主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Troi'r hawdd
yn astrus

Adolygiad o Mawl a'i Gyfeillion - cyfrol sy'n cael ei difetha gan gymhlethod ei dweud

Dydd Iau, Chwefror 15, 2000
Adolygiad gan Glyn Evans:
Mawl a鈥檌 Gyfeillion. Cyfrol 1 gan R. M. Jones. Barddas. 拢14.95.


Y mae Bobi Jones - neu R. M. Jones fel mae鈥檔 galw ei hun pan yn feirniad llenyddol yn hytrach nag yn fardd - yn disgrifio ei gyfrol ddiweddaraf fel "myfyrdod ynghylch ateb i鈥檙 cwestiwn pam llenydda o gwbl."

Traddodiad maith a chyfoethog

Y mae wedi dewis fel ei faes y traddodiad maith a chyfoethog o ganu mawl yn y Gymraeg gan godi nifer o gwestiynau digon pryfoclyd.

Y mae鈥檔 defnyddio ei destun fel ffordd o fynd i鈥檙 afael materion sydd yn sylfaenol i鈥檙 broses o greu ac yn hanfod i feirniadaeth lenyddol.

Dywed iddo gael ei "orfodi" i "geisio esbonio ym mha le yn y broses gyflawn ac ym mha ffordd y mae Cymhelliad yn ffitio a beth yw ei arwyddoc芒d yn strwythur y meddwl wrth lenydda."

Cyfrol gyntaf o ddwy yw hon yn rhoi "amlinelliad bras" o "yr adeiladu eang ac araf hwnnw" o fawl mewn barddoniaeth Gymraeg dros y canrifoedd gan gychwyn gyda鈥檙 cynfeirdd a鈥檙 gogynfeirdd.

Nid yn unig y mae mwy i ddod ond bu mwy cyn hyn gan fod y gyfrol hon yn ychwanegiad at domen o feirniadaeth lenyddol - neu "drafodaeth estynedig ynglyn 芒 gwneuthuriad llenyddiaeth ac yn sgil hynny feirniadaeth lenyddol ei hun" - gan y beirniad, bardd a llenor hynod gynhyrchiol hwn.

Mae鈥檔 drafodaeth sydd yn ymestyn yn 么l i 1974.

Mwy na dweud pethau neis

Wrth olrhain y traddodiad Canu Mawl Cymraeg y mae鈥檔 gofyn ac yn ateb y cwestiwn a yw mawl yn rhywbeth amgenach na dweud "pethau neis" am bobl a gwrthrychau.

Ei ateb yw fod canu mawl yn fwy na hynny - er nad yw鈥檔 hawdd iawn dod o hyd i osodiad mor syml a hynny rhwng ymresymu cymhleth a brawddegu cordeddog y gyfrol hon.

Fodd bynnag, dywed fod y "ffaith seml" fod yna "foliant ar waith o gwbl yn datgan fod yna rinwedd wedi鈥檌 chanfod" mewn gwrthrych.

Ond:
"Wrth archwilio peth o amlochredd a datblygiad hanesyddol y traddodiad mawl hwn yn y Gymraeg, sylwir bod yr arweddau gwahanol ar y ffenomen hon yn dra amrywiol. A dyry鈥檙 amlochredd hwnnw y cyfle i archwilio anian amryddawn Mawl mewn sawl amgylchfyd," meddai.

Moli yn rhywbeth sylfaenol

"Cyn gynted ag y cafwyd dyn cafwyd molwr," meddai mewn lle arall.

Ynglyn â phwysigrwydd mawl nid oes amheuaeth yn ei feddwl:

"Mawl yw鈥檙 cynnwys mwyaf cyffredinol - o bob pwnc a gwrthrych, o bob rhyw ddeunydd - sy鈥檔 angenrheidiol i lenyddiaeth. Dim ond oherwydd cymhelliad cadarnhaol mawl y gwneir llenyddiaeth yn bosibl," meddai.

Y mae鈥檔 wir yn "gongl-faen" yn yr ymdrech i ddiffinio beirniadaeth lenyddol ei hun.

Mewn Rhagymadrodd mae'n gwahaniaethu rhwng yr hyn y mae鈥檔 ei alw yn gyflwr cymelliadol Mawl ar y naill law ac ar y llaw arall Fawl "sy鈥檔 rhan o gyfundrefn lenddull Mawl/Dychan."

Cymhleth ac anodd

Er nad oes yna ddim byd ar glawr y llyfr i ddweud mai cyfrol wedi ei chyfyngu i ysgolheigion yn unig yw hon a鈥檌 bod yn dreth ar iechyd meddwl y gweddill ohonom ni fydd y sawl sy鈥檔 gyfarwydd a gwaith R. M. Jones yn disgwyl rhywbeth hawdd ei ddarllen a鈥檌 ddeall beth bynnag.

Nid y rhai hynny sy鈥檔 disgwyl eglurhad syml a dealladwy o unrhyw bwnc sydd yn troi ato ef am gymorth. Felly, efallai ei bod yn annheg cwyno nad yw hynny i'w gael yma.

A dydw i ddim yn meddwl mai鈥檙 rheswm am hynny yw fod y cysyniadau eu hunain yn rhai arbennig anodd eu deall. Y mae鈥檙 bai yn llwyr ar fynegiant a all fod yn affwysol o gymhleth ac aneglur ar adegau. Brawddegau trofaus - yn drwmbeli aml-gymalog o eiriau anodd a thermau anghyfarwydd - y mae angen map i ddilyn eu hymresymu trofaus.

Efallai fy mod yn ddiniwed yn credu mai un rheswm dros dalu am addysg coleg i bobl yw y bydden nhw wedyn yn dod oddi yno gyda鈥檙 gallu i oleuo tywyllwch y gweddill di-goleg ohonom. Gwneud yr hyn sy'n gymhleth inni yn eglur, y dyrys yn glir.

Fodd bynnag, gall cyfrolau fel hon ymddangos fel pe byddent wedi eu sgrifennu i鈥檙 dethol dysgedig gyda鈥檙 llwyr fwriad o鈥檔 dieithrio ni ddarllenwyr cyffredin.

Yn union fel y beirdd hynny sy鈥檔 gwneud i鈥檙 cymharol hawdd ymddangos yn anos nag yw mewn gwirionedd gan gredu mai rhywbeth sy鈥檔 cymhlethu鈥檙 syml yw barddoniaeth yn hytrach na chyfrwng sy鈥檔 troi鈥檙 cymhleth yn ddarluniau cofiadwy, hawdd eu deall, sy鈥檔 ei gwneud yn bosib inni adnabod yr anadnabyddiedig a deall yr astrus.

Gwahanol ac ecsentrig

Fodd bynnag, wedi dweud hynny, y mae yna elfennau difyr a phryfoclyd ym Mawl a鈥檌 Gyfeillion lle mae R. M. Jones yn tynnu ar ei wybodaeth eang a thrwyadl ac yn defnyddio ei grebwyll gwahanol - neu ecsentrig, hyd yn oed - i ddehongli yn wahanol wahanol bynciau llenyddol.

Pan yw yn trafod cyfnodau neu bynciau penodol y mae y gyfrol hon ar ei chryfaf a mwyaf diddorol - a dealladwy - megis pan yw鈥檔 s么n am y ffordd ddiddorol y democrateiddwyd mawl o fod yn "ddweud petha neis" am uchelwyr a phendefigion a noddwyr i ganu am y gwerinwr a鈥檙 gweithiwr.

Difyr hefyd y drafodaeth am y gwahaniaeth rhwng moli Duw a moli gwrthrychau meidrol a鈥檙 ddamcaniaeth na all moli Duw fod yn "seboni" tra gall moli鈥檙 llall fod yn yn weniaith negyddol.

Cynnal trefn arbennig

Diddorol eto y trywydd mai cynnal trefn arbennig yr oedd mawl yn y lle cyntaf o safbwynt y beirdd ond i newid ddod yn hyn o beth yn sgil amwysedd a choegni mawl yn llaw Dafydd ap Gwilym.

Bu ei ddylanwad ef yn chwyldro a ledwyd wedyn gan feirdd yr uchelwyr i gynnwys y gweddus a鈥檙 masweddus.

A beth am y syniad o fawl yn nwylo yr emynydd, William Williams Pantycelyn?

Yn sicr mae鈥檙 gyfrol yn gwneud inni sylweddoli bod mwy i ganu mawl na鈥檙 diffiniad amrwd cyntaf sydd yn dod i feddwl dyn. Yr unig drueni yw nad yw hynny鈥檔 cael ei fynegi cyn gliried ag y gellid bob amser.





 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy