Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y geiriadur Cynaeafu
idiomau


Geiriadur buddiol gan ddysgwr i ddysgwyr

Dydd Iau, Mai 24, 2001

• Geiriadur Idiomau - A Dictionary of Welsh and English Idiomatic Phrases. Alun Rhys Cownie a Wyn G. Roberts. Gwasg Prifysgol Cymru.


Sylwadau Glyn Evans.

Er ei fod yn ymddangos yn gryn gaffaeliad siomedig, ar adegau, yw y Geiriadur Idiomau o safbwynt y rhai sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Ond nid oes amheuaeth y bydd o gryn werth i ddysgwyr o bob gradd.

Mae’n cynnwys 12,000 o ymadroddion idiomatig Cymraeg a Saesneg gyda’r geiriau ‘idiomatic phrase’ yn golygu ymadrodd "y mae angen rhywbeth mwy na chyfieithu’r geiriau unigol er mwyn ei drosi’n effeithiol a chywir i iaith arall."

Yn ddarlithydd prifysgol cyn iddo ymddeol y mae un o’r awduron, Alun Rhys Cownie o Gaerdydd, yn ddysgwr ac yn awr yn byw ym Mhwllheli lle dysgodd Gymraeg.

Bu’r awdur arall, Wyn G. Roberts, sydd hefyd yn byw ym Mhwllheli, yn brifathro ysgol gynradd cyn ymddeol.

Gan y byddwn i yn debycach o ddefnyddio’r ochr Saesneg-Cymraeg o’r Geiriadur trwy edrych ar honno y profais i o

Ymhen dim yr oedd gennyf dair colofn o wahanol fathau o ymateb:
Un golofn yn cynnwys ymadroddion yr oeddwn yn gwbl hapus a’r ffordd y cawsant eu trin; colofn arall o driniaeth dderbyniol ond y gellid fod wedi ychwanegu ati a thrydedd colofn gydag ymadroddion yr oeddwn yn anghydweld a’r driniaeth ohonynt.

Er enghraifft am at her discretion ystyriwn fod fel mae hi’n gweld orau yn gwbl dderbyniol ac yr oeddwn wrth fy modd i’r geiriadurwyr ddod o hyd i top y tebot am best of the bunch a bwrw heli i’r môr ac iro blonegen am carry coals to Newcastle.

Y mae berwi hefyd yn gweithio’n dda fel trosiad o to crawl with ( fel ag yn berwi o chwain) ac nid oes eisiau gwell na does dim llawer o Gymraeg rhyngddyn nhw am they’ve fallen out.

Mae taclau gwraig weddw yn benigamp am worn out tools fel ag y mae chwys plismon am rywbeth prin iawn er y gellid fod wedi ychwanegu mor brin â chachu ceffyl pren ato.

Am all along the line cynigir drwy’r amser ac ar hyd y beit ond nid rownd y bedlan(m) am rhyw reswm.

Taw pia hi sy’n cael ei gynnig am best not to mention it er y gellid fod wedi ychwanegu calla dawo.

Am she has a cold coming on y mae hel annwyd yn fwy cyfarwydd na magu annwyd i rai ohonom.

Am to be down in the dumps yr awgrym yw bod yn y felan er bod dan y felan neu mae’r felan arno yn fwy cyfarwydd - a sut y gallwyd hepgor bod a’i ben yn ei blu fel trosiad i hyn ac i down in the mouth wn i ddim.

Am to swear like a trooper cawn, yn gwbl gymeradwy, rhegi fel cath, paun, melin, tincer a cwrcyn ond nid rhegi fel llongwr na nafi.

Am to be angry with her dydi bod yn flin efo hi ddim yn cael ei gynnig a dydi digio wrth rywun ddim yr un peth o gwbwl.

Gellid fod wedi ychwanegu cymryd pum munud/mi gawn ni bum munud at y trosiadau eraill gyferbyn a take a breather hefyd. Mae’r hen bum munud yn sefydliad ynddo’i hun!

Ac at mynd a’ch croen ac eich blingo gyferbyn â to take everything you’ve got gellid ychwanegu y trawiadol - mynd a’r llefrith/llaeth o’ch te.

Weithiau mae camgymeriad yn digwydd. Er enghraifft dydi she is all talk ddim yr un peth hen geg ydi hi neu mae hi’n geg i gyd fel yr awgrymir yma.

Yn sicr dydi tynnu’n groes a be at cross purposes ddim yr un peth.

Yr un modd nid yr un peth yw tafod dew a to speak with a lisp.

Melltith y rhan fwyaf o eiriaduron yw y gellir wrth fynd trwyddyn nhw weld bylchau ac weithiau gall hynny ein dallu i’w rhinweddau.
Fyddwn i ddim am i hynny ddigwydd gyda’r Geiriadur Idiomau gan y bydd yn gaffaeliad arbennig i ddysgwyr a fydd yn ei ddefnyddio yn llusern i’w goleuo am ddywediadau dieithr.

Gweler hefyd


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy