Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Theatr 'Parlys' ym myd drama

Ond CCC yn ateb cyhuddiad o fod yn fiwrocratiaid diweledigaeth
Dydd Iau, Ebrill 5, 2001

Yn ôl y llenor a’r dramodydd, Gareth Miles, mae sefyllfa’r theatr Gymraeg yn gwaethygu o ddydd i ddydd.

"Mae pethau’n waeth nag oedden nhw flwyddyn yn ôl," meddai.

Dywed fod Sgript Cymru yn straffaglu i wneud y gorau o gyllid truenus o wael, fod Theatr Gwynedd a Theatr Bara Caws wedi’u parlysu tra bo arian yn dal i lifo i’r "colony" Theatr Clwyd "i noddi prosiectau ystrydebol mewn theatr anghywir mewn lle anghywir".

Beio Cyngor y Celfyddydau

Ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun dywedodd ei fod yn rhoi’r bai i gyd ar Adran Ddrama Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Mae Mike Baker wedi bod yn arolygu ac yn goruwch-arolygu’r theatr Gymraeg ers pymtheng mlynedd a mwy, a mae mwy o gyfrifoldeb arno fo na neb am hyn," meddai Gareth Miles.

"Cyngor y Celfyddydau sydd wedi bod yn gofalu am y ddrama - biwrocratiaid di-weledigaeth ydyn nhw, mae arna i ofn, a dyna pam rydyn ni yn y sefyllfa yma.

"Pan ddaethon nhw a Dalier Sylw a Made In Wales i ben dywedodd Cyngor y Celfyddydau y byddai yna o leia ddeunaw o ddramau newydd yn cael eu llwyfannu.

"Tair gawson ni - dyna’i gyd. Bydd Dalier Sylw yn gwneud un ddrama Gymraeg ac un ddrama Saesneg y flwyddyn nesa - a’r rheini gyda chast bach iawn.

"Mae Mike Baker wedi bod yn gyfrifol am wneud gwaith andwyol iawn."

Cyhuddiad o ymosodiad personol

Ond yn ôl Daniel Jones, cadeirydd Pwyllgor Drama Cyngor Celfyddydau Cymru, doedd beirniadaeth Gareth Miles yn ddim amgen nag ymosodiad personol, heb lawer o sail na thystiolaeth.

"Pan gychwynnwyd y strategaeth ddrama ddiwedd y 90au doedd y Cyngor ddim wedi cael arian ychwanegol am bum mlynedd i’w dosbarthu i’r sector ddrama," meddai.

"Rhoddwyd yr holl sector, yn unigolion, yn gwmniau a Chyngor y Celfyddydau mewn cyfyng-gyngor aruthrol.

"Dyna’r sefyllfa oedd yn wynebu Cyngor y Celfyddydau yn niwedd y 90au. Dwi’n synnu bod rhywun fel Gareth Miles sy’n hyddysg yn theatr a gwleidyddiaeth Cymru ddim yn gweld mai polisïau llywodraeth a pholisïau ariannu sydd tu ôl i’r sefyllfa.

"Tua dwy flynedd yn ôl fe gawson ni gynllun newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynglyn â’r theatr Gymraeg. Un o’r rheini oedd creu pwerdy ar sail Theatr Gwynedd a Bara Caws.

'Mae arian yno'

"Dyw’r cwmniau ddim wedi eu parlysu, mae gan y ddau gwmni arian a mae ganddyn nhw arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol i ddod a maen nhw’n gwybod fod arian yna ar gyfer y flwyddyn ar ôl hynny.

"Felly mae modd iddyn nhw gynllunio ymlaen llaw ac y mae Bara Caws ar y lôn efo Pen Set gan Wil Sam - maen nhw’n gwneud gwaith ardderchog - a ’dan ni newydd weld Theatr Gwynedd yn gwneud dwy ddrama newydd gan Aled Jones Williams.

"O ran y ‘pwerdy’ fe ddaeth y cynllun o flaen y Cyngor ym mis Tachwedd dwetha ac erbyn hynny roedd dogfen y Cynulliad, Diwylliant Cytûn, wedi’i gyhoeddi ac roedd Jennie Randerson wedi’i phenodi yn Weinidog y Celfyddydau.

"Byddai gwireddu’r cynllun yna heb fynd ’nôl ac edrych ar y sylwadau sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau’r Cynulliad - wedi bod yn ffolineb llwyr.

"Roedd yn ofynnol arnon ni yn Diwylliant Cytûn adrodd yn ôl erbyn diwedd 2001 ar gyfer cynlluniau ar gyfer y ‘pwerdy’ ac mae Jennie Randerson - yn ôl yr hyn oedd ganddi i’w ddweud rai dyddiau yn ôl yn y Cynulliad - wedi ategu hynny.

"Mae’r adolygiad ar y strategaeth honno yn mynd ymlaen gan geisio tynnu mewn holl bartneriaeth y cwmnïau eraill, y cwmnïau cymunedol a’r holl drafodaeth am natur theatr gynhaliwyd yn Diwylliant Cytûn.

"Y gwahaniaeth rhwng nawr a 1997 yw fod lle i ni nawr osod cynlluniau wedi eu costio gerbron y Cynulliad iddyn nhw i’w cytuno a bydd hynny yn golygu ’chwaneg o arian i’r theatr yn yr iaith Gymaeg yng Nghymru."

Dim ond dau neu dri

Dywedodd Gwilym Owen i Jon Gower, Gohebydd Celfyddydau Ö÷²¥´óÐã Cymru, ddisgrifio achlysuron pan nad oedd ond dau neu dri wedi dod i weld dramau mewn neuaddau lleol.

Y ddadl yw fod angen meithrin traddodiad o fynd i’r theatr, neu fydd yna ddim cynulleidfaoedd.

"Mae angen, fel mae Gareth Miles yn dweud, mwy o deithio," meddai Daniel Jones. "Mwy o deithio rheolaidd o gwmpas llwyfannau Cymru er mwyn denu’r cynulleidfaoedd yn ôl a gosod yr arfer o fynd i’r theatr yn ôl ar yr agenda.

"Mae’r diffyg o ganlyniad i flynyddoedd o ddiffyg buddsoddi yn y celfyddydau gan lywodraethau.

"Mae ganddon ni Gynulliad a mae gynnon ni lywodraeth sy’n gweld gwerth hanfodol y Celfyddydau ym mywyd Cymru heddiw.

"Rydan ni wedi ceisio adeiladu Theatr Clwyd fel Theatr Genedlaethol yn yr iaith Saesneg a mae hi’n gwneud gwaith rhyfeddol.

"Fe fues i’n gweld perfformiad o Damwain a Hap ganddyn nhw - cyfieithad o waith Dario Fo yn y Stiwt yn y Coed Duon yng nghanol y Cymoedd.

"Daeth 60 o Gymry Cymraeg allan yn y glaw i weld y perfformiad hwnnw. Maen rhyfeddol.

"Ond rhaid i ni osgoi rhannu byd y theatr drwy ddweud mae gan un ochr hyn a hyn o arian a mae angen tynnu arian wrthyn nhw i fynd i’r Gymraeg."


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy