主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aled Holi awdur:

Aled Lewis Evans

Nofelydd a bardd

Dydd Iau, Mai16, 2002
Enw:
Aled Lewis Evans

Beth yw eich gwaith?
Byddaf yn Weinidog Bro yn Nyffryn Ceiriog a Llangollen o Haf 2002. Rhan annatod o'r gwaith fydd ysgrifennu ac agwedd greadigol at y gwaith.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlledwr radio ar Sain y Gororau 1983 - 1993; athro cynradd ac uwchradd,1987-2000.

O ble鈥檙 ydych chi鹿n dod?
Yn enedigol o Fachynlleth. Cyn mynd i Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam bum yn byw yn Y Bermo a Bae'r Penrhyn, Llandudno. Roedd yn rhaid i ni symud efo gwaith Dad yn y Swyddfa Bost.

Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Yn Wrecsam, y dref gl锚n hon yn y Gogledd Ddwyrain.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Cefais amrywiaeth o ysgolion cynradd,Machynlleth, Morfa Rhiannedd, Bermo a Bodhyfryd, a mwynhau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yn fawr iawn - yn arbennig yr agwedd 'deuluol' sy'n parhau hyd heddiw, a'r cyfle i fod mewn oper芒u roc fel Y Mab Afradlon.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Rydw i wedi bod eisiau talu teyrnged i'r gymdeithas arbennig sy'n gallu deillio mewn caffiau, fel Caffi Llyfrgell Wrecsam. Gyda phosibilrwydd o gau y Caffi i esgor ar gyntedd theatr newydd, fe grisialodd y deyrnged hon. Felly mae'r Caffi yn sumbol cryf o fywyd, a bum yn mynychu y Caffi
ers ei agoriad ym 1978.
Hefyd i adlewyrchu yr oes 么l fodernaidd, unigolyddol mae defnydd helaeth o fonologau yn y gwaith, a buasai'n braf gweld rhai yn cael eu hactio.
Mae y thema o ymlediad didostur Technoleg yn cael sylw yn y gwaith a bod pobl hefyd yn gallu troi'n beirianyddol eu natur yn y gweithle. Mae llawer o hiwmor a thafodiaith bro yn y gwaith a gobeithiaf y bydd yn boblogaidd.

Beth sy鈥檔 rhoi鈥檙 mwyaf o bleser ichi - barddoni ynteu rhyddiaith?
Byddaf yn mwynhau y ddau gyfrwng ar wahanol amgylchiadau, ac mae greddf a'r Awen yn arwain at y naill gyfrwng neu'r llall.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Chwe chyfrol o farddoniaeth - Treffin, Sibrydion, Tonnau, Sglefrfyrddio, Mendio Gondola a Llanw'n Troi. (Y ddau olaf sydd yn dal mewn print)
Cyfeirlyfr Bro Maelor, Llyfr defosiynol,Troeon. Casgliad o straeon byrion, Gai i ddarn o awyr las heddiw? Nofel am blentyndod yn y Bermo, Rhwng Dau Lanw Medi. Dau gasgliad o addasiadau Saesneg o gerddi - Wavelengths a Mixing the Colours.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Corn Pistol a Chwip, T Llew Jones.

A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?

Heb ei weld ers tro.

Pwy yw eich hoff awdur?
Willy Russell, y dramodydd o Lerpwl. Mae ei gampwaith Blood Brothers yn dal i ysbrydoli ar 么l ei weld tua 15 gwaith.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Therese Desqueyroux gan Francois Mauriac.

Pwy yw eich hoff fardd?
Mae gen i nifer, yn eu plith - Gwyn Thomas, Rhydwen Williams, Alan Llwyd, Myrddin ap Dafydd a Stewart Henderson yn y Saesneg.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Yr Oed gan I.D Hooson.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Llanwddyn yn llyn heddiw, o waith fy nhaid, Y Prifardd John Evans.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Billy Elliott ar hyn o bryd.
Teledu: Cyfresi drama gafaelgar fel Clocking Off, Talcen Caled a Tipyn o Stad.

Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriadau: gwragedd Willy Russell - Rita yn Educating Rita a'r anfarwol Shirley Valentine.
Cas gymeriadau: cymeriadau cas Dickens a Daniel Owen. e.e. Capten Trefor.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Canys gweled yr ydym yr awron trwy ddrych, mewn dameg; ond yna wyneb yn wyneb.

Pa un yw eich hoff air?
Adnabod.

Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn gerddorol - lleisiol a chyfansoddi, er mwyn troi rhai o'r cerddi yn ganeuon a'u perfformio.
Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Creadigol
Unigol
Cymdeithasol.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Un o'r pethau yw methu 芒 mynegi fy marn yn y modd yr hoffwn ei wneud bob amser - ar y pryd. Ond dwi'n gwella !

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

Unrhyw rai fel fy niweddar Fam - Iola Atkinson o Gorwen gynt. Un a oedd yn gallu cyfleu ei mwynder a'i hanwyldeb ar lwyfan y byd heb fod ofn gwneud hynny ac a oedd yn meddu ar y fath hiwmor a bwrlwm ac egni hefyd, sy'n cael ei gofio hyd heddiw.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Bod yn y gynulleidfa yn y capel bach a welodd "Oleuadau Egryn" yn 1904 rhwng y Bermo a Thalybont.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Fy nhaid - John Evans y bardd. Bu farw pan oeddwn yn bymtheg, felly, er fy mod yn ei gofio fel Taid, nid oeddwn yn ddigon hen i werthfawrogi ei ddawn lenyddol, eisteddfodol a'i bregethu.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Unrhyw lwybr yn 么l i'r Bermo ac at y m么r. Mae'r daith o Wrecsam i'r Bermo yn un ddymunol gan oedi am baned a sgwrs yn Y Bala.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta o unrhyw fath gyda digonedd o lysiau.
Pwdin o gacen gaws lemwn a cappucino i orffen.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Llenydda, teithio, mynychu'r theatr a'r sinema, cerdded, cymdeithasu, cyfarwyddo a sgriptio i gwmni drama o bobl ifanc.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Melyn - y mwyafrif o'r amser. Ond mae cysgodion hefyd yn deillio o oleuni.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Fod pawb sydd yn arddel enw Crist yn ymddwyn yn Gristnogol tuag at ei gilydd, a'u cyd-ddyn yn gyffredinol.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Hoffwn ysgrifennu llyfr doniol, a dal ati i ddatblygu y rhyddiaith yn dilyn yr ymateb calonogol i'r Caffi.

Beth fyddai鈥檙 frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
I waith yn seiliedig ar y Bermo rhywbryd eto:
"Roedden nhw'n dychwelyd i'r Ynys, er mwyn cael cyffwrdd drachefn 芒'r m么r."

o Y Caffi
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy