Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Helynt Seimon Glyn

Cyhoeddi llythyrau yn ei gefnogi a dehongli'r hyn a ddigwyddodd

Dydd Iau, Medi 6, 2001

Llythyrau at Seimon Glyn. Golygydd Simon Brooks. Lolfa. £5.95.
Tair seren
Adolygiad Glyn Evans


Ar wahân i’r Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau mae’n debyg mai’r llyfr y dangoswyd y mwyaf o ddiddordeb ynddo ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych fis yn ôl oedd, Llythyrau at Seimon Glyn.

Nid oes angen ystrydebu ynglyn â’r ymateb a fu ers dechrau’r flwyddyn i’w sylwadau ef am effeithiau dinistriol y mewnlifiad i’n cymunedau Cymraeg.

Draenen bigog

Bu’r ymateb yn byddaru pawb - yr hyn na fu cymaint o drafod arno yw’r ateb i’r broblem.

Yn sicr, y mae’n broblem sy’n ymddangos yn ddraenen rhy bigog i Blaid Cymru afael ynddi - ond yn ddraenen digon pigog i elynion cenedlaetholdeb ei defnyddio i chwipio nes bo gwaed yn sbrencian.

Gweledigaeth golygydd y cylchgrawn Barn, Simon Brooks, oedd cyhoeddi detholiad o’r nifer o lythyrau cefnogol a dderbyniodd Seimon Glyn yn ystod y misoedd yn arwain at yr Eisteddfod.

Y mae o’i hun wedi sgrifennu cyflwyniad - neu olygyddol - i’r gyfrol inni gael gweld yn gliriach natur ac arwyddocâd yr hyn a ddigwyddodd.

Y mae cyfraniad gan Seimon Glyn ei hun hefyd, yn crisialu beth yn union mae o’n ei ddweud a lle’n union y mae’n sefyll.

Angen llyfr o'r fath

Yr oedd angen y math hwn o lyfr; achos drwy’r wasg Saesneg yn bennaf a thrwy adroddiadau ar radio a theledu y mae’r rhan fwyaf ohonom yn dod i wybod am bethau fel hyn.

Drwg adroddiadau yn y wasg ac ati yw eu bod yn hoelio sylw ar rai cymalau trawiadol neu ddadleuol yn yr hyn a ddywedwyd yn hytrach nag atgynhyrchu’r hyn a ddywedwyd yn ei gyfanrwydd.

Gan amlaf mae’r dull hwn o gofnodi yn gweithio’n iawn ond weithiau - fel ag yn achos Seimon Glyn ac yn achos Beca Brown wedyn - mae’n ddull annigonol ac anghyflawn.

Tystiolaeth - dehongliadau yn wir - dameidiog o’r fath arweiniodd at Seimon Glyn yn cael ei bardduo o fod yn hilgi er y dywedir i mi fod yr un mewnlifiad pobol yn destun trafod mwy rhesymol mewn ardaloedd eraill fel Ardal y Llynnoedd, hefyd.

Cymunedau Cymraeg ar yr agenda

Dyna’r cefndir ac yr oedd rhywun yn edrych ymlaen at weld Simon Brooks yn cael pethau i ffocws ar ein rhan - gyda’r bwriad o awgrymu, wedyn, fod ei lyfr yn cael ei drosi i’r Saesneg achos os oes rhywun y mae angen eu goleuo ar y mater hwn y rhai hynny na allant ddeall Cymraeg yw y rheini.

Gan gydnabod i Seimon Glyn ddweud pethau "nad oedd neb arall yn y mudiad cenedlaethol yn barod i’w dweud" y mae Mr Brooks yn ei ganmol am beri "i bobl benderfynu a ydyn nhw o blaid parhad ein cymunedau Cymraeg ai peidio."

Ac am iddo "roi pwnc y cymunedau Cymraeg yn ôl ar yr agenda wleidyddol" y mae’n ystyried Seimon Glyn yn "arwr".

Ddigwyddodd hynny ddim

Ond a ydi hynny wedi digwydd mewn gwirionedd? A ydi "pwnc y cymunedau Cymraeg" ar yr "agenda wleidyddol"?

Na. Yn hytrach, y cyhuddiadau gwirion yma o hiliaeth sy’n cael eu gwyntyllu nid difrifoldeb yr argyfwng go iawn o gymunedau Cymraeg yn cael eu boddi gan lif estron.

Bydd yn gamp, gyda’r wasg sydd gennym, cael yr argyfwng go iawn yna ar unrhyw agenda.

Son am gynllwyn

Yn amlwg mae rhywbeth wedi mynd o’i le yn rhywle i ganiatau i’r hyn a ddigwyddodd ddigwydd. Mae eglurhad Mr Brooks yn un syml.

"Bu Seimon Glyn yn weithiwr diflino a chydwybodol dros ei gredoau ei hun nes i gynllwyn gael ei drefnu yn ei erbyn," meddai Mr Brooks - ond fy mhwyslais i.

Ac meddai yn nes ymlaen: "Troes y cynllwyn yn erbyn Seimon Glyn yn ymdrech fawr gan sefydliad gwleidyddol Cymru i ddinistrio enw da un unigolyn er mwyn rhoi’r Cymry Cymraeg ‘yn eu lle’."

Y mae’n gyhuddiad diddorol ond yn un nad yw Mr Brooks yn llwyddo i’w brofi ac ni ddengys ar ba sail y dywed "i gynllwyn gael ei drefnu yn ei erbyn."

Do, bu camddehongli, camgyhuddo ac hyd yn oed annealltwriaeth sylfaenol ond y mae cynllwynio yn beth cwbwl wahanol ac yn awgrymu i Seimon Glyn gael ei osod i fyny yn fwriadol i ddweud yr hyn a ddywedodd gan elfennau dichellgar.

Y mae honni hynny yn annheg ag ef.

Nid yw’r gymhariaeth a’r l’affaire Dreyfus o gymorth o gwbl i’n goleuo, ychwaith, mae gen i ofn.

Nerfusrwydd a pharodrwydd

I mi, nid dangos cynllwyn y mae Achos Seimon Glyn ond amlygu, ar y naill law, nerfusrwydd gwleidyddol rhyfeddol ar ran Plaid Cymru ac ofnusrwydd sy’n ei gwneud yn blaid gyndyn i sathru cyrn neb.

Ac ar y llaw arall, parodrwydd pleidiau eraill i ddefnyddio camddehongliadau, bydded hynny yn fwriadol neu mewn annealltwriaeth, i chwipio cenedlaetholdeb a throi dwr i’w melinau eu hunain.

Mae amharodrwydd y Blaid, sy’n ymylu ar fod yn llwfrdra yng ngolwg rhai, yn gwneud iddi hi ymddangos ei bod erbyn hyn yn rhoi mwy o bwys ar fod yn etholiadwy nag ar sefyll dros egwyddorion.

Os hynny, dyna sut y cafodd y Blaid hi mor amhosib i gefnogi Seimon Glyn a pham y mae yn ddraenen iddi yn hytrach nag yn broffwyd.

Y mae’n ymddangos fel pe byddai yn prysur gael cric yn ei gwddf gwleidyddol o edrych mor barhaus dros ei hysgwydd ar bleidleisiau - rhywbeth a gadarnhawyd unwaith eto yr wythnos hon.

Oedi cyn cyhoeddi

Prawf pellach o hynny yw’r cyfaddefiad gan Simon Brooks iddo, yn dilyn trafodaeth gyda dau AC Plaid Cymru, oedi cyhoeddi y llyfr hwn "nes bod yr Etholiad Cyffredinol ar ben, rhag ofn i hyn beri niwed i ymgyrch y Blaid yn yr ardaloedd Cymraeg."

Whiw!

Am weddill y llyfr y mae o yr hyn a fyddai rhywun yn ei ddisgwyl gyda’i ddetholiad o lythyrau cefnogol ac ambell i lun (digon aneglur) o adroddiadau papur newydd Saesneg ymosodol fel yr hyn a ddywedodd Janet Street-Porter yn yr Independent on Sunday ac adroddiad Voice of Hate y Welsh Mirror sydd wedi mewnforio ei newyddiaduraeth dihafal ei hun i Gymru.

Wedi bod yn fuddiol hefyd fyddai amserlen yn olrhain y gwahanol ddigwyddiadau nid yn unig ers datganiad cyntaf Seimon Glyn ond yr hyn a arweiniodd at y datganiad hwnnw.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy