主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cennard Davies Holi awdur:
Cennard Davies


Awdur llyfrau i ddysgwyr

• Enw:
Cennard Davies

• Beth yw eich gwaith?

Newydd ymddeol o fod yn ddarllenydd ym Mhrifysgol Morgannwg

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Athro ysgol

• O ble'r ydych chian dod?

Treorci, Cwm Rhondda.

• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

Treorci

• Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?

.Priodi a genedigaeth fy mhlant.

• Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.

Cwestiwn gan fyfyriwr, se;f Pa ddiarhebion sy'n dal i gael eu defnyddio ar lafar? Roeddwn i'n meddwl y byddai'n werth eu nodi, eu cynnwys mewn sgwrs ynghyd 芒 rhai dywediadau cyffredin eraill.

• Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu?

Nifer o lyfrau i ddysgwyr - Llafar a Llun; Y Geiriau Bach; Lluniau Llafar; Torri'r Garw; Sefyllfa a Sgwrs; Dros y Bont; Y Gymraeg Ddoe a Heddiw; Cyrsiau Cymraeg Catchphrase a Linguaphone.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Y Cel Du ( addasiad o Black Beauty) a Tom Sawyer.

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?

Na fyddaf.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Yn newid o gyfnod i gyfnod.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

The Great Silence gan Sean de Tr茅ine.

• Pwy yw eich hoff fardd?

Mae gen i nifer o ffefrynnau; Waldo, T H Parry-Williams, Gerallt Lloyd Owen (Cymraeg); Garcia Lorca (Sbaeneg); Iain Crichton Smith (Gaeleg)

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Mewn Dau Gae, Waldo.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

Cyfaredd cof yw hiraeth

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Have I Got News For You
Dwi ddim yn ddyn ffilmiau

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

Gormod i'w rhestru

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir
?
Gorau Cymro, Cymro oddi cartref - o ddeall ei wir ystyr.

• Pa un yw eich hoff air?

Gwnaf

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Canu offeryn cerdd yn dda.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

Rhaid ichi ofyn i'r teulu a ffrindiau!

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Tuedd i adael pethau tan y funud olaf.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

Owain Glyn Dwr - gweledigaeth, dewrder, agwedd eangfrydig at ddysg a pherthnasau rhyngwladol Cymru.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg - tasai William Morgan wedi gofyn imi gyfieithu ond un adnod!

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn
?
Owain Glyn Dwr.
Beth ddigwyddodd i ti?

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

Y daith adref dros fynydd Y Rhigos

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Cinio hamddenol mewn ty bwyta yn Ffrainc gyda physgod yn brif gwrs.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Cerdded, Garddio, Darllen, Teithio.

• Pa un yw eich hoff liw?

Glas

Pa liw yw eich byd?

Gwyn.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

Heb ateb.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Ddim ar y funud.

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

Rwy'n dal i chwilio am un!

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy