主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ystad y Goron Ymchwil o bwys
i bwnc dyrys


Taflu goleuni ar drefn ddyrys hen fwrdeistrefi
Oes y Tywysogion

Dydd Iau, Mawrth 22, 2001

Ystad y Goron yng Ngogledd Cymru 1282-1849. D.G.Lloyd Hughes, New Inn, Pencader.

Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfrol xxxl. Pris 拢7 a chost post.


Adolygiad Ioan Mai Evans


Er yn byw yn y de ers rhai blynyddoedd un o fechgyn Pwllheli yw鈥檙 awdur ac hefyd yn awdur clasur o lyfr ar hanes y dref honno.

Rhaid cydnabod mai yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf y cawsom haneswyr a fedrodd daflu goleuni ar ddyrys drefnyddiaeth yr hen fwrdeisdrefi yn Oes y Tywysogion - a chydio yn un o gymhlethdodau'r cyfnod mae'r yrnchwilydd yma, sef y term, "Fee farm Rents (Rhenti ffi fferm).

Dyna'r enw ar y rhenti blynyddol a dderbyniai Llywelyn Ap Gruffydd.

Y ffaith i鈥檙 term ymddangos yn hanes yr hen fwrdeisdrefi a sbardunodd y cyn was sifil i fentro i faes yrnchwil oedd yn galw am gryn ymroddiad.

Mil o flynyddoedd

Fel y cyfeiria yn y rhagair, mae i Ystad y Goron gefndir o fil o flynyddoeddt a phan gollodd Cymru ei hanibyniaeth yn 1282 aeth darnau ohoni yn rhan o'r Ystad.

Hawliodd y brenin ragor o daliadau yn ddiweddarach yn gymorthau a sawl dull nes cyrraedd yr uchafbwynt drwy gau yr Abatai yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Dull arall oedd sicrhau tiroedd rhai a fu farw heb ewyl1ys, troseddwyr, eiddo teyrnfradwriaeth fel a ddigwyddodd yn hanes Syr Rhys Ap Gruffydd a Syr John Perrot.

Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol; sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.

Arian dirwyon

Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.

Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.

Cawn wybod hefyd am y taliadau llai a gawsai'r brenin fel y Cymhorthau,Twnc, a Meis.

Afradlonedd a chostau rhyfeloedd

Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i鈥檙 mab, Henry Vlll,godi 拢1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.

Wrth drafod effeithiau Gwrthryfel Glyndwr cyfeirir at dwyll Thomas Barnelby y Siamberlen yng Nghaernarfon a gollodd ei swydd ond eto'i gyd a fu鈥檔 gwnstabl y castell hyd ei farw.

Daw鈥檙 gwendidau gweinyddol i鈥檙 golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau ym Mhwllheli a Nefyn sy鈥檔 profi sawl pwnc.

Syfrdanol hefyd yw adroddiad Syr Thomas Wyn, Glynllifon, Archwiliwr Cyfrifon Cymru wedi i'r Llywodraeth gymryd gofalaeth Ystad y Goron.

Dyledion a chamweinyddu

Wedi blynyddoedd o wynebu dyledion a chamweinyddu, meddyliwyd am y cominoedd fel moddion i ychwanegu at incwm tiroedd y goron.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif penodwyd John Griffith, Llanfair Is Gaer, Sir Gaernarfon, yn Dderbynnydd Cyllid Tiroedd dros y rhanbarth a Brenianllaeth Caer.

Ganddo cawn gyfeiriadau at Eifionydd, Dinbych, Arllechwedd Uchaf, Llanl1echid a Dwygyfylchi, M么n a Phenrhyn Llyn.

Deil yr erthygl yr un mor ddadlennol i'r diwedd pan fo D.G.Lloyd Hughes, yn datgan rhyfeddod o feddwl na fu'r derbyniadau o Gymru dros y blynyddoedd ond ychydig o filoedd pryd yr oedd incwm y brenin dri chan mlynedd yn 么l tua 拢700,000 yn flynyddol o鈥檙 post brenhinol yn unig

• Oes gennych chi sylw i'w wneud?
Ebostiwch i ddweud
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy