Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Triptych mewn
dwy iaith

Ysgolhaig yn dadlau na chafodd y sylw a haeddai - ond a ydi'r nofel y'n glasur?

Dydd Iau, Awst 23, 2001

Triptych, R. Gerallt Jones
Argraffiad dwyieithog gyda'r trosiad gan yr awdur
Gwasg Gomer
Adolygiad Glyn Evans
Dwy Seren


Nofel fer - cwta gan tudalen - a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1977 yw Triptych.

Mae hi'n awr newydd ei chyhoeddi mewn cyfres newydd o gyfieithiadau o 'glasuron' Cymraeg gan wasg Gomer.

Ymddangosodd ochr yn ochr â Hen Dy Ffarm gan D. J. Williams.

Er ddim yn benderfyniad dadleuol nid pawb fyddai'n disgrifio Triptych yn glasur er yn nofel drawiadol a digon arloesol yn y Gymraeg yn ei dydd.

Fodd bynnag y mae yn tanlinellu'r ffaith i mi nad yn ddifeddwl y mae defnyddio geiriau fel clasur.

Un o'r rhai nad oes dim amheuaeth yn ei feddwl mai dyma'r union air iawn i'w ddefnyddio i ddisgrifio'r gyfrol ydi Jerry Hunter o Brifysgol Caerdydd.

Cwyno na chafodd sylw
Mewn rhagair i'r argraffiad newydd o Triptych mae o'n cwyno na chafodd y nofel hon "y sylw beirniadol a haeddai" .

Bwriad ei ragair ef ydi gwneud rhywfaint o iawn am hynny.
Yn wyneb sylwadau Jerry Hunter mae'n debyg ei bod hi'n werth cofio mai blwyddyn go wan oedd 1977 yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith.

Doedd O. E. Roberts, Islwyn Ffowc Elis na Dafydd Rowlands, y beirniaid, ddim yn rhyw or ganmol hyd yn oed yr adeg honno wrth roi'r wobr i Triptych.

"Cystadleuaeth siomedig oedd hon ar y cyfan. . . Prin bod unrhyw arbenigrwydd yn arddull neb ohonynt ac ni cheisiodd neb sgrifennu'n gain. Cystadleuaeth ddilewyrch, felly," meddan nhw.

Ac wrth roi'r wobr i Triptych mi wnaethon nhw sôn am fân frychau gramadeg, "nifer o gystrawennau gwael a gormod o briod-ddulliau Saesneg yn ymwthio i'r wyneb."

Cydnabyddiaeth grintachlyd
Braidd yn grintachlyd y cydnabuwyd:
"Ond fe greodd yr awdur hwn gelfyddydwaith â Chymraeg heddiw fel y mae, a rhaid canmol ei gamp."

Ond pa fath o ganmol ydi peth felna?

Dyddiadur chwaraewr rygbi rhyngwladol, John Bowen, sydd wedi darganfod fod ganddo fo ganser, ydi'r nofel.

Pan recordiais eitem ar gyfer y rhaglen radio, Diolch yn Fawr Mr Gee, yr oedd gwahaniaeth barn rhyngddo fi a dau adolygydd arall ynglyn â'r nofel hon.

Gwnaeth gryn argraff ar Bethan Gwanas a Branwen Cennard a oedd yn hael eu canmoliaeth ond y nofel heb fy ngwir gyffwrdd i.

Ond y mae elfennau y gallwn innau eu gwerthfawrogi fel gosod ochr yn ochr â dadfeiliad y chwaraewr rygbi cydnerth, arwrol, yma ddadfeiliad y gymdeithas gefn gwlad draddodiadol y mae o'n dianc iddi hi i dreulio ei ddyddiau olaf.

Methu uniaethu na chydymdeimlo
Ond methais yn fy myw ag uniaethu â Bowen na chydymdeimlo a fo yn ei ing.

Hynny oherwydd na ddaeth yn gymeriad byw imi. Dydio ddim yn rhywun yr ydw i'n cyd-ddiodda efo fo.

Mewn gwirionedd doedd hi ddim gwahaniaeth gen i y naill ffordd neu'r llall beth fyddai ei dynged

Ma'n ddrwg gen i.

A fuo darllen Jerry Hunter ddim help o gwbwl i mi:

"Gwelir gwir gamp y nofel yn y modd y mae'n troedio gwahanol lwybrau disgyrsiol ar yr un pryd. Mae'n cyfuno realaeth sy'n frawychus o gignoeth ar adegau - a thrafodaeth alegorïaidd ar rawd Pobun.

"Mae'r ffaith nad yw'r traddodiad beirniadol wedi gwneud cyfiawnder â gwead amlhaenog y nofel yn egluro'r ffaith na chafodd hyd yn hyn ei sylw beirniadol haeddiannol," medda fo.

Stwnsh beirniadaeth lenyddol
Ond mae hynna'n swnio'r fath o stwnsh beirniadaeth lenyddol i mi sy'n iawn ar gyfer seminars colegol ond o fawr o iws i ryw greadur fath fi sy'n chwilio am lyfr sy'n gafael ac yn cyffwrdd.

Yr oedd y ddau adolygydd arall yn hoffi hefyd arddull ddiaddurn R. Gerallt Jones ond i mi cadarnhawyd yr hyn a ddywedodd beirniaid y Fedal Ryddiaith am ddiffyg arbenigrwydd mewn arddull a diffyg ymdrech i sgrifennu yn gain.

Yn wir mae'r arddull yn fy atgoffa fi ar adegau o adroddiadau swyddogol yn hytrach na gwaith llên:

"Yn yr holl bentref, lle roedd unwaith ysgol a swyddfa bost a siop-bopeth a phrysurdeb plant a phobl yn mynd o gwmpas eu gwaith, mae yna un ar hugain o dai haf, a dim ond dwsin o dai annedd sy'n gartrefi naturiol gydol y flwyddyn. Mae'r bws Crosville wedi peidio â galw yma …"
Mi fedrwch chi gael peth felna mewn adroddiad i Gyngor Sir Gwynedd.

Y ddwy iaith ochr yn ochr
Dydw i ddim yn siwr chwaith ynglyn â'r busnes yma o gyhoeddi testunau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â'i gilydd.

Mae yna rhyw ddiddordeb i'w gael o gymharu sut mae rhywbeth yn cael ei ddweud yn y naill iaith a'r llall.

Gyda mwy o ddiddordeb na'r arfer yma gan mai trosiad R. Gerallt Jones ei hun ydi'r Saesneg.

Ond rhyw hen fyrath academaidd gwirion ydi cymharu un fersiwn yn erbyn y llall fel'na - ac yn cael ei ganmol yn y rhagair.

I ddarllenydd mae cael pob yn ail ddalen yn Saesneg yn fwy o niwsans nag o werth - er rhaid imi gyfadda na fu'n dramgwydd o bwys imi ac imi gael rhai pycsiau o ddarllen y Saesneg ac wedyn ddychwelyd at y Gymraeg.

Ond mae'n debyg ei fod o werth i ddysgwyr ond dydio ddim yn rhwbath y byddwn i ishio gweld llawer ohono fo.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy