主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hen gymdeithas llethrau'r Wyddfa

Cwyno na fu arian ar gyfer cyhoeddi llyfr am hanes cymdeithas unigryw

Adolygiad:
• Pobol Tu Ucha鈥檙 Giat - Hanes hen deuluoedd Gwaun Cwm Brwynog a Chapel Hebron
gan Rol Williams. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn, Caernarfon, Pris 拢6.

Dyma'r bumed cyfrol Rol Williams.

Yma mae'n diogelu cefndir cymdeithas unigryw Cwm Brwynog a Chapel Hebron o amgylch yr Wyddfa - rhywbeth a oedd yn "rheidrwydd" ar ei ran meddai yn ei gyflwyniad.

Cawn ganddo ddarlun manwl o鈥檙 rhannau rhamantus hyn a golwg ar oes araf y teithiwr a'r ferlen fynydd cyn bo tr锚n ar gael i gludo pobl i gopa'r Wyddfa.

Er yn unigryw, doedd Capel Hebron ar y llethrau ddim yn unig gyda bron i gant yn byw yno ar ddechrau'r ganrif.

Ymestyn yn ôl chwe chanrif

Mae yma dameidiau blasus am gymdeithas yn ymestyn yn 么l bron i chwe chan mlynedd - trigolion sefydliad canoloesol y gwelodd CADW yn dda i ddiogelu yr hyn sydd ar 么l o sefydliad oedd gyda'r mwyaf yng Nghymru ac o fewn cyrraedd Castell Dolbadarn ac Oes y Tywysogion.

Ymhlith y cymeriadau difyr y mae:
• Foulk Ty Du a fedrai gario heffer ar ei gefn;
• dynes fel Catherine Roberts, Cae Newydd, doctores ddail o oes y gannwyll frwyn pan oedd adnoddau naturiol y mawndir a chorgan y gwenyn fel pe'n gwarchod cymdeithas.
• Si么n Wheldon yn priodi merch Cae Esgob, a chael gwybod am gysylltiadau Ieuan Gwyllt, Syr Wynn Wheldon a Syr Huw Wheldon a'r gymdogaeth.

Eiddo Stâd yr Wyddfa

St芒d y Faenol oedd biau Chwarel Dinorwig a'r rhan fwyaf o'r chwarter cant o dyddynnod yng Nghwm Brwynog. Ffermydd gydag enwau hunan awgrymog fel Penyceunant, Helfa Fain, Helfa Fawr, Ty Mawn a Chae'r Fran.

Hanner y ffordd drwy'r gyfrol mae map hwylus er adnabod yr union fannau ac y mae lluniau hefyd.

Mae鈥檙 gyfrol yn dilyn helyntion y tiroedd gydag Asiant y Faenol ac y mae cyfeiriad at lyfr y Parch.H.D. Hughes, tad yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos - Y Chwarel a'i Phobl.

Y diweddglo yw ocsiwn St芒d y Faenol yn 1968. Ymysg y m芒n ddaliadau yr oedd Lot No125: Substantial stone and slate building formerly Capel Hebron and ideal for a Climbing Hut or Bunk House.

Disgrifiad sy'n "dal i beri poen dirdynnol."
gan Ioan Mai Evans

Dim ond defaid a meini ar ôl

Wrth s么n am y gyfrol ar Dros fy Sbectol ar 主播大秀 Radio Cymru dywedodd John Roberts Williams:

"Pobl y llyfr oedd y gymdeithas wledig y tu hwnt i giât y mynydd sydd rhwng Llanberis a' r hen fywyd a a fu yng Ngwaun Cwm Brwynog a'r aelodau a fu yng nghapel Hebron ar lethr uchel yr Wyddfa. Cymdeithas ar dro'r hen ganrif, bron i gant ohonynt mewn rhyw ddau ddwsin o dyddynnod.

Dyma hynafiaid i Syr Wyn a Huw Wheldon, a'r Arglwydd Cledwyn. Does dim ar eu holau erbyn heddiw ond defaid ac ambell i segur faen.

Neb ar 么l ychwaith lle bu'r miloedd yn gweithio yn y chwareli islaw yn y Wynedd dlawd.

Cyfrol ddiddan sy'n dyfal ddilyn hanes llanw a thrai cymdeithas arbennig. Hanes y bywyd a'r difodiant. Hanes cilcyn sy'n rhan o'r darlun cenedlaethol a'n hanes fel cenedl. Math o gyfrol sy'n apelio yn ei bro ond yn un, ysywaeth, na chafodd grant y Cyngor Llyfrau i helpu, am yr ystyrid hi yn rhy leol.

0nd lleol ydi sylfaen hanes a da fuasai gweld y Cyngor Llyfrau yn cydnabod hynny drwy wneud cyfrol o'r fath yn fwy posibl."

 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy