主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sbwriel Sbango
Tri Llyfr i'r Plant

Stori fywiog a dau lyfr syml ar ffurf rhigwm

Dydd Iau, Awst 2, 2001

Sbwriel Sbango gan Tony Bonning a Sally Hobson, Addasiad gan Gordon Jones, Gwasg Gomer, 拢4.50.
Pedair Seren
a
Rownd a rownd ein gardd ni a Ble, o ble? gan John Prater, addasiad Gordon Jones, Gwasg Gomer, 拢3.50
Dwy Seren

Adolygiad gan Anna-Marie

Mae arwr y llyfr hwn yn gymeriad go wahanol i'r arfer. Cadno bach direidus a hwyliog yw Sbango sy'n hoffi aros yn effro drwy'r nos i hela, ac yna'n cysgu'n hwyr y bore wedyn tra mae ei ffau fel digs myfyriwr (hy angen ei dwtio yn ofnadwy).

Un bore fe gaiff dipyn o fraw wrth i Yncl Em sgwennu i ddweud ei fod yn dod i aros. Fe nharodd i ei bod yn rhyfedd bod llythyrau yn dal yn boblogaidd mewn llyfrau plant tra bod plant mewn gwirionedd yn hollol gyfarwydd 芒'r ffon a'r e-bost hefyd i raddau, sef y ffyrdd mae oedolion yn cysylltu 芒'i gilydd.

Taflu sbwriel
Wedi llythyr Yncl Em mae'n rhaid i Sbango dwtio'r ffau ac mae'n taflu'r sbwriel i dwll y tu allan. Ond mae'r twll yn gartref i Moli Mochyn Daear a does dim croeso i'r sbwriel yn ystafell fyw Moli.

Yn dilyn hyn wrth gwrs mae Moli yn symud y sbwriel i dwll arall (ie,cartref anifail arall) ac mae'n mynd mewn cylchoedd cyn glanio wrth draed Yncl Em, sydd ar ei ffordd i ffau Sbango. Ac ydi, mae Yncl Em yn ei gasglu a mynd 芒 fo i'r ffau.

Stori fywiog
Mae'n stori fywiog gyda lluniau gwych ac mae yma hefyd neges fach sy'n ein hatgoffa fod gennym gyfrifoldeb dros ein hamgylchedd.

Roedd y llyfr wrth fodd y ferch, Magi, sydd ddim yn ddyflwydd eto ac mi fyddai croeso i Sbango ddod i'n ty ni unrhyw dro eto - dim ond ei fod yn glanhau ar ei 么l ynde!

Dau lyfr syml
Dau lyfr syml ar gyfer y plant lleiaf yw Rownd a rownd ein gardd ni a Ble o ble? gyda'r un cymeriad, sef Tedi Bach.

Mae'r 'stori' ar ffurf rhigwm - un frawddeg dros ddwy dudalen - ond mae hyn yn cael ei golli wrth i chi aros i edrych ar y lluniau a sgwrsio ynglyn 芒'r hyn mae Tedi yn ei wneud.

Does dim byd cyffrous iawn yn digwydd i Tedi Bach yn y llyfrau hyn.

Yn Rownd a rownd ein gardd ni - fersiwn Gymraeg o rigwm Saesneg boblogaidd - mae Tedi Bach yn chwarae efo'i fam yn yr ardd, ac yna'n dringo'r grisiau i'w wely, ac yn Ble, o ble mae'n chwarae cuddio y tu 么l i'r soffa.

Lluniau tebyg i'w gilydd
Mae'r lluniau yn fendigedig ond braidd yn debyg i'w gilydd - doedd gan Magi ddim llawer i'w ddweud wrth Tedi Bach ar 么l holl gyffro llyfr Sbango, ond efallai ei fod wedi anelu at blant 'fengach na 20 mis.

Mae'n anodd dweud - efallai fel y daw yn hyn a dysgu'r rhigymau y bydd y llyfrau yma wrth ei bodd. Tan hynny dydw i ddim yn gweld y ddau lyfr yma yn cystadlu gyda rhai o lyfrau eraill diweddar Gwasg Gomer sydd yn ein ty ni.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy