Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Eryl Wyn Rowlands Adnabod Awdur:

Eryl Wyn Rowlands

Awdur Y Llew Oedd ar y Llwyfan

Dydd Iau, Chwefror 7, 2002
Enw:
Eryl Wyn Rowlands

• Beth yw eich gwaith?
Ymchwilydd a Golygydd Cyffredinol Safwe Llechwefan/Slate line sef Hanes Diwydiant Chwareli Gogledd Cymru. Darlithydd

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro a dirprwy bennaeth am dros chwarter canrif

•ˆO ble’r ydych chi¹n dod?
Penrhyd, Amlwch, Sir Fôn.

• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Llangefni

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Fel wy y ciwrat diarhebol – da mewn rhannau

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Diddordeb ysol yn Llew Llwyfo fel cymeriad unigryw yn hanes diwylliannol Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
1977 Dwy bennod yn Llyn y Fendith – Hanes y Capel Mawr Amlwch.

1982. Ar ei Ganfed-The Magic Hundred, cyfrol ddathlu canfed Primin Amaethyddol Môn.

1985. Gwr annwyl ein Prifwyliau. Cofiant i W. Matthews Williams 1885-1970

1997 For Want of Schooling - dathlu dwy ganrif hanner o addysg eglwysig yng Nghaergybi.

1998 Mirain Foreia, cyfrol ddathlu can mlynedd codi capel Moreia, Llangefni.

1999 O Lwyfan i Lwyfan. Cantorion proffesiynol a thraddodiad cerddorol Môn hyd 1913.

2000 Mastiau a Siafftiau-Masts and Shafts, agweddau ar hanes cymdeithasol Amlwch, 1793-1913.

2001 Y Llew Oedd ar y Llwyfan. Portread o Lew Llwyfo.

Nifer o erthyglau mewn gwahanol gyfnodolion.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant 1.

• A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Ambell dro.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Jack Jones.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
O Law i Law gan T. Rowland Hughes.

• Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Clychau’r Gog.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
I’w hapwyntiedig hynt y try pob gwedd,
I Ffrainc, i’r Aifft i Ganan, i hir hedd

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Gandhi gafodd yr effaith fwyaf arnaf o’i gweld am y tro cyntaf.
Porc Peis Bach

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Ddim yn ddarllenwr mawr ar ffuglen i ddweud y gwir

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
A feddo gof a fydd gaeth,
Cyfaredd cof yw hiraeth

• Pa un yw eich hoff air?
Maniana. (rhyw dro eto)

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Cyfansoddi cerddoriaeth.

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Dim nonsens
Di amynedd (ar brydiau)
Dim rhagrith (gobeithio)

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gohirio wynebu sefyllfaoedd anodd yn syth.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Martin Luther King.
Mae ei araith I have a dream o hyd yn codi gwallt fy mhen

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Agoriad Swyddogol Senedd Machynlleth a llunio Cytundeb Pennal

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
David Lloyd George.
Paham y bu iddo anghofio ei egwyddorion o adeg Rhyfel y Boar a chefnogi Rhyfel ym 1914.

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Teithio ardal plentyndod.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Eog ffres o’r Alban.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded,
Nofio,
Ccyfrifiaduron.

• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

• Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dwyieithrwydd cyflawn yn ein gwlad o ddeddfau seneddol i lawr at label tun ffa pôb.
Os yw gwledydd eraill yn gallu ei wneud pam na fynnwn ni ef?

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Ar wahân i’r llyfr ar y we; cyfrol ar gyd artistiaid llwyfan Llew Llwyfo, Ar y Platfform Pren.

• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Ciliodd yr artistiaid o lwyfan bywyd ond erys eu cysgodion.

Darllenwch yn awr am Y Llew Oedd ar y Llwyfan


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy