Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Oes y gaseg a'r capel

Atgofion am fywyd cefn gwlad a hen ffordd o fyw sydd wedi diflannu

Dydd Iau, Medi 6, 2001

Llawer Haf yn yr Hafod gan Tegwyn Jones. Gwasg Carreg Gwalch £4.95
Tair seren

Adolygiad: Catrin Elen Jones


‘Atgofion ffermwr o Uwchaled’ yw is-deitl y llyfr yma ac addas iawn ydy o, a dweud y gwir.

Byddai’n anodd disgrifio’r gyfrol â geiriau gwell. Anodd gwybod beth arall sydd i’w ddweud - mae’r oll yn y teitl.

Nid nofel yw hon sy’n rhoi cyfle i mi barablu ‘mlaen am is-blot dwys na chymeriadu lliwgar ond atgofion bywyd ffarm rhwng 1934 a’r 90au yn bur ac yn syml.
A dyna oll.

Iaith loyw, lân a deallus

O ran ansawdd ysgrifennu, gwelwn yn y gyfrol iaith loyw, lân a deallus ac er i’r awdur gwblhau ei addysg yn bedair ar ddeg oed, mae’n amlwg i’r cymdeithasau cynganeddu a’r eisteddfodau lu y bu iddo eu mynychu roi graen ar ei iaith sydd yn estron i nifer o’n nofelau cyfoes.

Yn wir, deallaf pam fod yr awdur yn gresynu dyfodiad y teledu achos drwy ei atgofion gwelwn fod y dyddiau pan oedd yn rhaid cymdeithasu i gael eich diddanu yn creu cymunedau clos, cynnes, a diwylliedig.

Pwysig yn hanesyddol

Gyda’r byd ffermio ‘traddodiadol’ dan rhyw fygythiad newydd o ddydd i ddydd, gallai’r gyfrol hon fod yn un bwysig o safbwynt hanesyddol.

Ynddi mae cipolwg ar fyd a fu. Byd nas cawn yn ei ôl. Byd lle mae bywyd yn syml, yn galed, ag yn llawer mwy apelgar na’n hoes hectig, oeraidd, ni.

Gallaf warantu y bydd darllen am gyfnod pan oedd y capel a’r gaseg yn ganolbwynt i fywydau’r cymunedau yn peri i unrhyw un ddyheu am ddychweliad y ffordd honno o fyw.

Hawdd neidio dalen!

Ond, i’r rhai nad ydynt yn hanesyddwyr selog - y rhai sy’n blysio cynnwrf a’r cyfle i ddadansoddi celfyddyd ysgrifenedig o fewn cyfrolau - efallai mai braidd yn ddiflas y gwelwch y llyfr hwn.

Achos er bod yr iaith yn wych, mae’n hawdd iawn cael eich hun yn neidio dalen neu ddwy pan fo’r awdur yn rhestru prisiau gwartheg a pheiriannau fferm a ’ballu.

Yn fy marn i, byddai wedi bod yn rheitiach iddo, ac yn brafiach i ninnau, ddyfynnu’r hyn a ysgrifennodd yn ei ddyddiaduron am gymeriadau lleol a ffrindiau direidus o’r ysgol yn hytrach na thraethu am grantiau amaethyddol a chyflwr y farchnad dda byw.

Gan mai cyfrol fer yw hon a bod yr iaith yn wir bleser i’w ddarllen, gresyn mawr na fu i Tegwyn Jones sôn ychydig mwy am ei deulu a’i ffrindiau.

Angen mwy o'r personol

Efallai mai sentiment merch sy’n gwneud imi ddyheu am glywed am y sbri a gafodd yn blentyn, neu’r cynnwrf o ganlyn ond credaf, yn wir, y byddai atgofion personol yn gwneud y gyfrol yn waith llenyddol o safon yn hytrach nag yn llyfr hanesyddol ei apêl yn unig.

Ond, wedi dweud hynny, saif y llyfr fel y mae ac yn hynny o beth, mae’n llyfr braf a diddorol sydd yn bleser i’w ddarllen er gwaethaf prinder dwyster personol.























Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy