Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr Sawl blas mewn
bag losin o gyfrol


Cymysgedd o gerddi yn amrywio o'r gwladgarol i'r prudd yng nghyfrol Emrys Roberts

Dydd Iau, Mawrth 15, 2001
• Harddwch yn dechrau Cerdded gan Emrys Roberts. Barddas.

Adolygiad gan Mari George


Rhyw fag losin o gyfrol yw hon.

Sawl blas gwahanol at ddant pawb. Cymysgedd sydd yma o gerddi caeth a rhydd gyda rhai ohonynt yn y mesur gwers rydd cynganeddol.

Mae’r themau yn amrywio o’r melys, i’r chwerw a’r sur.

Cynhesrwydd bywyd teuluol

Mae Emrys Roberts yn fardd ac yn awdur adbanyddus a'i ymdriniaeth o’r Gymraeg yn dangos hynny.

Dyma fardd nad yw’n ceisio bod yn arloesol yn ei bwnc na’i fesur. Cana o’r galon - y pethau hynny sy’n ei boeni, ei blesio, ei ddiddori ei gythruddo a’i arteithio.

Cawn flas ar gynhesrwydd ei fywyd teuluol yn y cerddi hyfryd i’w wyrion ac wyresau fel yn Hapusrwydd yn ddwyflwydd oed lle ceir disgrifiad o’i wyr bach yn dechrau siarad:

Cariad o wyr siaradus, ac arian
Geiriau bach soniarus
Yr iaith fel brithyll ar frys
Yn deifio dros dy wefus.

Delweddau o fyd natur

Byd natur sy’n cynnig ei hun yn ddelweddau i’r rhan fwyaf o’r cerddi ac mae hynny’n eu gwneud yn bleser i’w darllen.

Mae nifer o gerddi tebyg sy’n amlwg wedi rhoi pleser mawr i’r bardd.

Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae Croesawu’r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i’r bardd gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus Iwerddon.
Meddai:

Ar ddydd ein mawr lawenydd
fe dalai inni gofio’r hanes
am goeden cenedl.

Delwedd y goeden

Mae’r ddelwedd estynedig o goeden yn effeithiol iawn wrth i ni weld ochr arall i’r blaguro gwanwynnol sef y pydredd a ddaw yn sgil gwenwyn yn y pren:

Eithr yng nghoeden yr aileni
ers dydd ei hanadlu’n rhydd yn yr haul
a thawel nos wyrthiol hualau’n syrthio,
pery rhyfel y pryfaid anwel i wenwyno
ei hegin hi er ei gwanwyn newydd.

Mae marc eu hangau hwy’n
drwm ar y canghennau
a heddiw ymleda’n ddolennau o ddu
ar ddeilen yr Wyddeleg.

Angerdd at wladgarwyr

Teimla’r bardd angerdd mawr tuag at gymeriadau gwladgarol fel y dengys y cerddi i Michael Collins ac Elfed Lewis.
Wrth gwrs, cryf iawn yw’r englynion i Sion Aubrey e.e

Haearn i fêr un o Fon yw sialens,
A sel dy gyfeillion,
A fflam ddyfal dy galon
Yw golau’r sêr yn glir, Sion

Ac o ddynion cadwyni yfory
Bydd arwyr i’w moli;
Yno’n eu pilth wrth enwi
Dynion dewr bydd d’enw di.

Ffraethineb yn gryfder

Cryfder y bardd yw ei ffraethineb wrth fynegi ei farn ar bwnc agos at ei galon.

Mae hyn yn cryfhau’r dweud fel yn y gerdd sy’n difrio’r Orsedd am beidio ag anrhydeddu Sion Aubrey cyn i Emrys Roberts, fu gynt yn Archdderwydd, ymddiswyddo yn 1994.

Geilw ei gydfeirdd yn ‘dwr o brifeirdd yn clochdar a brefu’.

Salwch ac iselder ysbryd

Mae ochr ddwysaf y bardd i’w weld yn ei gerddi am salwch ac iselder ysbryd fel yn Gwaeledd lle mae’n ceisio ymladd pylau o dduwch:

Cael fy sugno beunos heb obaith am gwsg, a’m gwasgu
yn nuwch tonnau afiach y twnnel
I rowlio i rywle
a llewygu o dan farn.

Daw teimladau dyfnaf dyn i’r wyneb yn Methu lle disgrifia’r bardd y rhwystredigaeth o deimlo’n fethiant llwyr oherwydd diffyg egni ac awydd ynghlwm â hiraeth am y gorffennol. Mae hon yn gerdd gref:

…mwy ysgeler, fel gwenwyn diferion
pair gwiddon, gan ddwyn lwmp i’r gwddw,
yw arswyd methu sgwennu’r un gair o werth,
mor ddi-nerth a nant ar noson loergan yng nghanol
ei dawns daer a rewyd yn stond.

Mae yma gerddi gwefreiddiol ynghanol casgliad cymysg iawn o ran naws.

Cerddi lliwgar i’w mwynhau yw’r rhan fwyaf, cerddi y galwch eu darllen drosodd a throsodd a gweld profiad newydd ynddynt bob tro.

Y gerdd a’m swynodd i fwyaf yw’r gerdd olaf, Colli, lle mae’r bardd ofn colli ei anwyliaid a’r pethau sy’n bwysig iddo:

Wyneb un yn arbennig
wyneb annwyl yr hon a wyr
mai’r un o hyd yw y geiriau:
Rwy’n dy garu.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy