Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Trysor am
nawpunt

Syniad da iawn i'r rhai sy'n chwilio am anrheg.

Adolygiad o berthynas agos i Lyfr Mawr y Plant

Dydd Iau, Chwefror 15, 2000
Adolygiad gan Elen Rhys:
• Syniad Da Iawn! Golygydd: Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. £9


Ydych chi mewn picil beth i’w roi’n anrheg i’ch nain neu’ch nith? Ydych chi am gadw’ch wncwl neu’ch wyrion yn dawel am sbel? Wel, mae gen i Syniad Da Iawn i chi - cyfrol sy’n apelio at blant o bob oed!

Do, mae Myrddin ap Dafydd, y golygydd, wedi llwyddo unwaith yn rhagor i greu rysáit blasus inni gyd:

Y Cynnwys yw:
• Llond sach o straeon byrion
• Un stori gyfres
• Tri phennill ysgafn
• Chwech o gerddi gogleisiol
• Lluniau lliwgar a chartwnau difyr

Dull:

• Cael gafael ar bum awdur profiadol, poblogaidd, o gig a gwaed i ‘sgwennu storïau, penillion a cherddi.
• Bachu tri dylunydd dawnus i roi lliw a sbeis i’r print.
• Cymysgu maint y ffont - Ffont mwy i’r plant lleiaf (neu taid sy’ wedi colli ei sbectol) a ffont lai i’r plant hynaf.

Canlyniad?

Llond bol o chwerthin ac ambell ddarn i gnoi cil drosto. Rhywbeth at ddant pawb!

Do, ges i flas ar ddarllen y gyfrol hon.
Ac, ydy, mae’n glamp o gyfrol sy’n cynnwys 195 o dudalennau i gyd - cyfrol sy’n debyg iawn o ran pryd a gwedd i Llyfr Mawr y Plant. Rhyw wyres iddi, wedi ei gwisgo yn ffasiwn heddiw.

Yn wir, mae’r pedair stori am Jaco, yr Aderyn Traed Mawr a’i ffrindiau yn perthyn yn agos o ran arddull a chymeriadau i’r hen ffefryn Wil Cwac Cwac.

Cofiwch chi, Jaco, nid Wil, yw’r un drwg y tro hwn! Mrs Chwidl Chwadl a gawn ni yma’n hytrach na Martha Plu Chwithig a chrëwyd Ceidiog y Ceiliog i gymryd lle Sioni Ceiliog Glas yn ffrind i Jaco.

Ydyn, mae Jaco a Wil yn debyg iawn i’w gilydd, a pham lai? - gyda chyffyrddiadau hyfryd o wreiddiol gan Sioned Wyn Huws, mae’r storïau yma’n siw^r o weithio hefyd! ‘Sdim pwynt efelychu syniad gwael nag oes?

I'r plant lleiaf

Ond yn ôl at weddill y cynnwys. I’r plant lleiaf (yn ogystal â Jaco) ceir pedair stori ddoniol gan Haf Llywelyn am Idwal sy’n mynnu mynd â Rosmari’r ddafad yn gwmni iddo i bob man.

Ar ben hynny, penillion ysgafn Gwyn Morgan sy’n siwr o’ch gadael mewn ffit o gigls gwirion.

A beth am y plant hynaf? Wel, stori gyfres wych mewn pum rhan gan Myrddin ap Dafydd, sef Y gog yn canu’n y gaeaf. Yma down ar draws aderyn yn dioddef gan ffliw Periw ac yn cael ei gynorthwyo drwy’r tywydd caled gan gymeriadau difyr fel Tylluan Wen, y Doctor Cwac, y Dryw Bach Barus - a hynny er gwaethaf bygythiad Tincar y Gath.

Cewch hefyd fwynhau tair stori unigol a cherddi gogleisiol.

Ie, dyma drysor o gyfrol am £9 sy’n siwr o adael plant Cymru o bob oed yn gyfoethocach!



Elen Rhys


 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy