主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Agor y Ffenestri
Darlunio hen ffordd o fyw

Cyfrol o atgofion gan Gymry'r Wladfa

Dydd Iau, Awst 2, 2001

Agor y Ffenestri
Cyfrol o lenyddiaeth y Wladfa er y flwyddyn 1975.
Golygwyd gan Cathrin williams.
Cymdeithas Cymru-Ariannin. 拢6.50.

Pedair Seren
Adolygiad gan Glyn Evans

"Pan oeddwn i ym Mhatagonia dro'n 么l yr ateb yr oeddwn i'n ei gael yn amlach na pheidio wrth geisio cymell Cymry i sgrifennu oedd, "Fedrwn ni ddim sgwennu" gyda rhai yn ychwanegu nad oedd eu Cymraeg ddigon da.

Fodd bynnag, pan fyddai'r rhain yn ildio i bersw芒d nid yn unig yr oedd eu Cymraeg yn "ddigon da" ond yr oedd ganddyn nhw arddull naturiol a lifai'n braf dros y ddalen.

O ran cynnwys y duedd oedd i hel atgofion. Wn i ddim pam oedd hynny yn fy synnu a hwythau yn rhan o gymuned oedd yn ceisio dal gafael ar ei gwreiddiau a hanes eu gorffennol yn un mor gyfoethog.

Atgofion gwefreiddiol
Cefais straeon ac atgofion gwefreiddiol gan rai fel Esther a Gwladys ac Aira yn Esquel a Gweneira , Moelona , Eurgain, Owen Tydur a sawl un arall yn y Dyffryn - ac yr ydw i wrth fy modd gweld enwau rhai ohonyn nhw yn awr wrth ysgrifau a cherddi mewn "cyfrol o lenyddiaeth y Wladfa er y flwyddyn 1975" sydd newydd ei chyhoeddi.

Cathrin Williams - sydd wedi gwneud cymaint i asio'r berthynas newydd sy'n bodoli rhwng Patagonia a Chymru yw golygydd y gyfrol.

Fe'i cyhoeddwyd yn swyddogol gan Gymdeithas Cymru-Ariannin mewn cyfarfod yn Y Bala ar Orffennaf 28 fel rhan o ddathliadau blynyddol Gwyl y Glaniad - diwrnod y gwladfawyr i ddathlu glaniad y Cymry cyntaf hynny ar draeth lle tyfodd rhwng y m么r a'r paith dref hardd Porth Madryn maes o law.

A'r cwestiwn y mae Cathrin yn ei ofyn - ac y bydd sawl un a fydd yn troi at y gyfrol yn ei ofyn - yw beth sy'n peri i rai "na chawsant ddim manteision addysg Gymraeg na Chymreig" ac a "fagwyd ymhell iawn o swn yr iaith mewn cyfnod pan oedd wedi dechrau edwino yn y Wladfa" lenydda mewn iaith sydd yn "hynod leiafriol" yn eu hachos hwy.

Cadw Cymreictod
Mae'n ateb ei chwestiwn trwy ddweud mai llenydda y maen nhw "er mwyn cynnal traddodiad, er mwyn cadw Cymreictod ac er mwyn rhoi mynegiant i'w hunaniaeth."

Ac fel y gofynnodd Maldwyn Thomas o Wasg Pantycelyn, yr argraffwyr, yn ystod y cyfarfod yn y Bala pa resymau gwell gellid meddwl amdanynt tros sgrifennu mewn unrhyw iaith.

Tuedd i fod yn atgofus sydd yna ymhlith holl sgrifenwyr y Wladfa a pha syndod hynny a hwythau wedi gweld eu diwylliant yn edwino ac mewn peryg o ddiflannu yn llwyr mewn m么r o Sbaeneg.

Trosglwyddo hen werthoedd
Peth arall sy'n gyffredin i sgrifenwyr Cymraeg y wladfa yw eu bod yn tueddu i berthyn i'r genhedlaeth hynaf a honno â'i bryd ar drosglwyddo hen werthoedd a hen ffordd o fyw i'r cenedlaethau sy'n eu dilyn.

Prin yw'r ifanc sy'n sgrifennu ond y mae'n galonogol fod yna unwaith eto adfywiad yn y diddordeb mewn pethau Cymraeg a Chymreig ymhlith rhai o'r to ieuengach ac efallai y daw cyfrol a mwy o'u cynnyrch hwy maes o law.

O sylweddoli hyn oll nid yw'n syndod mai sgrifennu sy'n sawru o'r tir a'r bywyd amaethyddol fel ag yr oedd sydd yma gan rai sy'n cofio mai dofi a dyfrio'r tir diffaith i godi anifeiliaid a chnydau a wnaeth yr hen wladfawyr gyda rhai yn symud maes o law i borfeydd mwy gwelltog llechweddau'r Andes a hyfrydwch Cwm Hyfryd.

Cyfaredd arbennig
Darlunio hen ffordd o fyw yw llawer o'r sgrifennu felly a rhyw gyfaredd arbennig yn perthyn i hynny. Y mae Moelona Roberts de Drake mewn ysgrif ddadlennol yn trafod bob yn ddiwrnod o'r wythnos fywyd "cartrefi gwledig" y Wladfa.

Menyn yn cael ei wneud ddwywaith yr wythnos a'i gludo i'r dref gan wraig y ty i'w werthu ar y Sadwrn. Dydd Mercher, wedyn, yn ddiwrnod trwsio a gwnio.

Yr oedd godro, wrth gwrs, yn waith bob dydd ac yn cael ei wneud gan y merched yn yr awyr iach haf a gaeaf, glaw neu beidio.

Traddodiad amaethyddol
Mae Esther Evans de Hughes hefyd yn cofio'r traddodiad amaethyddol.

"Ffermio oedd pawb bron yn y cwm lle c锚s i fy magu. Ar y tir gwastad byddai gwenith yn cael ei dyfu, a diwedd haf edrychai'r caeau aeddfed fel m么r euraidd yn symud efo'r awel. Deuai'tr peiriant mawr o fferm i fferm i ddyrnu, a'r gwenith yn cael ei gludo i felin y dre, i'r lle'r oedd pawb yn dod i brynu blawd. . .

"Ar y ffermwydd ar ochrau'r mynyddoedd, roedd mwy o gadw anifeiliaid, gwartheg a defaid."

Nid yw'n syndod darllen ganddi hi mai "aros yn y cartre" yr oedd pob gwraig yr adeg honno "a pharatoi ei merched i fod yn wraig ty oedd cyfrifoldeb pob mam" ac yn ystod y tywydd oer "treuliai'r merched lawer o amser o flaen y t芒n yn gwau, cwiltio, trwsio sanau neu baratoi plu ar gyfer gwneud gobennydd."

Geiriau calonogol
Yn cael ei chydnabod yn brif lenor y Wladfa nid yw'n syndod fod yma ddetholiad helaeth o waith Irma Hughes de Jones, golygydd a pherchennog Y Drafod a bydd llawer yn falch o ddarllen ei geiriau calonogol hi ynglyn 芒 dyfydol y Gymraeg yn y Wladfa:

"Yn wir," meddai hi, "mae'r Wladfa heddiw mewn llawer gwell mantais i gadw'r Gymraeg a'r cwbwl a berthyn iddi nag erioed o'r blaen. Ers amryw flynyddoedd mae yna ddosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yn gyson ac athrawon o Gymru yn teithio yma i roi eu llafur gwirfoddol i helpu trigolion y Wladfa i gadw'r heniaith yn fyw, a rhagor na hynny i ymgydnabod 芒 bywyd Cymru, ei llenyddiaeth a'i hanes."

Sylwi ar newidiadau
Ond y mae hi hefyd yn sylwi ar newidiadau nad ydynt er gwell mewn rhai cylchoedd;

"Mae'r ffermydd a fu gynt yn gynhyrchiol erbyn hyn yn ddi-raen a llawer o'r tir yn cael ei adael i redeg yn wyllt eto'n 么l i''w stad gyntefig. Mae bron yn amhosibl cael dynion i weithio ar y tir ac er fod cwyno oherwydd diweithdra 'does na neb yn barod i fentro i'r wlad i chwilio am waith ac maen nhw'n hollol ddiamcan am y gangen yma o lafur. Gynt byddai bechgyn ifanc yn awyddus i ddysgu'r grefft o ffermio . . . ac roedd amser cynhaeaf, torri'r gwair, ei gario, codi'r tatws ac ati, heb son am y dyrnu, yn amser difyr iawn. Doedden ni ddim yn teimlo ei fod yn waith trwm o gwbl rywsut, nid fel heddiw, pan mae popeth yn pwyso'n drwm ar ysgwyddau'r ychydig sydd o hyd ar eu ffermydd. A'r rheini'n bobl mewn oed y rhan amlaf ac yn teimlo'n ddigon trist yn aml o weld yr hyn a feithrinwyd ganddynt yn dirywio o flwyddyn i flwyddyn."

Er na thynnir sylw at y peth y mae'n amlwg hefyd mai merched yw'r rhan fwyaf o awduron y gyfrol hon gyda dim ond pedwar o ddynion wedi cyfrannu a dim ond un o'r rheini wedi sgrifennu rhyddiaith - y lleill yn feirdd gan gynnwys Osian Hughes sydd yr unig un sydd yn parhau i gynganeddu yn y Wladfa gan ddilyn yn 么l troed ei dad, Morris ap Hughes.


















Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy