Borg yn chwaraewyr rhyfeddol hefyd. Ond Lew Hoad oedd yn arwr i.

Beth sy gyda chi yn eich poced?
Dim arian yn sicr - mae鈥檙 wraig yn mynd 芒鈥檙 rheini! Allweddi鈥檙 car a macyn - rhag ofn bydda i鈥檔 mynd lefen yn ystod y sgwrs yma!

Oes rhywbeth rydych chi wedi difaru amdano?
Roedd byd y g芒n yn bwysig i ni fel teulu. Roedd Mam - sy鈥檔 93 ac yn dal yn fyw, bendith arni - yn soprano hyfryd. A roedd fy wh芒r yn gyfeilydd tan gamp. Enillodd hi ar ganu鈥檙 piano yn Eisteddfod y Rhos, 1945.

Fi yw鈥檙 unig lob yn y teulu na wnaeth ddysgu darllen y node. Rwy鈥檔 cofio鈥檔 wh芒r yn tr茂o 鈥檔ysgu i - y cwbwl o鈥檔 i eisie o鈥檇d mynd m芒s i gico p锚l. Rwy i wedi difaru nad ydw i wedi dysgu canu鈥檙 node. Dyw nghlust i ddim yn ddrwg, ond allwch chi ddim dibynnu ar eich clust bob amser.

Mae gen i edmygedd dibendraw a llatheidi o genfigen at gerddorion. Clywed y lleisiau godidog - llais go-iawn rwy鈥檔 feddwl - rhywun yn medru sefyll ar lwyfan a medru canu gerbron y byd.

Ble bysech chi鈥檔 caru bod y funud hon?

Dwi ddim yn grwydrwr. Fe g锚s i helyntion iechyd ddechre鈥檙 saithdegau ac yn yr wythdegau a rhyw bethe digon diflas o鈥檇d yn gallu 鈥檔haro i鈥檔 ddirybudd ac i ryw radde fe wnaeth hynny gaethiwo fy awydd i grwydro. Bues i yn America y llynedd - gwlad wallgo, ro鈥檔 i鈥檔 falch dod 鈥檔么l. Mae dyn yn canmol ei lwc a diolch i鈥檞 Dduw bod e fel ag y mae e.

Fe ddechreues i fynychu鈥檙 Llyfgell Genedlaethol gyda Gwenallt pan o鈥檔 i鈥檔 gwneud ymchwil yn y pumdegau.

Un o bleserau bywyd i fi hyd heddi yw mynd i鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol. Mae cael mynd drwy bapurau a chyfnodolion Oes Fictoria, pori yn rheini a dilyn ambell drywydd wrth fy modd i a鈥檙 amser yn hedfan.

Pwy oedd y person diwetha wnaethoch chi siarad gydag e ar y ff么n?
Dafydd Lloyd Hughes ddoe. Byddwn ni鈥檔 cwrdd am ambell sgwrs yn y Ram yng Nghwman a chael ambell lasied o orenj jiws. Mae鈥檔 well gen i weld rhywun wyneb yn wyneb na siarad ar y ff么n. Mae鈥檔 g芒s gen i鈥檙 dechnoleg fodern, yr e-bostio yma. Rwy鈥檔 credu fod pobol wedi cael eu gwneud i gwrdd 芒鈥檌 gilydd a siarad 芒鈥檌 gilydd.

Pwy gymeriad hanesyddol fuasech chi鈥檔 hoffi ei gyfarfod?
Mae hanes Cymru鈥檔 llawn ohonyn nhw. Un yn sicr fuase William Williams Pantycelyn. Licien ni ofyn iddo beth fydde fe鈥檔 ofyn i fi sen i鈥檔 cael fy nal mewn Seiat gydag e. A gofyn iddo fe wedyn a fydde fe鈥檔 debyg o lunio emyn ar sail yr hyn weden i wrtho fe.

Roedd cynifer o鈥檌 emynau e yn emynau profiade鈥檙 Seiat. Dyna sy鈥檔 wneud e mor fendigedig. Pechaduriaid yn dod ato fe i gyffesu yn y Seiadau a鈥檌 awen ynte鈥檔 troi鈥檙 cyffesiadau hynny yn emynau sy鈥檔 ein gwaed ni.

Rwy鈥檔 arbennig o hoff o鈥檙 emynau hynny sy鈥檔 s么n am bererin a phererinion.

Mae鈥檔 debyg y cawn i driniaeth galed gydag e mewn Seiat.

Ydych chi鈥檔 ymfalch茂o o weld eich mab yn darllen y newyddion ar 主播大秀1 am chwech o鈥檙 gloch?
Bydden i鈥檔 anferth o gelwyddgi 鈥檚en i鈥檔 dweud bo fi ddim. Rwy鈥檔 gobeithio mai balchder naturiol yw e o weld rhywun yn gwneud ei job yn weddol gymen. Yn fwy na dim rwy鈥檔 rhyfeddu bod pobol yn dweud ei fod e鈥檔 debyg i fi.

Pan yw e鈥檔 dweud ei stori, mae鈥檔 debyg bod yna leisiau yn ei glust yn dweud pob math o bethe wrtho fe. Petae hynny鈥檔 digwydd i fi fe fydde yna atalnodau o fath gwahanol iawn yng nghanol y geiriau. Fydden i ddim yn para diwrnod yn y job. Mae ei fam yn fwy nerfus na fi drosto fe.

Oes gennych chi g芒n rydych chi鈥檔 ei chas谩u?
Oes nifer ohonyn nhw. Land of Hope and Glory yn bennaf. Mae honno鈥檔 codi o fy niddordeb i yn Oes Fictoria pan oedd hi ar ei mwyaf brochus a sarhaus.

Mae鈥檔 dda gen i fod Edward Elgar ei hunan yn cywilyddio at yr anthem imperialaidd yna. Fel alaw mae鈥檔 hyfryd ond am eiriau cableddus - Duw a鈥檔 gwaredo.

Fe fydda i鈥檔 gwrando ar rai o berfformiadau鈥檙 Proms - ond ddim y wedd yna.

Mae鈥檙 Saeson yn mynnu glynu wrth honna - dyna i gyd sy 鈥檇a nhw ar 么l o鈥檜 blydi ymherodraeth erbyn hyn!









Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy