主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwynn ap gwilym Holi awdur:

Gwynn ap Gwilym

Bardd a nofelydd

Dydd Iau, Gorffennaf 25, 2002
Enw:
Gwynn ap Gwilym

• Beth yw eich gwaith?
Clerigwr yn yr Eglwys yng Nghymru a darlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon, Corc.

• O ble鹿鈥檙 ydych chi鹿n dod?
O Fachynlleth yn Sir Drefaldwyn.

• Lle鈥檙 ydych chi鹿n byw yn awr?
Ym Mallwyd ger Machynlleth.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.Do, yn fawr

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Gweld bedd yng Nghadeirlan
Henffordd ac arno'r arysgrif: John Trevnant, Bishop of Hereford, 1389 - 1404.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tair cyfrol o farddoniaeth; un nofel; cyfieithiad o stor茂au byrion Gwyddeleg Padraig Pearse; esboniad ar lyfr Deuteronomium a nifer fawr o lyfrau wedi eu golygu.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor y Morladron gan T. Llew Jones.

• A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?

Na fyddaf.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Thomas Hardy.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Methodistiaeth Galfinaidd Cymru (John Roberts, Caerdydd). Fe'm trodd i'r Eglwys.

• Pwy yw eich hoff fardd?
T. Gwynn Jones.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Iddewes - Elwyn Evans.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Marw i fyw mae'r haf o hyd - R. Williams Parry.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fanny and Alexander (Bergman).
Cyfresi hanes ar y teledu.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Michael Henchard yn The Mayor of Casterbridge, Thomas Hardy - dyn drwg hoffus.
Abel Huws yn Rhys Lewis, Daniel Owen - dyn da atgas.


• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Y gelyn olaf a ddil毛ir yw angau (1 Corinthiaid 15).

• Pa un yw eich hoff air?
Ffydd

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ddal tafod.

• Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Gwych
Gwael
Cymysg-oll-i-gyd

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Swildod parlysol a thymer ymfflamychol.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Yr Apostol Pedr - teyrngar, byrbwyll, plaen ei dafod, cywir.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Owain Glyndwr.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr.
"Lle ti di bod?"

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Unrhyw daith ar long neu awyren i le na bum ynddo o'r blaen.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio fin nos yng Ngardd Parador yr Alhambra yn ninas Granada, Sbaen.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen. Gwylio ffilmiau. Teithio. Cerddoriaeth glasurol.

• Pa un yw eich hoff liw?
Asur

• Pa liw yw eich byd?
Gwyn gydag ysmotiau o ddu a choch a gwyrdd.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd moto-beics oddi ar ffyrdd bach Cymru.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd

• Beth fyddai鈥檙 frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

"Blydi hel, mae'n boeth," meddai'r Pab wrth lusgo'i dau blentyn ieuengaf oddi ar yr awyren i wynebu'r dyrfa lawen ym maes awyr Islamabad. "Welais i ddim byd tebyg pan oeddwn i'n groten ym Mhen-uwch."



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy