主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Drych o fywyd Cymry America

Hanes papur newydd hynaf y Cymry yn yr Unol Daleithiau

Dydd Iau, Tachwedd 8, 2001

Welsh Reflections - Y Drych & America 1851-2001 gan Aled a Bill Jones. Gomer. 拢14.95.
Pedair seren
Adolygiad gan Gwyn Griffiths


Mae Welsh Reflections, hanes y papur newydd, Y Drych sy鈥檔 newyddiadur hynaf y Cymry yng Ngogledd America - gan yr haneswyr Aled Jones a Bill Jones, yn dweud stori gyffrous, ddifyr a gwerthfawr.

Ymddangosodd y papur gyntaf ar Ionawr 2, 1851 ac eleni yr oedd yn dathlu 150 mlynedd di-dor.

Ei ddyfodol mewn peryg

Trist clywed wedyn, ac yntau wedi croesawu canrif a mileniwm newydd, bod ei ddyfodol yn ansicr ar hyn o bryd.

Mor ansicr, nes bod amheuaeth a w锚l y flwyddyn 2002.

Yr arwyddion o鈥檙 Unol Daleithiau yw fod y papur ar werth ac os na cheir prynwr rhwng hyn a diwedd y flwyddyn na welwn rifyn ar 么l mis Rhagfyr.

Buasai hynny鈥檔 ddiweddglo trist i gyfnod a chofnod werthfawr yn hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.

Mae hanes y papur yn adlewyrchiad o鈥檙 newid yn natur y Cymry, a phwrpas y papur wrth geisio adlewyrchu a bodloni鈥檙 gymuned sylweddol, gwasgaredig ac eang sydd 芒鈥檌 gwreiddiau yn yr "hen wlad".

Popeth yn Gymraeg i ddechrau

Am yn hir bu鈥檔 bapur cyfangwbl Gymraeg - wedi鈥檙 Ail Ryfel Byd y troes yn gyfangwbl i鈥檙 Saesneg.

Am ddegawdau, safai ysgwydd wrth ysgwydd 芒 Baner ac Amserau Cymru Thomas Gee fel y newyddiaduron Cymraeg uchaf eu parch.

Yn y dyddiau cynnar ei bwrpas oedd helpu鈥檙 Cymry Cymraeg i ymsefydlu yn y byd newydd.

Bu cynnydd enfawr yn nifer y Cymry aeth i鈥檙 Unol Daleithiau yn y blynyddoedd rhwng 1850 ac 1890 - llawer ohonyn nhw wedi arfer darllen Cymraeg, papurau cenedlaethol fel Baner ac Amserau Cymru, papurau enwadol fel Y Goleuad, a phapurau lleol mewn ardal ddiwydiannol fel Tarian Y Gweithiwr yn Aberd芒r.

Manteisiodd Y Drych ar y llif hwnnw o Gymreictod.

Hysbysebu am wraig
Nodir yn y gyfrol fod yn agos i 116,000 o siaradwyr Cymraeg yn yr Unol Daleithiau yn 1872.

Mae yn y gyfrol nifer fawr o ddyfyniadau difyr - nodweddiadol Gymreig - o鈥檙 papur.

Stori am George T. Matthews, gwr tlawd o Grughywel a ddaeth yn gyfoethog trwy werthu te yn yr America - un ohonyn nhw oedd Te鈥檙 Brenin.

Bu鈥檔 hysbysebu鈥檔 ddi-fwlch yn Y Drych rhwng 1873 a 1932 a dau arwydd o Gymro da, yn 么l Matthews, oedd ei fod "Yn yfed te鈥檙 Brenin ac yn darllen Y Drych."

Mewn teyrngedau i鈥檙 ymadawedig, medd awduron Welsh Reflections, cafwyd cyfeiriadau cyson bod hwn a hwn yn ddarllenydd cyson o鈥檙 Beibl ac o鈥檙 Drych!

Nid anarferol 鈥檆hwaith yn y dyddiau cynnar fyddai darllen hysbyseb fel:
"Eisiau Gwraig - Dymunaf agor gohebiaeth a merch ieuanc neu gwraig weddw ieuanc; dim gwrthwynebiad fod ganddi un plentyn ieuanc. Rhaid iddi fod o gymeriad da ac yn proffesu crefydd. Y bwriad yw gwneyd dau yn un i gario yn mlaen ffarm yn y Gorllewin, a gwneyd cartref yn gysur. Dim twyll na chwareu."

Yr oedd yn bapur am ddegawdau lawer a adlewyrchai ddiddordebau eang. Cafwyd erthyglau taith - cyfres dan y teitl Dwywaith o Amgylch y Byd gan wr o鈥檙 enw William O. Thomas yn 1882.

Math anarferol iawn o newyddiaduraeth mewn papurau Cymraeg yn y cyfnod hwnnw.

Diddorol, hefyd, fel y byddai golygyddion a newyddiadurwyr yng Nghymru yn codi straeon o鈥檙 Drych, o ddyddiau Gwilym Hiraethog hyd E. Morgan Humphreys.

叠测诲诲补颈鈥檙 Drych, yntau, yn ei dro, yn codi straeon o bapurau Cymraeg yng Nghymru.

Roedd yn dda iawn am fachu鈥檙 agwedd Gymreig o stori - dod o hyd i Gymry mewn trychinebau. Y math o beth mae 主播大秀 Radio Cymru鈥檔 dda iawn am ei wneud y dyddiau hyn.

Rhifynnau ar goll

Yn anffodus o safbwynt yr awduron, ni lwyddwyd i ganfod copi o bob rhifyn a argraffwyd o鈥檙 papur.

Mae amryw resymau am hyn - nid oedd papur ar gyfer grwp ethnig yn America o ddiddordeb mawr i lyfrgelloedd America. Nac ychwaith i lyfrgelloedd Prydeinig.

Bu t芒n yn swyddfa鈥檙 papur ar Ragfyr 12, 1924. Heblaw鈥檙 golled fawr mewn offer ac adnoddau, collwyd holl 么l-rifynnau鈥檙 papur a chollwyd deunydd amhrisiadwy i ymchwilwyr am fywyd y Cymry yn America.

Diflannodd rhifynnau cyfnod y Rhyfel Cartref a fuasai wedi bod yn ddiddorol tu hwnt.

Yn erbyn caethwasiaeth a Phatagonia

Gweriniaethol oedd gwleidyddiaeth y papur a gwrthwynebai gaethwasiaeth yn ffyrnig.

Bu ffrae hir rhwng y papur a Samuel Roberts (SR) oedd am sefydlu gwladfa Gymreig yn Tennessee.

Roedd Y Drych yn gwrthwynebu Gwladfa Patagonia, hefyd, ac un o ystrywiau鈥檙 papur i geisio cadw鈥檙 Cymry rhag ymfudo yno oedd stori gyfres Y Carcharor ym Mhatagonia a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd 1856-57 - ymdrech amlwg i godi braw ar unrhyw Gymry oedd yn ystyried mynd yno i fyw.

Roedd gan berchnogion Y Drych eu cwys eu hunain ac am wladychu rhannau mwy gogleddol o鈥檙 Unol Daleithiau a chyhuddid SR - ar gam - o fod yn bleidiol i gaethwasiaeth.

Roedd hefyd yn heddychwr ac yn gwrthwynebu鈥檙 Rhyfel Cartref, tra bo鈥檙 Drych yn bleidiol i achos y Gogledd.

Bu鈥檙 ffrae honno鈥檔 berwi am flynyddoedd gan ysgogi cyfrolau o eiriau wrth i SR amddiffyn ei safbwynt ac i鈥檙 Drych geisio cyfiawnhau ei safbwynt yntau.

Fel y gellid disgwyl, hwyrach, yr oedd yn y papur lawer o gerddi a straeon cyfres, yn 么l yr awduron mae yma faes i鈥檞 gloddio.

Llawer o Jonesiaid

Pwyntiau bach gogleisiol, wedyn, fel y nifer fawr o Jonesiaid fu鈥檔 golygu neu鈥檔 berchen y papur. Bu nifer dda o ferched hefyd yng nghadair y golygydd.

Yn y cyfnod presennol fe鈥檌 gwelir fel papur sy鈥檔 rhoi modd i Americaniaid ddal rhyw fath o afael yn eu gwreiddiau a chysylltiad 芒鈥檙 "hen wlad".

Sonnir yn y gyfrol am ddadlau ynglyn 芒 phwysigrwydd yr iaith - dadl oedd yn mynd rhagddi yn y Gymraeg yng ngholofnau鈥檙 papur. Rhai yn cymryd yr agwedd iddynt fynd i America i achub eu hunain, nid yr iaith!

A all rhywun ystyried ei hun yn Gymro os nad yw鈥檔 siarad yr iaith, holir. Datganiad y cafwyd adlais honno yng Nghymru鈥檔 ddiweddar.

Mae鈥檙 gyfrol hon gan yr Athro Aled Jones a鈥檙 Dr Bill Jones yn ddifyr a phwysig. Stori ramantus ac am frwydro cyson. Mae鈥檙 papur nawr yn wynebu brwydr eto.

Bydd yn drist os daw鈥檙 papur i ben ym mlwyddyn dathlu ei canrif a hanner, a blwyddyn cyhoeddi鈥檙 gyfrol ardderchog hon yn hanes y papur.







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy