Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tudur Dylan a John Gwilym Jones Prifardd sy'n gwrthod galw'i hun yn fardd!

Mae rhywbeth yn ymhonnus iawn, iawn, mewn dweud Dwi'n fardd," meddai Tudur Dylan
Dydd Iau, Mawrth 08, 2001
• Rhywbeth terfynol mewn cynghanedd
Mae sgrifennu cynghanedd fel gwneud jig-so - un ai mae o’n iawn neu dydy o ddim," meddai'r Prifardd Tudur Dylan Jones.

"Mae lot o bobol yn dweud pethau yn erbyn y canu caeth, yn dweud, o ie, mae’n lot rhy hawdd i sgrifennu cynghanedd oherwydd dilyn rheolau ydach chi," meddai wrth siarad â Beti George ar y rhaglen radio, Beti a'i Phobl.

"Mae yna reolau pendant i’w dilyn ac os ’dach chi’n gwneud llinell sy’n iawn yn gynganeddol - ac yn swnio’n iawn - ’dach chi’n gwbod bod hi’n iawn.

"Ond os ’dach chi’n sgrifennu darn o farddoniaeth rydd, wel, allech chi fod yn newid honna o hyd a dal ddim yn siwr a ydy hi’n iawn.

"Mae yna rywbeth terfynol mewn sgrifennu llinell o gynghanedd neu mewn sgrifennu englyn."

Geiriau cyntaf yn proestio

A oedd geiriau cynta Tudur Dylan mewn cynghanedd holodd Beti. "Oeddan," atebodd y bardd, "‘Wa wa’ - ond yn anffodus roeddan nhw’n proestio a wnaeth dad roi slap i fi am bo fi wedi proestio mor gynnar!"

Ei dad yw'r cyn archdderwydd, John Gwilym Jones, Bangor.

"Fedra i ddim meddwl pryd ddysgais i gynganeddu - rwy’n meddwl mai darllen llyfr wnes i. Cael llyfr yn anrheg. Falle bo nhw wedi gweld bod rhyw ddileit barddoni yndda i.

"Mae tadau fel arfer yn rhoi Mecano neu Subutio i fechgyn adeg Nadolig, ond roth o lyfr cynganeddion i fi.

"Dwi i erioed yn cofio fo’n eistedd lawr a dweud, rwan dyma be ydy Cynghanedd Lusg, dyma ydy Cynghanedd Draws.

I'r bookmakers am lyfr

"Pan ro’n i tua wyth oed, oedd gen i ryw uchelgais i gyhoeddi llyfr. Rhwng y ty a Chapel Pendre oedd yna ryw siop o’n i’n meddwl fuase’n handi i wneud y llyfr - Mecca Bookmakers. Dwi’n cofio mynd i’r capel ryw ddiwrnod a gofyn i ’nhad, ‘ga i fynd fewn fan’na i wneud llyfr’. Rwy’n cofio’i ateb o hyd heddiw - ‘na, maen well i ti beidio mynd i fan’na’."

Ei gadeirio gan ei dad

Cael ei gadeirio gan ei dadFel gweddill y teulu yr oedd Tudur Dylan yn eisteddfotwr o ddyddiau ifanc. Yn adroddwr a chanwr.

"Mae yna fwy o gythraul canu nag sy yna o gythraul adrodd - a rwy’n falch iawn o gael dweud - mae yna lai fyth o gythraul barddoni."

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn, 1995, yr enillodd Tudur Dylan ei Gadair Genedlaethol - gyda'i dad, fel Archdderwydd, yn ei gadeirio. Enillodd a’i ewythr, T. James Jones, y Goron yn yr un Eisteddfod.

"Fe fu’r mis cyn yr Eisteddfod honno yn fis o bwysau mawr arna i. Roedd fy nhad wedi cael gwybod ddeuddydd o fy ’mlaen i ’mod i wedi ennill.

"Fe ddaeth rhyw bobol o’r Eisteddfod a dweud wrtho, ‘mae gynnon ni newydd da i chi, mae eich brawd wedi ennill y Goron’. Roedd o wrth ei fodd, wrth gwrs, a mi fuon nhw’n trafod y peth am rhyw bum munud neu ddeg.

"Ac fel o’n nhw’n mynd allan o’r stafell - neu dyna’r fersiwn dwi wedi glywed gan fy nhad - dyma un ohonyn nhw’n dweud, ‘O, a chyda llaw, mae’ch mab wedi ennill y Gadair, hefyd’.

"Dwi’n meddwl bu raid iddo eistedd lawr am ryw ddeng munud. Roedd tipyn o bwysa arno fo, wedyn. Petai’r stori wedi mynd allan mi fuase wedi sbwylio pob peth.

Gorfod dweud celwydd

"O’dd yna ambell un wedi dod ata i yn ystod yr Eisteddfod a dweud ‘buase’n neis tase ti’n ennill y Gadair ddydd Gwener a dy wncwl wedi ennill y Goron’. A finna’n dweud yn hollol gelwyddog - ‘na ,dwi ddim wedi trïo’.

"Dwi’n meddwl mai’r unig amser fedrwch chi ddweud celwydd yn hollol ddi-flewyn ar dafod yw pan rydych chi wedi ennill y Gadair!"

Gwrthod galw'i hun yn fardd

Y mae Tudur Dylan yn berson sy’n gwrthod yn lân a galw ei hun yn fardd. "Mae yna rywbeth ymhonnus iawn, iawn, mewn dweud ‘Dwi’n fardd’.

"Mae fyny i bobol eraill ddweud os ydw i’n fardd neu os ydw i’n sgrifennu barddoniaeth o safon.

"Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen a Dic Jones - dyna’r tri rydw i wedi trïo eu hefelychu nhw.

"Mae gan Gerallt Lloyd Owen ddyfnder ym mhob peth mae e’n ddweud, mae o’n gryno, mae’r cynildeb yna yn ei waith o. Mae o’n gallu dweud mewn englyn neu gywydd byr yr union beth mae o isio’i ddweud.

"Mae Dic Jones yn gwbl wahanol. Mae rhyw ddawn arbennig yn perthyn iddo, mae o mor rhwydd. Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod hi’n rhwydd iddo fo, ond dwi’n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy hi yn ei hanes o.

"Alan Llwyd wedyn - mae rhychwant ei ganu fo yn eang iawn, iawn. Mae rhyw ddyfnder bob tro yn ei ganu fo. ’Dach chi’n mynd ati i chwilio am bethau gwahanol yn ei gerddi o a ’dych chi’n cael rhyw bethau arall bob tro ’dach chi’n mynd ’nôl at ei farddoniaeth o.

"Rydw i’n gosod y tri yna yn uchel iawn.

Bardd talcen slip . . .

"Fy nhad? Argoel na, talcen slip ydy hwnnw! Na, fe ddyle nhad fod wedi cyhoeddi llawer, llawer mwy. Mae gen i barch mawr, mawr, at ei waith o ac at ei farn o.

"Pan fydda i wedi sgrifennu englyn mae’r hen demtasiwn yna, i ffonio fe a gofyn ei farn.

"Os ydy o’n dweud dim, mae hynny’n meddwl nad ydy o’n meddwl rhyw lawer o’r englyn neu mae o eisio newid rhywbeth.

"Ond pan mae o’n chwerthin, mae hynny’n arwydd ei fod o’n meddwl bod yr englyn yn un da. Mae o’n chwerthin hyd yn oed pan fo’r englyn yn un trist!

"Fydda i ddim yn ei glywed o’n chwerthin ar y ffôn yn rhy aml."
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy