主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Gweld
sêr


Ond byddai mwy o lewyrch wrth beidio ceisio bod yn trendi
Dydd Iau, Mai 10, 2001

Rhyddhad? Casgliad o straeon byrion gan Marlis Jones. Gwasg Pantycelyn.

Adolygiad gan y Dr Non Indeg Evans


Maen nhw'n dweud mai'r stori fer yw seren wib llenyddiaeth.

Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael ei 么l arnaf.

Wedi darllen y gyfrol hon o ddeuddeg stori fer gan Marlis Jones, b没m yn ystyried a roddwyd i mi unrhyw brofiadau a adawodd argraff arnaf; a gynhyrfwyd ynof unrhyw deimladau neu emosiynau a fydd yn aros gyda mi.

Them芒u oesol sydd i'r straeon.

Digon celfydd

Trafodir pynciau megis unigrwydd, y berthynas rhwng pobl, dyhead unigolyn i gael ei dderbyn, cuddio teimladau a dylanwad y gorffennol ar y presennol.

Mae ymdriniaeth yr awdures o'r pynciau hyn yn ddigon celfydd.

Llwydda i bortreadu sawl cymeriad, sydd yn ferched gan amlaf, mewn modd sensitif.

Gallwn gydymdeimlo 芒 Catrin a aeth ar wyliau tramor gyda'i thad a Michelle, ei bartner, yn y stori Gwyliau yn Sbaen.

Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.

Byw yn alltud

Cymeriad arall a ddewisodd fyw yn unig ac alltud yw'r cymeriad yn y stori Yn 么l i Lansant.

Mae'r stori hon yn ennyn ein chwilfrydedd o'r dechrau, ond nid wyf yn credu mai bwriad yr awdures oedd gwneud i rywun chwerthin yn niweddglo'r stori hon, fel y gwnes i. Nid wyf am ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd ond, yn sicr, roedd yn annisgwyl ac yn dipyn o sioc.

Ond efallai nad oedd y stori yn ei chyfanrwydd yn taro deuddeg yn llawn.

A dweud y gwir, ceir sawl awgrym neu sefyllfa yn y gyfrol a allai godi aeliau darllenydd - merch barchus yn cael ei llofruddio gan ddyn nad oedd yn llawn llathen, ac yntau yn wrthrych camdriniaeth rywiol ei hun; dwy fenyw sy'n troi at ei gilydd am gysur corfforol; gwraig sy'n llofruddio'i gwr gormesol; dau wr priod sy'n talu am ffafrau rhywiol tra maent ar wyliau.

Ceisio bod yn gyfoes

Er bod digon o botensial yn y sefyllfaoedd hyn i greu straeon byrion cofiadwy, nid wyf o'r farn fod yr awdures yn gartrefol iawn yn ymdrin 芒'r math yma o bynciau gan nad oes ganddi brofiad ohonynt, a chaf yr argraff ei bod yn eu defnyddio er mwyn ceisio bod yn gyfoes.

Mwy llwyddiannus yw'r straeon symlach sy'n ymwneud ag emosiynau sy'n berthnasol i bawb ohonom. Mae Aduniad yn stori am wraig a ddychwelodd i'w hen gynefin yn dilyn ysgariad.

Dod i ddeall fod pobl yn newid gyda threigl amser a wnawn trwy gyfrwng y ddau gymeriad yn y stori, Gwen a Jane Clecs.

Dysgwn am y natur ddynol mewn straeon eraill hefyd. Mae Elin yn ymweld 芒 chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad 芒 chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol ac yn llawn bywyd, mor wag. Felly oedd llygaid yr hen wraig yma o'i blaen.'

Wynebu'r dyfodol

Mwynheais hefyd y stori gyntaf yn y casgliad, Dacw alarch ar y llyn, lle鈥檙 oedd mam a merch mewn cyfyng-gyngor wrth benderfynu wynebu'r dyfodol.

Mae'r fam yn amddiffynnol o'i merch, ac ofn gadael iddi fynd, tra mae'r ferch yn ddall i anghenion y fam. Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Ymddengys bod byd natur, ac adar yn arbennig yn bwysig i'r awdures. Ymysg ei disgrifiadau synhwyrus ceir sawl cyfeiriad at adar, ac mae gwylio adar yn ddiddordeb gan fwy nag un o'i chymeriadau.

Llwydda i gyfleu llonyddwch a bodlonrwydd cymeriadau wrth iddynt werthfawrogi byd natur.

Ni allwn beidio 芒 theimlo y byddai'r straeon wedi bod yn fwy llwyddiannus pe bai'r awdures wedi tynnu rhagor o'i phrofiadau ei hun wrth ysgrifennu ac wedi osgoi mynd ar drywydd mwy 'trendi'.

Wedi dweud hyn mae Rhyddhad? yn gyfrol a fyddai'n apelio at nifer o ddarllenwyr Cymru.

Gall yr awdures ysgrifennu'n gelfydd, creu rhai cymeriadau cofiadwy a llwydda i gadw diddordeb y gynulleidfa gydag amryw o droadau diddorol yng nghynffon y straeon.

Ond yn bersonol, rwy'n chwilio am fwy na hynny mewn llenyddiaeth. Rwy'n chwilio am 么l y seren wib, ymhell wedi iddi ddiflannu o'm bywyd.





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy