主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Dod o hyd i'r Llareggub go iawn

Dadlau mai Cei Newydd ac nid Talacharn sydd Dan y Wenallt

Dydd Iau, Awst 23, 2001

Dylan Thomas - A Farm, Two Mansions and a Bungalow gan Seren, pris 拢9.95.
Adolygiad Gwyn Griffiths
Pedair Seren

Mae pentre Talacharn wedi elwa'n sylweddol ar ei gysylltiadau gyda Dylan Thomas er mai cyfnod byr o'i fywyd a dreuliodd y bardd yn y Boat House.

Mae rhai wedi amau ers talwm mai pentref Cei Newydd ar lan m么r Ceredigion oedd yr ysbrydoliaeth i'r chwedlonol Llareggub - pentref gwyllt a gwallgof ei ddrama i leisiau, Under Milk Wood.

Mae cyfrol David N. Thomas, Dylan Thomas - A Farm, Two Mansions and a Bungalow, yn gwyntyllu'r ddadl hon yn drwyadl ac yn amlwg yn ochri gyda'r rhai hynny sy'n credu na chafodd Cei Newydd ei haeddiant yn y stori.

Anghysurus o debyg
Wrth gwrs, hwyrach nad oedd Cei Newydd am ormod o sylw. Mae David Thomas yn dangos bod llawer o gymeriadau Llareggub yn anghysurus o debyg i rai o drigolion cymdeithas hynod liwgar y Cei.

Mae'r awgrym yn glir yn y sgwrs radio, Quite Early One Morning, a luniodd yn 1944 pan oedd yn byw yng Nghei Newydd. Ynddi ceir egin yr hyn ddatblygodd yn un o ddram芒u radio pwysicaf y ganrif.

Yno, er enghraifft, yr ydym yn cyfarfod Mrs Ogmore-Pritchard am y tro cyntaf.

Dadl gadarn
Mae dadl David Thomas yn gadarn - yn enwedig i'r sawl sy'n gyfarwydd gyda phentrefi glan m么r Ceredigion. Pentrefi'n llawn hen gapteiniaid yn mwynhau blynyddoedd ymddeoliad yn hel diod ac atgofion.

Mae David Thomas hyd yn oed yn medru dweud wrthym pwy oedd Capten Cat.

Pentre gwahanol iawn oedd - ac yw - Talacharn. Gwahanol i Gei Newydd a gwahanol i Lareggub.

Pentre pysgota bychan gydag aber lleidiog llydan yw'r pentre yn Sir Gaerfyrddin. Prin y byddai cychod Talacharn yn mynd ymhellach na Bryste. Ond roedd hen gapteiniaid y Cei wedi hwylio "rownd yr Horn" - dynion o haearn mewn llongau pren. Nid i le fel Talacharn y byddai'r hen adar brith o gapteiniaid yn ymddeol gyda'u parots lliwgar.

Pentre hel cocls a physgota yw Talacharn.

Cymreictod y pentref
Dadl arall ddifyr sydd gan David Thomas yw Cymreictod Llareggub. Pentre Saesneg ei iaith yw Talacharn. Yma mae ffin y Landsker, sy'n cychwyn ym Mhenycwm i'r deau o Dy Ddewi, yn cyrraedd ei phendraw dwyreiniol. I'r deau o'r llinell hon mae'r Benfro Saesneg/Seisnig, rhan o hanes sy'n mynd yn 么l i gyfnod pan ddaeth un o frenhinoedd Lloegr a gwehyddion Fflemaidd i'w sefydlu yn y rhan yma o Gymru.

Perthyn i dde Saesneg Penfro y mae Talacharn er mai dros y ffin yn Sir Gaerfyrddin y saif. Nid y math o le y buasai Parch Eli Jenkins yn gysurus ynddo'n breuddwydio am eisteddfodau a derwyddon.

Pentre plwyfol, hefyd, gwahanol i'r pentre Cymreig a Chymraeg a adlewyrchir yn Under Milk Wood.

Roedd Cei Newydd, hyd yn oed yng nghyfnod y rhyfel pan fu Dylan Thomas yn byw ynddo, yn bentre cosmopolitan yn ogystal 芒 phentre Cymraeg. Heblaw'r cysylltiad morwrol roedd yma gysylltiadau cryf 芒 Llundain. O'r rhan yma o ganolbarth Ceredigion y daeth y gwerthwyr llaeth a pherchnogion y siopau bach - pobol "y palmant aur".

Mae David Thomas yn mynd ymhellach gan ddadlau mai ar Stryd Bethel, Cei Newydd, y seiliodd Llareggub gan gymharu'r disgrifiadau a geir yn y ddrama gyda'r tai yn y stryd honno.

Ymchwil rhyfeddol
Mae'r gwaith ymchwil i'r enwau yn Under Milk Wood yn rhyfeddol os yn ymddangos bron yn ffans茂ol.

Mae David Thomas yn egluro'r enw Heron Head yn Under Milk Wood, er enghraifft, fel cymysgedd o gyfieithiad a chwarae geiriol o Carreg Walltog ger Cei Newydd. "Hair on head".

Awgryma, hefyd, fod yr enw Milk Wood wedi ei ysbrydoli gan nifer y tai a'r ffermdai yn ardal Cilcennin a Thalsarn yn Nyffryn Aeron gydag enwau fel Llaethdy, Wernllaeth a Llaethliw.

Bu Dylan yn byw yn yr ardal yna, hefyd, ac un o'i gyfeillion mawr oedd Tom Herbert, y fet, yn Aberaeron - oedd hefyd yn hynaf ieithydd a hanesydd lleol yn ymddiddori yn nharddiad enwau lleol.

Chwarae ar eiriau
Cynigir llu o enghreifftiau o chwarae ar eiriau yn y gyfrol, gormod o lawer iddyn nhw fod yn gyd-ddigwyddiad. Hoffais yr un am Ty Pant. Gall pant olygu dent yn ogystal 芒 chwm. Dent oedd cyhoeddwyr Dylan Thomas!

Mae'n amlwg o'r gyfrol - a dydw i ddim yn meddwl bod hon yn gyfrinach o gwbl - fod Herbert y Fet yn un da am barti ac am hel merched.

Yr oedd Dylan Thomas yn ystyried ei hun yn foi go fohemaidd, wedi treulio cyfnod da yn Llundain ac yng nghylchoedd - bryd hynny - gwyllt y 主播大秀.

Agoriad llygad
Ond roedd y Cei Newydd - neu ran o ddosbarth canol y gymdeithas, o leiaf - yn agoriad llygad hyd yn oed iddo fe. Part茂on gwyllt, moesau rhywiol ffwrdd 芒 hi ac yn sicr roedd Tom Herbert wedi ei gyflwyno i rialtwch y bywyd cymdeithasol. Mae David Thomas yn tybio mai ar Herbert y Fet ei hun y seiliwyd Mr Waldo.

Gan fod Herbert yn filfeddyg, a hithau'n amser rhyfel, roedd yn medru cael hynny o betrol oedd ei angen arno a byddai Dylan yn mynd gydag e ar ei deithiau o gwmpas y ffermydd i ganol y gymdeithas wledig yng Ngheredigion.

Diddorol gweld "map" o Lareggub a luniwyd gan Dylan Thomas ac y mae David Thomas yn dangos mor debyg yw'r cynllun i Gei Newydd. Ac mor wahanol i Dalacharn.

Cymysgfa o drigolion
Mae cymeriadau'r ddrama wedi ei seilio ar gymysgfa o drigolion Talacharn a Chei Newydd.

Cythruddwyd Denzil Davies, AS Llanelli, gan yr awgrym nad Talacharn yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer Llareggub. Medrai ddweud yn union pwy oedd y gwr o Dalacharn oedd yn sail i'r cymeriad Organ Morgan.

Ond ar y cyfan, ymddengys mai ar y siopwyr a chymdeithas dosbarth canol ac Anghydffurfiol Cei Newydd y seiliwyd mwyafrif cymeriadau Under Milk Wood.

Canolbwyntiais ar ddarn bach o'r gyfrol ryfeddol ddifyr hon. Bardd arall a ymwelai'n gyson 芒 Dyffryn Aeron oedd T. S. Eliot. Yn y 30au deuai i aros bob haf i Lyn Aeron, oedd yn eiddo bryd hynny i'r cyhoeddwr Geoffrey Faber. Mae llun yn y gyfrol o Eliot yn cysgu mewn cadair yn un o stafelloedd y plasdy.

Nodir fod Eliot wedi cychwyn dysgu Cymraeg gyda chymorth y gyfrol Welsh Made Easy.

Môr a mynydd
Ychydig flynyddoedd yn 么l gwnaed m么r a mynydd o stori fod Dylan Thomas wedi mynd i Iran i sgrifennu sgript ffilm ac i sb茂o ar ran Prydain.

Mae David Thomas yn tynnu pob math o wybodaeth a chysylltiadau diddorol i mewn i'r ddadl gan gynnwys ei gysylltiadau 芒'r sb茂wr Guy Burgess a Goronwy Rees, cyn-brifathro Coleg y Brifysgol Aberystwyth, fu'n gyfaill i Burgess a Donald Maclean.

Nid fod David Thomas yn dod i gasgliad pendant ond mae yma andros o wybodaeth ddifyr.

Weithiau mae'r gyfrol yn mynd ar drywydd ymylol i stori Dylan Thomas - fel llofruddiaeth Elizabeth Thomas, un o gymdogion Dylan yn Nhalacharn, ym mis Mawrth 1953.

Mae David Thomas yn dod 芒 stori'r llofruddiaeth i mewn gan y gall fod y digwyddiad wedi effeithio'n seicolegol ar y bardd.

Stori ysgytwol
Fe geir yn llawn yn y gyfrol holl stori ysgytwol y llofruddiaeth. Ac y mae, ynddi ei hun, yn stori dda.

Heblaw bwrw goleuni newydd diddorol a phwysig, greda i, ar Gymreictod Dylan Thomas mae'r gyfrol yn cynnig darlun difyr a dadlennol o fywyd a chymdeithas pentref glan m么r yng Ngheredigion yng nghyfnod yr Ail Ryfel.

Dyma'r gyfrol fwyaf difyr a ddarllenais erioed am Dylan Thomas. Un sy'n gosod Dylan yn gadarn mewn cyd-destun Cymraeg - sydd ynddo'i hun yn chwa o awyr iach.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy