Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Draw draw
dros y don
. . .

Cafodd awdur o Gymro weld sut beth yw bywyd ar ynys sydd ar fin diflannu oddi ar wyneb y cread

Dydd Iau, Gorffennaf 26, 2001

• An Island Called Smith gan Jon Gower.
Gomer £7.95.
Pedair seren
Adolygiad Glyn Evans.

Gweld adroddiad byr yn y Times arweiniodd y Cymro, Jon Gower, flynyddoedd yn ddiweddarach, at ynys sydd ar fin diflannu oddi ar wyneb y cread.

Ac o’r ymweliad hwnnw a Smith Island ym Mae Chesapeake rhwng Maryland a Virginia yn yr Unol Daleithiau y deilliodd y llyfr hynod ddiddorol, An Island Called Smith lle mae Jon yn sôn am yr ynys a’i phobl.

Bod yn wahanol

Tebyg na allwch chi ond bod yn wahanol ac yn hynod o fyw ar ynys - yn enwedig os yw’r ynys honno yn prysur ddiflannu.

"Y mae Ynys Smith yn cael ei bwyta fesul saith troedfedd y flwyddyn. Nid yn unig y mae’r môr yn codi i hawlio’r tir ond y mae’r tir hefyd yn suddo - dim ond y pumed rhan o fodfedd y flwyddyn ond . . . ‘mae hynny ugain modfedd bob can mlynedd’ …," meddai Jon Gower.

Jon GowerMae’n gyflwr rhyfeddol sy’n cael ei grynhoi yn y frawddeg hon:

"Y mae Ynys Smith yn gynefin cyfoethog i ddyn, yn lle wedi ei ddal mewn amser, ie, ond hefyd yn lle heb ddyfodol."

Ond hyd yn oed dan amgylchiadau felly y mae babis yn cael eu geni ac yn eu swn hwy y mae Jon Gower yn gweld gobaith.

Ond nid rhamantydd mohono sy'n ddall i’r hyn a fydd yn cael ei golli.

". . . yr hyn a fydd yn cael ei golli yw man lle y mae traddodiad yn angor; lle mae i iaith lewyrch mor llachar fel eich bod eisiau dal rhai geiriau i’r golau i’w gweld nhw’n pefrio," meddai.

Ac yr ydych yn meddwl mai dim ond Cymro, a Chymro Cymraeg ar ben hynny, a allai gydgordio mor deimladwy a'r lle.

Y cyswllt Cymreig

Yn amlwg y mae gan Jon Gower ddiddordeb yn yr elfennau Cymreig yn hanes yr ynys ryfeddol hon a dyfodiad a mynediad ei phobl dros y cenedlaethau.

"Mae’r fynwent yn Ewell mor llawn o Evansiaid y gallai fod yn fynwent breifat," meddai

"Yr oedd rhwng deuddeg a phymtheg Evans yn dod i Jamestown rhwng 1607 a 1630 ac y mae gen i restr o’r cychod y daethon nhw ynddyn nhw. Gallaf olrhain y teulu Evans yn ôl at John Evans a anwyd yn 1660 a phrynu tir yma . . ."

Yr oedd ac y mae yn gymdeithas glos a Jon yn dyfynnu un o’r ynyswyr yn sôn am bobl yn priodi eu cefndryd a’u cyfnitherod.

Ond y mae yma hefyd ddarlun - cyfarwydd i ni - o fudo a phobl ifainc yn gadael a throi cefn ar hen arferion gwaith eu tadau.

Yn wyneb hyn oll y mae cyfrol Jon Gower nid yn unig yn ddarllen difyr ond yn ddogfen gymdeithasol bwysig gyda’i sgyrsiau a’r trigolion a’u disgrifiadau o’u ffordd o fyw yn cael eu cofnodi'n fanwl.

Y mae yn drueni, fodd bynnag, na fyddai wedi bod yn bosibl cynnwys mwy o luniau na'r rhai hudolus sydd ar y clawr a'r siaced lwch.

Byddai map hefyd wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn dangos union leoliad y fro dirion ond garw hon draw dros y don.

Ffordd o fyw

Pan fydd yr ynys yn diflannu bydd ffordd o fyw a chymdeithas unigryw sydd wedi bodoli ar gynhaeaf y môr yn diflannu.

Ac yr oedd yn gymdeithas wahanol fel y gwelodd ac y gwerthfawrogodd Jon Gower.

"Y mae Ynys Smith wedi gwrthsefyll newid ac y mae yn rhyw fath o gaer; yn dir nawf corslyd sydd sawl hyd braich o’r gwallgofdy a elwir yn ugeinfed ganrif," meddai.

Yn gymaint felly fel ein bod yn cael cip diolch iddo ef "ar sut y gallai pethau fod wedi bod pe na byddai duw Cyfalafiaeth mewn grym a phe na byddai trwst a chyflymdra trachwant lloerig wedi ennill y dydd ar y tir mawr."

Mae Jon Gower yn llawn sylweddoli pa mor freintiedig fu ef yn cael bod yn llygad-dyst i ddirwyn edafedd y gymdeithas hon ac fe ddylem ninnau fod yn ddiolchgar iddo rannu ei brofiad mor rhugl â chyda chymaint arabedd gyda ni.

• yn awr i Holi Awdur


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy