主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Bardd sy'n
cusanu
trwy hances


Mae'r cerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr a'i gilydd yng nghyfrol ddiweddaraf Menna Elfyn

Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
Cusan Dyn Dall gan Menna Elfyn. Bloodaxe.

Adolygiad gan
Katie Jones

Gan ei bod hi'n bum mlynedd ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yr oedd hi'n hen bryd inni gael blasu ei danteithion eto.

Dyma ei degfed cyfrol o gerddi a'r drydedd i gynnwys cyfieithiadau Saesneg ochr yn ochr a'r cerddi gwreiddiol.

Cyfieithwyd y cerddi hyn gan bump o lenorion, Joseph P.Clancy, Gillian Clarke, Tony Conran, Elin ap Hywel a Nigel Jenkins.

Cymraeg - a Saesneg?

Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad. Nid felly y bu hi.

Mae cael y cyfieithiad yn agoriad llygad - nid i ddeall y cerddi, ond i weld cerdd o safbwynt rhywun arall.

Difyr, wedi'r cyfan, yw ystyried dehongliad rhywun arall.

Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon na茂f a thybio y gallai gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.

Robert Frost a ddwedodd, yn enwog, "Poetry is what is lost in the translation" ond y mae Menna Elfyn yn herio'r meddylfryd hwn.

Mae RS Thomas, a gyfieithodd rai o'i cherddi blaenorol, wedi cynnig barn arall ar gyfieithu barddoniaeth:

"Mae cerdd mewn cyfieithiad fel cusan drwy hances."

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

Sylwer, nid yw'r un peth yn wir am grefft y farddoniaeth.

Am be' mae hon yn s么n?

Y byd a'i bethau yw'r teitl mwyaf cywir i ddisgrifio holl them芒u Menna Elfyn gan mor eang yw ei gorwelion.

Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto鈥檔 hen-ffasiwn; neis.

Mae iaith y cerddi yn llifo'n bwrpasol ac nid yw'r geiriau, fel arfer, yn cael eu gwanhau ar 么l eu trosi.

Ond teimlaf fod cyfleoedd i drosglwyddo'r hiwmor wedi'u colli yn y cyfieithu wrth gadw'n rhy agos at y gwreiddiol.

Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd; mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld 芒 hwy a'r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.

Hawdd yw bod yn genfigennus o'r angerdd yn ei cherddi ac o'i brwdfrydedd.

Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.

Mae'n defnyddio natur ac effaith yr elfennau arnon ni i'w hysbrydoli i gyfansoddi.

Wrth ddweud "arnon ni" rwyf yn golygu pobl heddiw a phobl a fu yn yr oesoedd o'r blaen.

Efallai mai dynoliaeth yw鈥檙 gair mwyaf addas a phriodol i ddisgrifio y brif thema sy'n treiddio drwy ei gwaith.

Er enghraifft, yn y gerdd Haf yr Hanner Nef dywed,
Mor oesol a'r ysfa i godi cragen,

Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.

Mae elfennau crefyddol a gwleidyddol yn ei gwaith ond annheg fuasai gosod unrhyw label felly arni.

Mae profiadau personol a phoenus y bardd yn amlwg yn y gerdd Lladron Nos Dychymyg sy'n trafod salwch henaint.

Ym maes serch a charu y mae Menna'n rhagori fel y gwelir yn y cerddi Croen ac Asgwrn, Y Galon Goch, Ffynnon a Dim ond Camedd. Teimlir gwirionedd trawiadol yn y gerdd Troedlath Serch,

"Ac mor brin wyf o ddaearyddiaeth dy dynolrwydd.
wrth roi bys a bawd amdanat, gwn mor ddigwmpawd
yw'r galon.
Gwlad anial i'w threfedigaethau ydyw.
(A deallaf mai di-ongl yw meidroldeb: yn begwn gogledd a de, myfi yw'r newyddian sy'n croesi'r ynys i'th ddwyrain. Yna'n araf, araf gropian." )


Felly?

Oherwydd natur y gyfrol hon, mae ei hap锚l yn eang - yn wirioneddol fyd-eang. Dyna pam fo Cusan Dyn Dall yn gasgliad mor werthfawr.

Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.

Bydd cynulleidfa Cusan Dyn Dall yn amrywio o Gymry Cymraeg i ddysgwyr ac i bobl ddi-Gymraeg - sy'n fy atgoffa o eiriau Ezra Pound,

"A great age of literature is perhaps always a great age of translation."

• Ewch yn awr i Adnabod awdur
• Beth yw eich barn chi am y gyfrol hon? Ebostiwch i ddweud
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy