主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Llyfrau digidol a llyfrau yn ôl y galw

Ymchwil newydd i ddyfodol llyfrau Cymraeg


Dydd Iau, Gorffennaf 5, 2001

Arbenigwyr o Loegr
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi cwmni o Lundain - Rights Com - i ymchwilio i bosibiliadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i hybu twf a datblygiad y farchnad lyfrau Cymraeg.

Bydd y cwmni鈥檔 gweithio ar ddau brosiect, y naill yn ymwneud 芒 marchnata a鈥檙 llall yn edrych ar fanteision posib cyhoeddi digidol yn y Gymraeg.

Ond bydd yn rhaid i'r cwmni wrth help arbenigwr o Gymro i fedru gwneud ei waith ac ar raglen Wythnos Gwilym Owen ar 主播大秀 Radio Cymru ddydd Llun holwyd pam y bu'n rhaid mynd at gwmni o'r tu allan i Gymru yn y lle cyntaf.

Eglurodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, y bydd y cwmni hwn yn gweithio gyda鈥檙 economegydd Dr Roy Thomas, gynt o Ysgol Fusnes Caerdydd, i archwilio鈥檙 ddau faes hwn.

Dim gwybodaeth am Gymru

"Mae gan y cwmni arbenigedd ym myd cyhoeddi rhyngwladol. Maen nhw hefyd yn arbenigwyr ar dechnoleg newydd. Maen nhw鈥檔 dod a dau faes eithriadol bwysig at ei gilydd," meddai.

"Roedden nhw鈥檔 cyfaddef nad oedd ganddyn nhw ddim gwybodaeth arbenigol o鈥檙 sefyllfa yng Nghymru.

"Ond yn Roy Thomas mae gennych chi rywun sy鈥檔 economegydd ac sydd hefyd wedi gwneud cryn dipyn o waith ar agweddau o鈥檙 byd cyhoeddi. Mae鈥檔 gyfuniad cryf iawn yn ein barn ni."

Arian gan y Cynulliad

Eglurodd fod arian - arian ychwanegol - tuag at y cynllun wedi dod oddi wrth Bwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad.

"Yr hyn ydyn ni eisiau ei gael o hyn yw darn o ymchwil hollol ymarferol fydd yn rhoi arweiniad clir i鈥檙 fasnach ynglyn 芒 phosibiliadau i鈥檙 cyfeiriad yma. A rydan ni鈥檔 bwriadu rhannu鈥檙 wybodaeth yma efo pawb.

"Mae gweithdai eisoes wedi cael eu cynnal, un yn y de a鈥檙 llall yn y gogledd. ac mae鈥檙 cwmni wedi holi cynrychiolwyr y fasnach am y sefyllfa yng Nghymru a rhwng y cyfnewid gwybodaeth yma a鈥檜 profiad nhw 鈥檇an ni鈥檔 gobeithio y bydd ganddyn nhw argymhellion clir a phendant fel y medrwn ni symud pethau ymlaen.

Argraffu-ar-gais

"O safbwynt cyhoeddi digidol mae鈥檙 dechnoleg yn bod a 鈥檇oes dim pwynt rhoi ein pennau ni yn y tywod ac anwybyddu popeth sy鈥檔 digwydd. Rhaid inni edrych ar y posibiliadau.

"Ar un ochr fan hyn mae gennych chi yr hyn a elwir yn argraffu-ar-gais.

"Mae hynna鈥檔 ddiddorol i ni yng Nghymru e.e. meddyliwch chi am lyfrau sydd allan o brint - fel rhai o鈥檔 clasurol ni. Mae galw amdanyn nhw ond dim digon o alw i gyfiawnhau ailargraffu 500 copi.

"Ond drwy ddulliau digidol mae modd cadw鈥檙 testun yn ddigidol a chynhyrchu cop茂au yn 么l y gofyn - un copi os mai un copi sy eisio.

"Mae hynny鈥檔 ddiddorol i ni yng Nghymru.

Llyfrau electroneg

"Dyna un pegwn. A鈥檙 pegwn eitha arall yw鈥檙 llyfr electronig ei hun.

"Hwyrach ein bod ni鈥檔 edrych tua鈥檙 dyfodol ond eto dydan ni ddim. Oherwydd mae hwn hefyd yn bod ac mae eisio inni weld be sy gan hwn i鈥檞 gynnig i ni."

Er i鈥檙 Dr Roy Thomas ddweud ei bod hi鈥檔 bosib fod pethau pwysicach o safbwynt cyhoeddi Cymraeg ychwanegodd na ellir anwybyddu鈥檙 maes hwn.

"Mae rhyw 25 y cant o鈥檙 boblogaeth yn gallu mynd i mewn i鈥檙 w锚 ac mae hynna鈥檔 tyfu o fis i fis," meddai.

'Ni ellir anwybyddu datblygiadau'

"O bosib nid yw鈥檙 mwyafrif o ddarllenwyr Cymraeg yn manteisio ar y dulliau hyn ond fedrwch chi ddim anwybyddu鈥檙 datblygiadau.

"Cyn belled ag y mae dulliau cyfrifiadurol yn y cwestiwn mae鈥檔 rhaid dod o hyd i ffyrdd nid yn unig sy鈥檔 mynd i arbed costau i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr ond i鈥檞 galluogi nhw i ddod o hyd i ddarllenwyr i gynyddu鈥檙 farchnad.

"Maen bwysig ein bod ni o leiaf yn archwilio鈥檙 posibiliadau yma.

"Mae amharodrwydd ymysg pobol nid yn unig i fabwysiadu鈥檙 posibiliadau hyn ond i鈥檞 hystyried. Os bydd hynny鈥檔 para bydd cyfleon yn cael eu colli."









Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy