主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bethan

Adnabod Awdur:
Bethan Gwanas


Awdur Amdani ac enillydd Gwobr Tir na n-Og


Dydd Iau, Hydref 11, 2001

Enw:
Bethan Gwanas

Beth yw eich gwaith?
Awdures a hyrwyddwr llenyddiaeth.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athrawes Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored; athrawes Saesneg yn Nigeria efo VSO; cynhyrchydd efo Radio Cymru; Dirprwy Bennaeth Glan-llyn ayyb (rhestr rhy faith i gynnwys popeth)

0 ble鹿'r ydych chi鈥檔 dod?

Brithdir ger Dolgellau ym Meirion.

Lle鈥檙 ydych chi鹿n byw yn awr?

Rhydymain, ger Dolgellau ym Meirion.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

Ew, do. Ar wahan i wersi mathemateg.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?

Blodwen Jones a'r Aderyn Prin - dilyniant i Bywyd Blodwen Jones, nofel ar gyfer dysgwyr. Mae'r cynta
wedi gwerthu'n dda, felly gofynnwyd i mi sgwennu un arall - ac mi fydd yn y siopau cyn diwedd Hydref. Mi fues i'n meddwl am stori, hel deunydd a gwneud ymchwil am ddwy flynedd, wedyn mi sgwennais y cwbl mewn tua 5-6 wythnos. Dwi wrth fy modd yn sgwennu am yr hen Blod, a does wybod, ella y gwnai un arall cyn bo hir.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Amdani!, Dyddiadur Gbara, Bywyd Blodwen Jones, Llinyn Trons. (Mae addasiad o Coping with Love ar gyfer yr arddegau a chyfrol o golofnau yr Herald ar gyfer dysgwyr yn y wasg)

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Brownie Tales, Enid Blyton.

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Wedi ei golli, ond yn chwilio am gopi - ac os oes gan un o ddarllenwyr 主播大秀 Cymru a'r Byd hanes copi i mi - cysylltwch os gwelwch yn dda!

• Pwy yw eich hoff awdur?

Cymraeg: Islwyn Ffowc Elis a Geraint V Jones.
Saesneg: Roddy Doyle, Isabelle Allende, JK Rowling & Barbara Kingsolver.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Llwyth ohonyn nhw, yn cynnwys The Poisonwood Bible gan Barbara Kingsolver a Dandelion Wine gan Ray Bradbury.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Wendy Cope, Gerallt Lloyd Owen a Gwyn Thomas.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cyfaill gan Dic Jones.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelet hyn.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Edward Scissorhands a The Shawshank Redemption.
Teledu: Roots. (wylais fwcedi)

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

Hoff gymeriad: Nathan yn Sophie's Choice gan William Styron (er ei fod o'n wallgo).
Cas gymeriad: Neb yn sefyll allan, a chymeriad ffilm oedd y Childcatcher yn Chitty Chitty Bang Bang, ond roedd Bridget Jones yn mynd ar fy nerfau i.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

Gwyn y gwel y fran ei chyw. (ar 么l bod yn athrawes)

• Pa un yw eich hoff air?

Rhadlon.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gallu canu nes bod pobl yn crio efo pleser.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

Brwdfrydig,
Prysur,
Aflonydd.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Fy mhengliniau a'r ffaith mod i'n cofio gormod.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鈥檔 ei edmygu fwyaf a pham?
Buddug, oherwydd ei bod hi'n uffarn o ddynes.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Unrhyw fordaith i ddarganfod gwlad newydd, ddiarth. Doedd merched byth yn cael mynd, a dwi'n meddwl y byddai dylanwad merch wedi gallu osgoi ambell i broblem. A ph'run bynnag, pam fod raid i ddynion gael yr hwyl i gyd?

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Pwy bynnag oedd yn gyfrifol am ddechrau lladd yr Indiaid Cochion, a gofyn iddo beidio.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Adre dros Bwlch yr Oerddrws. Amlwg pam tydi?

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Dechrau efo cawl Thai, prif gwrs Thai, a phwdin bara menyn a chawsiau Ffrengig i orffen. A gwin coch da.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Canwio m么r, cerdded mynyddoedd, mynd i'r pictiwrs a'r theatr a darllen.

• Pa un yw eich hoff liw?

Gwyrdd.

• Pa liw yw eich byd?
Enfysaidd.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

Rhoi cyflog teg i ddeg awdur rhyddiaith Cymraeg gwahanol - yn flynyddol am o leia'r can mlynedd nesaf.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Oes, Mwy (neu dim) Amdani! a dwy arall fydd ddim yn son gair am rygbi.

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Hoffwn ddiolch am y nawdd hael a gefais i dreulio pum mlynedd yn ysgrifennu'r gyfrol hon.






i ddarllen adolygiad o Pobol sy'n Cyfri

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy