主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


T Llew Jones Awdur plant yn ofni am ddyfodol y Gymraeg

Sylwadau ysgytwol gan T. Llew Jones - 'mae'n waeth nawr nag yn y chwedegau'

Dydd Iau, Mai 3, 2001

Y mae un o awduron amlycaf Cymru wedi rhybuddio y gall tranc yr iaith Gymraeg fod yn agos iawn.

Mewn sylw ysgytwol dywedodd y Prifardd T. Llew Jones - sy鈥檔 cael ei gydnabod fel un o feistri canu caeth Cymru - ei fod ef yn llai calonogol ynglyn 芒 dyfodol yr iaith Gymraeg heddiw nag oedd yn y chwedegau hyd yn oed.

Yr oedd T. Llew yn un o nifer o feirdd cadeiriol a oedd yn trafod eu hawdlau yng Ngwyl yr Academi Gymreig yn Nhy Newydd ger Cricieth yn ddiweddar.

A gweld yr ochr ddu i bethau a wnaeth ef mewn sylwadau ysgytwol wrth drafod y trysor gwerthfawr sy'n perthyn i ni Gymry Cymraeg a'r perygl o'i golli ef a'r iaith ei hun.

"Dwi'n dal i fod yn besimistaidd ac fel hen ysgolfeistr dwi wedi gweld y graff yn mynd lawr," meddai.

"Rwy'n cofio cyfnod pan oedd pob plentyn yn fy ysgol i'n siarad Cymraeg. Nid yn unig hynny ond o'n nhw'n Gymry cyhenid. Dwi wedi'i weld e'n mynd lawr," meddai ar y rhaglen radio, Y Celfyddydau, ar 主播大秀 Radio Cymru.

"Rwy'n meddwl fod yr awdl yma [sef ei awdl gadeiriol yng Nglyn Ebwy, 1958, i Gaerllion-ar-Wysg lle mae鈥檙 henwr yn cynghori鈥檙 gwr ifanc i gadw鈥檔 glir o gaer y Rhufeiniaid] yn fwy perthnasol i'r sefyllfa sy 'da ni heddi (nag oedd hi adeg ei chyfansoddi yn 1958).

"Mae gyda ni sianel newydd - tipyn bach o bropaganda yw hwn nawr. Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno - rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg. Rwy'n ofni bod ei thranc hi yn ymyl nawr.

"A dwi'n teimlo hynna i'r byw - a dwi'n teimlo nad oes dim byd bellach allwn ni wneud oherwydd yn y cyfnod presennol yma mae rhywbeth mawr wedi digwydd.

"Rwy'n dweud wrthoch chi - yn y cyfnod y sgrifennwyd yr awdl yna yr oedden ni'n genedl a roedden ni'n poeni am Dryweryn, Adfer ar fin cael ei sefydlu ac yr oedd Cymdeithas yr Iaith ar waith 'da ni.

" Nawr rwy'n ei hofni hi.

"Dyw'r bobol ifanc ddim gyda ni bellach. A fel yna aeth y llanc ifanc i'r gaer ac rwy'n ofni bod ein pobol ifanc ni hefyd wedi mynd i'r gaer."

Dros ei 85 oed erbyn hyn y mae T. Llew Jones yn un o awduron mwyaf toreithiog Cymru gyda鈥檌 gyfraniad yn enfawr ym maes llenyddiaeth plant.

Cyhoeddodd dros gant o lyfrau i gyd yn nofelau, straeon, erthyglau ac yn gyfrolau barddoniaeth.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy