Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bethan Phillips Holi awdur:
Bethan Phillips


Awdur a sgriptwraig
Enw:
Bethan Phillips

Beth yw eich gwaith?
Cyn-athrawes, darlithydd cyfarwyddo ffilmiau fideo, awdures a sgriptwraig (teledu a radio)

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?


O ble’r ydych chi¹n dod?
Llanbedr Pont Steffan


Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Llanbedr Pont Steffan

Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?
Mynd allan i Galiffornia i weld fy wyres Ffion am y tro cyntaf.

Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf? Dywedwch ychydig amdano.
Pity the Swagman.
Cael fy hudo gan ddyddiaduron Joseph Jenkins a’i hanes cyffrous. Stori gwr a fu’n un o bileri cymdeithas yn ardal Tregaron ond a gefnodd yn hanner cant oed ar ei deulu a’i gydnabod a dianc i Awstralia i fyw fel ‘swagman’.

Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu?

Peterwell: The history of a mansion and its infamous squire,
Dihirod Dyfed,
Rhwng Dau Fyd: Y Swagman o Geredigion,
Sarah Abel Morgan (Almanac)
.
Nifer o erthyglau ac adolygiadau yn y Western Mail, Y Faner, Country Quest, Planet.
Deunaw o sgriptiau teledu a thair ar gyfer radio.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Christmas Carol gan Charles Dickens.

A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Ambell waith.

Pwy yw eich hoff awdur?
Saesneg: Thomas Hardy
Cymraeg: Islwyn Ffowc Elis

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Wuthering Heights.

Pwy yw eich hoff fardd?
R.S. Thomas

Pa un yw eich hoff gerdd?
Cofia yn awr dy greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid...

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Fel ewyn ton a dyr ar draethell unig.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Amadeus
Cefn Gwlad.

Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Pierre Bezukhov (War and Peace)
Cas gymeriad: Iago (Othello), Capten Trefor (Enoc Huws)

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Cas gwr nas car y wlad a’i mago.

Pa un yw eich hoff air?
Tangnefedd

.Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Bod yn gerddor medrus.

Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Gofalus
Gofidus
Ccyfeillgar (gobeithio!)

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Pesimistiaeth

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Nelson Mandela.
Er iddo ddioddef yn enbyd, cadwodd y gallu i faddau i’w orthrymwyr.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Cyhoeddi argraffiad cyntaf y Beibl Cymraeg.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr.
‘I ble’r aethost ti?’

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ymweld ag Awstralia a dilyn llwybrau Joseph Jenkins.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Eog naturiol (o afon Teifi os posib) a salad.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Teithio o gwmpas Cymru ac ymweld â mannau hanesyddol
.
Pa un yw eich hoff liw?
Glas

Pa liw yw eich byd?
Du a gwyn

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i warchod y cymunedau Cymraeg.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar hyn o bryd, ond pwy a wyr...

Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

‘Mewn man unig, ar lethr serth uwchlaw afon Teifi, mae beddau’r cariadon.’

Pity
the
Swagman



Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy