主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Profiad gwr mewn galar

Nofel fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith Eisteddfdod Genedlaethol Dinbych 2001

Dydd Iau, Medi 20, 2001

Trwy'r Tywyllwch, Elfyn Pritchard. Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2001.
Tair Seren

Adolygiad Llion Iwan


Fel dyddiadur taith y cr毛wyd y gyfrol hon yn wreiddiol. Daeth yn agos i鈥檙 brig yn Llanelli 2000, gan goncro鈥檙 copa ar ei ail gynnig yn Ninbych 2001.

Fel llawer o lyfrau buddugol y Fedal Ryddiaith yn ddiweddar, marwolaeth ydi鈥檙 testun, yma y daith o ddelio gyda marwolaeth. Ac yn wir mae鈥檔 daith a hanner, taith a鈥檓 cyflwynodd i i鈥檙 cymeriad mwyaf atgas dwi erioed wedi darllen amdano mewn ffuglen.

Anghenfil o ddyn
Mae鈥檙 awdur i鈥檞 ganmol am hynny, am lwyddo i bortreadu anghenfil o ddyn hunandosturiol nad yw鈥檔 llawn llathan.

Yn gryno, Rhys ydi鈥檙 prif gymeriad, gwr wedi ysgaru a鈥檌 unig ferch, Gwennol, ydi cannwyll ei lygaid. Ond fe gaiff hi ei lladd mewn damwain car a dilynwn hanes y tad wrth iddo ymdopi 芒 hynny.

Yn fuan sylweddolwn nad gwr cyffredin mewn galar ydi hwn, ond yn hytrach dyn ag atgasedd yn ei gorddi.

Pan sonia am ei gyn wraig mae鈥檔 dweud ei fod yn falch iddo ei hadnabod pan oedd ei chorff yn ifanc a nwydus.

Fe adawodd hi o am wr arall, ond ymfalch茂a Rhys yn y ffaith mai hwnnw fu鈥檔 gorfod gofalu amdani tra bu鈥檔 araf farw o gancr. Modd hynod o od i wr feddwl am gyn bartner, mewn termau rhywiol yn unig.

Mae鈥檔 canfod fod ei ferch yn hoyw, ac o fewn dim mae wedi rhoi鈥檙 bai ar hynny yn dwt ar sgwyddau鈥檙 ffaith iddi orfod byw yn swn cweryla ei rhieni tra鈥檔 ei harddegau.

Disgrifio hyd syrffed
A bob tro y sonia am Gwennol, mae yn disgrifio ei phrydferthwch a鈥檌 thlysni, hyd syrffed, hyd yn oed am rywun sydd wedi colli rhywun agos.

Mae鈥檙 Gymraeg yn aml yn farddonol tu hwnt, yn brydferth o farddonol ar brydiau. "Chwibanu am y berth a mi y mae awel finiog fy ngholled innau." Gall drin geiriau yn gelfydd iawn.

Cawn rannau sy鈥檔 llawn deialog, ac i mi, y rhain yw鈥檙 cryfaf gan eu bod yn dod 芒鈥檙 golygfeydd yn fyw, yn llawer gwell na鈥檙 cyfnodau hir yna lle mai鈥檙 unig lais y clywn ydi un hanner gwallgof Rhys.

Sefyllfaoedd a sgyrsiau difyr
Daw鈥檙 digwyddiadau yn gymaint gwell a llawn bywyd pan gawn ddeialog, ac mae鈥檙 awdur yn gallu creu sefyllfaoedd a sgyrsiau difyr.

O bosib fe fuaswn yn cymharu cymeriad Rhys ag Alf Garnet, yr hen wr chwerw o east end Llundain sy鈥檔 cas谩u pobl hoyw, tramorwyr ac unrhyw un sy鈥檔 wahanol iddo fo. Gan anghofio mai fo ydi鈥檙 un trist yn y pen draw.

A dyna ydi camp yr awdur buddugol hwn, sef portreadu gwr sydd yn ymylu ar fod yn anghenfil ond sydd eto yn ennyn ein tosturi.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy